Eisteddfod 2009 ar y 大象传媒.
Roedd yna gaer Rufeinig enfawr yn Llanfor, o dan safle'r eisteddfod yn 1997 a 2009.
Rydym yn credu ei bod yn gaer o gyfnod cynnar y Rhufeiniaid yng ngogledd Cymru. Adeiladau pren oedd yna rhan fwyaf; efallai ei fod yn wersyll dros dro i filwyr wrth iddynt symud drwy'r ardal.
Mae o 'mond yn weladwy o luniau o'r awyr neu brofion geoffisegol. Ond roedd y canlyniadau o archwiliadau o'r fath yn un o'r rhai gorau dwi erioed wedi gweld.
Y mae profion geoffisegol yn nodi newidiadau yng nghyflwr magnetig y pridd. Er enghraifft, os gymerwch gae nad yw neb wedi ymyrryd a fo ers cyfnod y rhewlifol, neu lifiadau'r afonydd yn yr ardal yma, mi fydd y pridd yr un fath reit ar draws y cae.
Ond os yw rhywun wedi cloddio yn y cae, ac felly wedi ymyrryd 芒'r uwchbridd, neu os yw rhywbeth wedi cael ei losgi ar y tir, mae'n bosib pigo fyny'r newidiadau yn yr ocsidiau magnetig.
Rydym yn cymryd darlleniad bob rhyw 50 cm ar draws y cae, ac felly yn gallu creu darlun o'r hyn sydd wedi newid yn y tir dros y canrifoedd. Oherwydd y math o bridd sydd yn Llanfor, mae'n bosib gweld amlinelliad pob adeilad o fewn y gaer, ac ystafelloedd o fewn yr adeiladau yna.
Mae o jest yn bosib gweld amlinelliad y gaer gyda'ch llygad, os ydych yn gwybod yn union ym mhle i edrych.
Cafodd y gaer yma ei phigo fyny ar ddamwain! Roedd archeolegwr ar ei ffordd n么l yn ei awyren, ar 么l iddo archwilio Caer Gai, caer Rufeinig arall ar ochr arall Llyn Tegid, pan sylweddolodd ar Lanfor. Roedd yn ystod y sychder mawr yn 1976 pan gafodd sawl lle fel hyn ei ddarganfod.
Aethom yn 么l i Lanfor cyn Eisteddfod Genedlaethol 1997 i sicrhau na fyddai dim yn cael ei ddifrodi wrth gynnal yr 诺yl. Mae'n rhaid gyrru angorau enfawr i mewn i'r pridd wrth godi'r pafiliwn, felly ddaru'r eisteddfod ei gosod ar dir lle nad oes gweddillion Rhufeinig. Mi fydd rhan fwyaf o'r hen gaer o dan y maes parcio.
Mae yna hefyd safleoedd claddu o'r Oes Efydd ger maes yr eisteddfod, yn ogystal 芒 rhywbeth gall fod yn gaer Canol Oesol. Mae'n bosib y bydd yna archeolegwr yn cloddio'r man yma yn ystod yr eisteddfod yn 2009.
Mae gan safle'r eisteddfod yn y Bala sicr hanes unigryw iddo.
Dave Hopewell
Cofio Eisteddfod y Bala '97.