(笔补谤丑芒诲)
"Chwaraeodd t卯m yn cynrychioli Bae Colwyn eu g锚m gyntaf yn Ionawr 1881, gyda'r clwb yn dathlu di 125 mlwyddiant yn ystod tymor 2005/06 . Ychydig a wyddir am hanes cynnar y Bae heblaw iddynt gystadlu yng Nghynghrair P锚l-droed Arfordir Gogledd Cymru o 1901 hyd y daeth y gystadleuaeth i ben yn 1921 pan ymunodd y rhan fwyaf o glybiau Cynghrair Cenedlaethol Cymru.
Cafodd y Bae gryn lwyddiant yn y gynghrair hon, gan ennill Cwpan y Gynghrair yn 1928 a gorffen yn ail yn y gynghrair ym 1928 a 1930 - oedd i brofi'n flwyddyn olaf y gystadleuaeth. Ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno cynhaliwyd cyfarfod yng Ngwesty'r Albion yng Nghaer gyda'r bwriad o sefydlu'r Cheshire Football Combination, cystadleuaeth ar gyfer clybiau o Sir Gaer a Gogledd Cymru. Teitl y gynghrair yn y pendraw oedd y North Wales Football Combination.
Roedd y Bae yn un o'r clybiau gwreiddiol ac fe chwaraeodd y clwb fel rhan o glybiau p锚l-droed Lloegr yn 1930/31 - gan nodi hynny drwy ennill y teitl.
Ym 1931 ymunodd y clwb gyda Chynghrair Birmingham & District. Yn y gynghrair gyda'r Bae oedd clybiau Worcester City, Cradley Heath, ail d卯m Wrecsam a Kidderminster Harriers. Yn anffodus profodd y teithio yn broblem ac fe effeithiodd hyn ar y canlyniadau. Gorffennodd y Bae ar waelod y tabl ar ddiwedd tymhorau 1935/36 a 1936/37, a doedd hi'n fawr o syndod i'r clwb adael y gynghrair er mwyn ymuno gyda Chynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1937.
Wedi'r Ail Ryfel Byd fe ail ymunodd y clwb gyda'r gystadleuaeth gan brofi llwyddiant, drwy orffen yn yr ail safle ar ddiwedd eu tymor cyntaf gan ennill y teitl ym 1983 a 1984.
Gorffennodd y Bae yn ail ym 1964 ac roedd llwyddiant yn y cystadlaethau Cwpan hefyd gan ennill Cwpan Alves ym 1964, Cwpan Cookson ym 1974, 1980, 1981, 1982, a 1984, Cwpan Barrit ym 1980 a 1984 yn ogystal ag ennill Cwpan Her Arfordir Gogledd Cymru ym 1982, 1983, 1984, 1992 a 1996, 1998 a 2000.
Yn 1984 penderfynodd y clwb i groesi'r ffin i chwarae yn Lloegr ac fe'i etholwyd yn aelod o Gynghrair y Bass North West Counties League. Yn ystod yr un cyfnod y gadawodd y Bae eu maes ym Mharc Eirias gan symud i'w cartref presennol ar Ffordd Llanelian. Yn ystod eu tymor cyntaf yn y gynghrair sicrhaodd y clwb ddyrchafiad o'r Drydedd Adran ac wedi ail-drefnu'r cynghreiriau ym 1987 fe gododd y clwb i'r Adran Gyntaf. Gorffennodd y clwb yn bedwerydd yn y gynghrair yn ogystal 芒 chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cynghrair Raab Karcher, ond iddynt golli i Warrington yn Gigg Lane, Bury. Y tymor hwnnw, am y tro cyntaf yn eu hanes, cyrhaeddodd y Bae rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr, gan golli o 1-0 oddi cartref yn Northwich Victoria.
Y tymor canlynol fe gyrhaeddodd y Bae ffeinal Cwpan Raab Karcer am yr eilwaith yn olynol, a thalu'r pwyth yn 么l drwy guro Warrington o 3-0. Ym 1990/91 gorffennodd y clwb yn ail yn y gynghrair i Knowsley United, ond wedi cwymp South Liverpool roedd lle yng Nghynghrair y Northern Premier League, ac fe gafodd y clwb eu hethol gan sicrhau mwy o bleidleisiau na North Shields.
Dechreuodd y Bae dymor 1991/92 ar garlam - ar frig y gynghrair ac yn mwynhau rhediad yng Nghwpan yr FA a'u gwelodd yn cyrraedd y rownd ragbrofol olaf cyn colli yn erbyn Morecambe.
