大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llyn Tegid Anghenfil Llyn Tegid
Beth sydd yn llechu yn nyfnderoedd Llyn Tegid tybed? Mae'r cyn athro, Gareth Jones o'r Bala, wedi gweld rhywbeth, ond beth yn union ...?
"Un diwrnod yn y 1970au, roeddwn i a fy ngwraig wedi mynd i eistedd ger y llyn, ryw filltir o'r Bala. Mi ddaru ni weld rhywbeth yn sticio allan o'r d诺r - rhyw domen, tua troedfedd a hanner mewn taldra.

Symudodd yn araf i fyny'r llun, ymhellach a phellach i ffwrdd nes iddo ddiflannu.

Ar y pryd, roedd Eifion Glyn wedi cychwyn y papur Sulun ac mi ddaru wneud ymholiadau a ffeindio fod 'na awgrym fod pobl eraill wedi gweld rhywbeth yn y llyn hefyd.

Honnodd warden y llyn, sydd wedi marw erbyn hyn, ei fod wedi gweld rhywbeth yn symud ar hyd y llyn o bell pan oedd yn ei gar, yn edrych allan tuag at Llanycil. Pan aeth i lawr i'r llyn doedd dim i'w weld.

'Dwi wedi clywed am un arall a welodd gysgod mawr, hir, yn pasio o dan ei gwch wrth iddo bysgota ar y llyn.

Daeth t卯m o Japan draw yma yn yr 1980au ar 么l iddyn nhw glywed am yr hanes. Mi aethon nhw i lawr mewn sybmar卯n bach, reit i ddyfnderoedd y llyn. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw wedi darganfod dim.

Yn ddiweddar, daeth boi o Awstralia draw, Tim Healy. Roedd o'n gweithio yn y brifysgol ac yn mynd rownd y byd yn gwneud gwaith ymchwil ar fwystfilod gan fod straeon fel stori Loch Ness yn reit gyffredin mewn gwahanol lynoedd.

Roedd o am gyhoeddi llyfr ac mi ddaru o addo danfon un i mi, ond dwi ddim wedi clywed dim ganddo eto.

A dyna fo - dwi ddim yn si诺r beth wnes i ei weld na beth sydd yn nyfnderoedd Llyn Tegid..."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy