大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwyniad Gwyniaid Llyn Tegid
Dim ond yn Llyn Tegid, Y Bala, y mae'r gwyniad i'w gael. Ond mae ffactorau fel ansawdd y d诺r, diffyg ocsigen yn nyfnderoedd y llyn yn ystod yr haf, gweithgareddau pobl a newidiadau yn lefelau d诺r y llyn - wedi bygwth goroesiad y pysgodyn prin hwn.
Ond erbyn hyn mae cam olaf prosiect i adleoli'r pysgodyn prin, a cheisio'i atal rhag diflannu am byth, wedi ei gwblhau.

Prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri oedd hwn, ac fel rhan ohono cafodd wyau wedi eu ffrwythloni eu symud i lyn gerllaw.

Cafodd yr wyau a gaiff eu cynhyrchu gan bysgod sy'n silio eu cymryd o Lyn Tegid, a'u rhoi mewn safle cyfagos, a'r gobaith yw y bydd poblogaeth newydd yn ffynnu yno mewn amodau mwy ffafriol.

Meddai Richard Brassington o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Yn rhannau dyfnaf ac oeraf y llyn y mae'r pysgod yma'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser, a dim ond yn ystod yr adeg yma o'r flwyddyn y byddan nhw'n mentro i dd诺r mwy bas yn ystod y nos i silio.

"Gwnaeth ein Swyddogion Pysgodfeydd yn fawr o'u profiad a'u harbenigedd wrth ddefnyddio rhwydi s芒n i ddal rhywfaint o bysgod a'u symud yn ddiogel i'w cartref newydd. (Dull o rwydo'r pysgod mewn ffordd sy'n effeithio cyn lleied 芒 phosibl arnyn nhw a'r amgylchedd ydy hwn.) Wnaethon ni dal 31 o bysgod."

Yn 么l Rhian Thomas, Ecolegydd D诺r Croyw'r Cyngor Cefn Gwlad: "Er mai dyma oedd cam olaf y prosiect adleoli yma, fe fyddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa. Yn ystod yr haf, fe fydd arolwg pellach yn cael ei gynnal ar wyniaid Llyn Tegid er mwyn monitro unrhyw newidiadau yn y boblogaeth. Hefyd, ymhen dwy flynedd fe fydd arolwg yn cael ei gynnal ar y llyn cyfagos i weld pa mor llwyddiannus fu'r prosiect adleoli. Y gobaith yw y bydd poblogaeth newydd o'r gwyniad yn sefydlu gydag amser."

Meddai Rob Gritten, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae'r gwyniad yn bysgodyn unigryw iawn, a rhaid inni wneud pob ymdrech i ddiogelu'i ddyfodol o fewn y Parc Cenedlaethol."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy