Rydan ni yno gan fod Phuan - Ieuan Owen, ail fab Mr a Mrs Edward Owen, sy'n byw yno, wedi trefnu g锚m b锚l-droed rhwng Hogia Pentraeth a Hogia Llansadwrn. Rydan ni yno ers meitin yn disgwyl a disgwyl i rhywun ddweud wrthym bod t卯m Llansadwrn yn disgwyl amdanom ar y Bryniau.Blynyddoedd yn ddiweddarach:
Canslio'r Gem
Mae rhywbeth o'i le
wrth droed Mynydd Llwydiarth
Mae'r tonnau yn torri
yn dristach yn Nhraeth Coch
Mae rhyw ddieithrwch yn
Rhes y Nant
a hiraeth ym Maes Geraint
Mae saith ohonom
ar gae Y Bryniau
yn hel ein pac
i gicio'n sodla
o flaen Cloth Hall.
Dydy Thompson na Tecsas,
Seus na Phuan
ddim ar gael.
Os oedd yna Thompson yn nh卯m Hogia Pentraeth yr oedd yna un hefyd yn chwarae i d卯m Rhyl Athletic - t卯m cryfa Gogledd Cymru am rhyw ddeng mlynedd wedi'r Ail Ryfel Byd. Enillodd y t卯m nifer o gwpanau ac yn eu mysg Cwpan Cymru dwy flynedd 么l yn 么l.
Curo Merthyr Tudful yng Nghaerdydd ym 1952 a blwyddyn yn ddiweddarach ar gael Ffordd Farrar, Bangor, curo Caer o ddwy g么l i un. Aelodau amlwg i'r t卯m hwnnw oedd Eric Ferguson, Torn McKillop, y Capten a Don Spendlove y centre forward. Don Spendlove sgoriodd y g么l a enillodd y g锚m i Rhyl.
Y chwaraewr a basiodd y b锚l iddo oedd John Thompson, Albanwr a chwaraeai inside left. Daeth ef a nifer eraill o Albanwyr i chwarae i Rhyl dan adain y rheolwr, Billy Russell. Bu'n chwarae i Rhyl am nifer o flynyddoedd. Ychydig fisoedd ar 么l chwarae i Rhyl yn rownd derfynol Cwpan Cymru ymunodd 芒 Bangor City am dymor 1953-54. Ei bartner ar yr asgell chwith i Fangor oedd Beriah Moore. Doedd gan y ddau fawr o wallt!
Bu farw William Thompson mis Mai 2002. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach bu farw Tecsas, Tecwyn Parry, Bronwen. Ynghanol mis Gorffennaf 2003 bu farw Seus, Eifion Roberts, 6 Nant Terrace, Pentraeth a rnis Mehefin eleni bu farw Phuan, Ieuan Owen, 28 Maes Geraint. Diwrnod olaf o fis Mawrth eleni y bu farw John Thompson yn y Rhyl. Fe setlodd nifer o'r Albanwyr yn y Rhyl ar 么l iddynt orffen chwarae p锚l-droed.
Gan fod gen i ddiddordeb mawr yn hanes p锚l-droed Cymru dros ddegawd y pumdegau ysgrifennais at Mrs Patricia Thompson, gweddw John Thompson, y Rhyl. Yn sg卯l yr ohebiaeth rydw i wedi derbyn dau lun ganddi, llun t卯m Y Rhyl 1952-53 a th卯m Bangor City 1953-54. Yn ystod y cyfnod dan sylw roedd Walter Rowlands wedi symud i fyw o Gefn Hir ac Yncl Hugh ac Anti Mary wedi symud o Rhos Farm i ffarmio Cefn Hir.