"Ym mhob brochure neu dudalen ar y we, mae'n dweud fod Betws-y-coed yn gysylltiedig ag eglwys; bod 'betws' yn golygu sanctuary in the woods. Ond does ganddo ddim byd i'w wneud efo'r eglwys na lle crefyddol.
"Yn 么l Syr John Prys, roedd enw Betws-y-coed yn dod o bead house, sef gair am rywle crefyddol yn mynd yn 么l i amser y Pabyddion. Mae'n cyfeirio at eu harferiad o gyfri 'beads' wrth addoli. Ond dwi'n credu fod Syr John wedi bod yn meddwl am y gr锚d ei fod yn gysylltiedig 芒'r eglwys hefyd.
"Betws efo dwy 't' oedd ein Betws ni yn wreiddiol. Dim ond un 't' oedd ym Metws Garmon, a oedd yn ymwneud 芒 Sant Garmon a'r eglwys.
"Rheswm arall pan na fedr Betws fod ag ystyr crefyddol yw mai'r enw gwreiddiol ar y pentref, yn 么l siarter Edward 1af yng Nghaernarfon, oedd 'Betws Wyrion Iddon'. Enw wedi ei grynhoi o Iwerddon yw Iddon. I lawr y cwm, yng Nghwm Lanach, roedd yna hefyd s么n am 'Betws Wyrion Eden' - crynodeb o Ednyfed Fychan. Roedd ei wyrion o yn sicr byw yn yr ardal.
"Y peth pwysig yw, nad oes dim s么n am eglwys yng Nghwm Lanach - felly, gan nad yw'r 'betws' ym 'Metws Wyrion Eden' yn cyfeirio at eglwys, dwi'n credu nad yw'r 'betws' yn yr hen 'Fetws Wyrion Iddon' yn gallu cyfeirio at 'eglwys' chwaith.
"Dwi'n credu fod betws yn golygu tir ffrwythlon wedi ei orchuddio gan goed. Nid coed fel sydd yma heddiw ond rhai bras fel y fedwen, onnen a'r fasarnen. Mae yna hanes arwerthiant coed yn yr hen Royal Oak yn niwedd y 1700au."
Mwy am bontydd a choed y Betws ...
|