Enw: Daniel Lloyd a Mr Pinc
Aelodau:
Fi (Daniel) sy'n canu, Elis ar y drymiau, Mei ar y git芒r fas, Aled (Morgan) ar y git芒r ac Aled (Evans) ar yr allweddellau.
O lle: Mi ddaru ni ffurfio ym Mhrifysgol Bangor. Dwi'n dod o Rosllannerchrugog, mae Elis a Mei yn dod o Lanystumdwy, Aled Morgan o Flaenau Ffestiniog ac Aled Evans o Ynys M么n.
Disgrifiwch steil y band: Hyd yn hyn, pwysleisio yn fwy ar y melodi 'da ni, felly roc melodig.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?: Yn y coleg ym Mangor. Mi wnes i ennill sesiwn ar C2, yn canu o dan enw fy hun. Roedd yna ymateb da felly es i'r stiwdio i recordio albwm ac roeddwn angen band.
Roedd Elis a Mei wedi bod mewn band, Mr Pinc, yng Nghricieth ac felly ddaru ni ddod at ein gilydd i gydweithio. Doeddwn i ddim am i'r gerddoriaeth fod yn fy enw i'n unig, felly 'Daniel Lloyd' a 'Mr Pinc'.
Pam/sut ddaru chi ffurfio band?: Mi wnes i ddechrau chwarae git芒r yn 11 mlwydd oed. Roeddwn mewn ambell i fand yn yr ysgol a wastad ar y llwyfan rhyw ben!
O lle daeth yr enw?: Fy enw fi ydy fy enw fi wrth gwrs, ond dwi'n meddwl mai o'r cymeriad 'Mr Pinc' yn y ffilm Reservoir Dogs daeth enw'r band - roeddent yn ffans mawr!
Uchafbwynt/isafbwynt hyd yma: 'Da ni wedi cael lot, ond dwi'n meddwl mai'r tro cyntaf i ni chwarae'r Sesiwn Fawr yw'r gorau hyd yn hyn. Roedd chwarae ym Maes B yn wych hefyd - ar 么l gwireddu breuddwyd, mae uchafbwyntiau yn newid.
'Da ni heb gael lot o isafbwyntiau. 'Da ni wedi cael gigiau ddaru ddim mynd mor dda 芒 hynny ond 'da ni ddim yn cymryd ein hunain o ddifrif.
Pwy ydy eich hoff artistiaid?: Mae gen bob aelod o'r band ddylanwadau gwahanol. Yn bersonol, dwi'n cael fy nylanwadu gan Ryan Adams, David Gray, Jimi Hendrix, John Mayer a bach o Queen, credwch neu beidio.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?: Mae'n dibynnu. Fi sy'n sgwennu'r caneuon ac weithiau ga i felodi yn fy mhen ond yn stryglo i ffeindio geiriau i fynegi rhywbeth. Neu, fel Eldon Terrace, y geiriau sy'n dod yn gyntaf. Dydy o byth yr un fath.
Efo pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes?:
Dwi ddim rili yn cael brecwast, ond hoffwn 'light afternoon lunch' efo Amy Mann. Dwi ddim yn hoffi llawer o ferched sy'n canu rili ond dwi rili yn ei hedmygu hi.
Tasech chi'n anifail, pa anifail fyddech chi?:
Mwnci mewn siwt soffistigedig.
Lle ydi'r lle gorau yn yr ardal i weld bandiau byw?:
Mae'r s卯n gerddoriaeth Gymreig yn gryf iawn yn ochrau Bangor. Mae'r Undeb yn cynnal gigs, a'r Gl么b.
Lle fyddai eich lle delfrydol i gynnal gig?:
Ar fynydd Rhos.
Pwy fyddech chi'n hoffi ei weld yn dod i'ch gigs?:
Pobl sy'n mwynhau - dyna be da ni'n licio'i weld, diddanu pobl. 'Da ni ddim yn hoffi'r hanner cylch gwag 'na o'n blaenau!