Dechrau'r wythnos yr oeddwn yn erlid dant y llew o'r lawnt a'r boderi ac yn eu melltithio, ond erbyn heddiw rwy'n teimlo ton o euogrwydd. Taith o gwmpas yr arfordir, o Gemaes i Fangor, a wnaeth i mi newid fy nghan, canys dyna pryd y gwelais nhw yn eu gogoniant. Na, ni welais i erioed y fath sbloet. Am ugain milltir bron, yr oeddynt yn un mintai y naill ochr i'r l么n, rhesoedd ohonynt yn f么r o felyn, yn ymestyn am yr haul ac yn llonni fy nghanol innau. Rhaid fod tywydd gwlyb yr haf diwethaf wedi bod yn ddelfrydol i'r hadau ysgafn i egino'n drwch, gan ffurfio eu borderi eu hunain. 'Hen estron gwyllt o ddant y llew a dirmyg lond ei w锚n' ond i mi Dydd Llun, peth arall oedd ei weld yn ei libart ei hun, wedi'r cyfan, nid fi ydy'r 'garddwr' yno. Gwen Croesa
|