Ffion: "Fe aeth Ysgol Beddgelert heddiw i Lanystumdwy i ddathlu Nadolig y ffordd Fictorianaidd. Doedd dim coeden Nadolig yn oes Fictoria. Gwnaethom addurniadau ar ddarn o ledr mewn si芒p coeden Nadolig"
Laura a Bethan:
"Yn Amgueddfa Lloyd George ddaru ni wneud pwdin Nadolig cadach. Rydym wedi cael amser briliant. Ond byswn ddim eisio byw yn y cyfnod yno achos roedd yn annifyr!"
Kyran ag Aiden:
"Amser maith yn 么l roedd Nadolig yn wahanol i'n Nadolig ni - doedden nhw ddim yn cael anrhegion fel chwaraewr CD. Roedd yr ysgolion yn gas iawn ac yn rhoi chwip i blant bach. Doedd 'na ddim addurniadau fel tinsel chwaith a doedden nhw ddim yn cael gwyliau."
Rachael:
"Dwi ddim yn meddwl bydda fo wedi bod yn hwyl i fyw yn yr amser Fictoraidd, ond roeddwn yn hoffi addurno coeden Nadolig wedi ei 'neud allan o ledr!" Ceri: "Ddaru ni ddysgu sut i wneud pwdin 'Dolig clwt, ac roedden ni'n anfon y pwdin 'nol i'r ysgol a gofyn i'n cogydd, Anti Ann, i'w goginio er mwyn i ni ei fwyta! Hefyd cawsom fynd i'r dosbarth i weld sut blant oedden nhw yn amser Fictoraidd."
Anest: "Dim ond un anrheg oedd y plant yn ei gael yr adeg honno, a gesiwch beth, oren oedd yr anrheg? Oren!"
Beth am Nadolig heddiw?
Ceri:
"Mae Nadolig yn amser da ym Meddgelert, oherwydd mae'n bwrw eira yma fel arfer. Dydd Mercher roedd sioe Nadolig Ysgol Beddgelert, roeddwn gen i ofn ond roedd y sioe yn dda.
Mae ysgol Beddgelert yn ysgol dda - rydan ni yn gwneud lot o waith a chanu ac yn gwneud cardiau Nadolig."
Rachael:
"Dwi'n hoffi Nadolig oherwydd mae Si么n Corn yn d诺ad i'n t欧 noswyl Nadolig."
Heulwen: "Rwyf yn meddwl am Nadolig fel ffordd i ddathlu geni Iesu Grist (a hefyd i addurno!]"
Sam a Daniel:
"Mae Nadolig yn llawen iawn ym Meddgelert ac mae'r addurniadau yma yn fflachio'n hyfryd. Rydym ni yn hapus iawn amser Nadolig ac weithiau'n canu carolau."
Anest:
"Gobeithio ceith y bobl sydd yn anlwcus amser da, a gobeithio ceith pawb Nadolig llawen o hyd a blwyddyn newydd dda bob blwyddyn."
|