Serch hynny yn Hydref 1991 daeth y newydd y byddai Cymdeithas B锚l-droed Cymru, wrth greu cynghrair genedlaethol newydd, yn gwrthod caniat芒d i dimau lled-broffesiynol Cymru gystadlu yn Lloegr. Roedd y clybiau: Bangor, Y Barri, Caernarfon, Casnewydd, Y Drenewydd, Merthyr Tudful a'r Rhyl yn ogystal 芒'r Bae eisiau parhau i chwarae yn Lloegr. Heriwyd y Gymdeithas ac fe apeliodd y clybiau, ond fe'i gwrthodwyd oni bai am Merthyr a gafodd ganiat芒d i barhau i chwarae yn Lloegr.
Er mawr glod i'r chwaraewyr a'r t卯m rheoli, ni wnaeth y digwyddiadau oddi ar y cae effeithio arnynt ac fe aethant yn eu blaenau i ennill Adran Gyntaf Cynghrair HFS yn ogystal 芒 Chwpan yr Adran a Chwpan Her Arfordir Gogledd Cymru.
Cyrhaeddodd y clwb rownd gyn derfynol Cwpan Cymru a hynny wedi iddynt guro Wrecsam o 3-1 yn yr wyth olaf, dim ond ychydig ddyddiau wedi i glwb y Cae Ras guro Arsenal yng Nghwpan yr FA.
Ar ddiwedd tymor cyntaf llwyddiannus yng Nghynghrair y Northern Premier, roedd gan y clwb ddewis. Ymuno gyda Chynghrair Cymru neu chwarae mewn alltudiaeth wrth i'r clwb frwydro yn erbyn Cymdeithas B锚l-droed Cymru dros yr hawl i chwarae yn Lloegr. Roedd y cefnogwyr yn unfrydol o blaid parhau yn Lloegr ac fe ddewisodd y clwb gynnal eu gemau 'cartref' yn Northwich - rhyw 60 milltir o Fae Colwyn. Yn anochel fe gafodd hyn effaith ar y niferoedd oedd yn gwylio gemau cartref a'r tymor canlynol fe symudodd y clwb i Ellesmere Port. Yn ariannol nid oedd dewis y clwb yn un hawdd, ond fe'i cefnogwyd gan y cyngor lleol, trigolion y dref a'r cefnogwyr. Daeth y frwydr i ben yn Ebrill 1995 yn yr Uchel Lys yn Llundain lle enillodd y tri chlwb oedd yn dal i fod mewn alltudiaeth- Caernarfon, Casnewydd a'r Bae - eu hachos yn erbyn y Gymdeithas.
Heb amheuaeth fe gafodd y cyfnod mewn alltudiaeth effaith mawr ar y clwb ac roedd hi'n gamp fawr i'r clwb lwyddo i aros ym Mhrif Adran Cynghrair y Northern Premier League.
Yn ystod rhan olaf y nawdegau mwynhaodd y clwb sawl rhediad cofiadwy yn y cystadlaethau cwpan gan gyrraedd rownd gyntaf Cwpan yr FA ar dair achlysur a chyrraedd yr ail rownd am y tro cyntaf erioed cyn colli o 2-0 oddi cartref yn Blackpool.
Yn 1997 fe gafodd y clwb eu rhediad gorau yn Nhlws yr FA gan gyrraedd rownd yr wyth olaf cyn colli i Stevenage Borough, oedd ar y pryd yn bencampwyr y Conference.
Ar ddiwedd tymor 2000/01 penderfynodd Bryn Jones ymddiswyddo fel rheolwr wedi 18 mlynedd wrth y llyw gyda Colin Caton yn cymryd yr awennau fel chwaraewr/reolwr. Yn ei dymor cyntaf sicrhaodd y Bae eu lle ym Mhrif Adran y Northern Premier ond y tymor canlynol, 2002/03, disgynodd y clwb am y tro cyntaf yn eu hanes ac fe ymddiswyddodd Caton. Penodwyd Jimmy Mullen fel y rheolwr newydd ym mis Mai 2003, ond gadawodd y clwb flwyddyn yn ddiweddarach wedi i'r Bae fethu cael dyrchafiad fel rhan o'r ail-strwythuro.
Daeth gr诺p newydd o gyfarwyddwr i reoli'r clwb hanner ffordd trwy'r tymor hwnnw gyda'r bwriad o wella'r modd yr oedd y clwb yn cael ei redeg."
Aled Williams
Tymor 2007/08