大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bangor

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bangor
Hysbysfwrdd UMCB yn yr Undeb Tro ar fyd ym Mangor?
Lowri Evans, myfyrwraig trydedd flwyddyn ym Mangor, sy'n gweld gobaith y bydd 2006 yn flwyddyn fwy cyffrous i Undeb Myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.
Bu myfyrwyr Cymraeg Bangor dan y lach ar lafar gwlad yn gyson yn y blynyddoedd diweddar.

Roedd rhai'n eu beirniadu am eu diffyg brwdfrydedd i hybu diwylliant Cymraeg Bangor tu hwnt i'r 'Gl么b', tra cwynodd nifer helaeth am eu diffyg presenoldeb yn nigwyddiadau pwysig calendr yr Undebau Myfyrwyr Cymraeg.

Nid pwyntio bys yw fy mwriad o gwbl, oherwydd yr oeddwn i fy hun yn rhan o'r gymuned 'ddi-asgwrn cefn' a dreuliodd y ddwy flynedd olaf rhwng 'J.M.J.' a'r 'Gl么b'.

Ond yn barod eleni rwy'n synhwyro fod tro ar fyd.

Gyda wyneb newydd wrth lyw UMCB, mae hon yn argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous tu hwnt. Yn gyntaf, trefnwyd wythnos y glas llwyddiannus iawn, a roddodd gyfle i'r flwyddyn gyntaf ymgyfarwyddo 芒'r ddinas, y coleg, y gymdeithas Gymraeg ac 芒 chladdu peint neu ddau!

Cafwyd nosweithiau cofiadwy fel y cr么l teulu, lle penodwyd myfyrwyr o'r ail a'r drydedd fel 'teulu' i'r flwyddyn gyntaf.

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor Cl么dd gig Bryn F么n yr wythnos mewn steil, gyda pherfformiad egn茂ol fel arfer gan Genod Droog a set gofiadwy gan Nathan Williams. Ond, mae'n si诺r mai moment fwyaf gofiadwy'r noson i nifer oedd pan fentrodd un haden o'r ail y tu 么l y llwyfan i gwyno am na chanwyd yr anthem. Gyda hyn, fe ddaeth Bryn F么n ei hun, a'r haden o Ffostrasol, i'r llwyfan i arwain y dorf i ganu'r anthem!

Ar y nos Lun ganlynol, doedd dim cyfle i eistedd yn 么l a chael ein gwynt atom wedi'r wythnos drom. Yn hytrach, parhaodd y parti gydag eisteddfod dafarn llawn adrodd gwan, canu gwannach ac ambell i ddiod i ddathlu'r cythrel canu!

Er na fentrodd llawer o'r flwyddyn gyntaf i'r noson, bu'n gyfle i'r ail a'r drydedd ailgydio yn yr hwyl sydd i'w gael mewn nosweithiau o'r fath. Yn bendant, bu'n wythnos a fydd yn sylfaen gref i'r holl ddigwyddiadau eraill sydd yn barod wedi eu trefnu ar ein cyfer am y flwyddyn sydd i ddod.

Cynhelir yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mangor mis Mawrth, ac rwy'n ffyddiog wedi'r argyhoeddiad a ddangoswyd yn barod eleni y bydd yn un i'w chofio.

Felly, dymunaf bob lwc i Ger am y flwyddyn sydd i ddod, ac rwy'n sicr y medr adfer enw da UMCB.

Lowri Evans, Prifysgol Cymru, Bangor

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy