大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Catrin O'Neill Canu gwerin gyda Catrin O'Neill
Ar 么l teithio'r byd, mae'r gantores gwerin o Aberdyfi, Catrin O'Neill, wedi cael ei galw yn 么l i'r hen wlad. Ond pa ran sydd gan y dechnoleg newydd yng ngherddoriaeth o'r hen draddodiad?

Dwi newydd symud yn 么l i Gymru ar 么l byw i ffwrdd am flynyddoedd. Roeddwn yn teithio am ryw pum mlynedd, ac yr unig ffordd o allu gwneud hynny am gymaint o amser yw gweithio. Felly dwi wedi cael sawl job ddiddorol - dysgu Saesneg yn Tsieni, gweithio efo ceffylau ar ffarm organig yn Awstralia a dawnsio mewn ffilmiau Bollywood yn India!

Roeddwn yn aros mewn hostel yn Mumbai a ddaru bobl o'r byd ffilm ddod draw yn chwilio am bobl o'r gorllewin i fod yn extras. Ar 么l ychydig o hynny, ddaru nhw ofyn am ddawnswyr. Gan fy mod wedi cael gwersi ballet ers yn fach ac wedi bod i goleg cerdd a drama, cefais y cyfle i ddawnsio ac roedd yn lot fawr o h诺yl!

Yna, es i fyw yn Lloegr ac wrth berfformio yna, sylweddolais yr effaith hudol mae canu yn Gymraeg yn gael ar bobl ddi-Gymraeg. Roedd lot o bobl Saesneg yn gofyn a oeddwn yn canu yn Elfish, ar ol Lord of the Rings! Ond dyna'r peth anhygoel am yr iaith - mae o mor swynol ac yn iaith naturiol i ganu ynddi.

Er i mi hel lot o ysbrydoliaeth wrth deithio, y peth mwyaf wnes i sylweddoli oedd pa mor sbesial yw Cymru. Roeddwn wedi colli'r tir, y teulu, y gerddoriaeth a'r diwylliant.

Felly dwi wedi dod yn 么l ac yn perfformio fy ngherddoriaeth o amgylch y wlad. Mae'r sin werin, yn enwedig o gwmpas Caerdydd, yn wych.

Dwi'n meddwl fod y traddodiad Celtaidd yn un hawdd iawn i sgwennu caneuon ynddi gan mai miwsig y bobol ydy o. Dwi'n hefyd yn perfformio caneuon traddodiadol, fel Dacw 'nghariad ac Ar lan y m么r. Ond yn yr hen lyfrau caneuon gwerin, maen nhw'n dweud i ganu nhw'n araf - ond maen nhw'n gallu mynd yn eithaf depressing fel yna! Felly dwi'n rhoi twist bach fy hun arnynt - cyflymu ychydig ar y tempo, ac efallai eu perfformio gydag offerynnau gwahanol.

Mae teulu fy nhad yn dod o'r Iwerddon yn wreiddiol a dwi hefyd yn hoffi canu efo'r drwm Gwyddelig, y bauron. Un bach crwn ydy o, ac rydych yn ei chwarae efo un ffon. Mae yna ddrwm Cymraeg hefyd - y tabor - ond nid yw llawer yn ei chwarae.

Nid oes gen i gytundeb gyda label recordio na dim eto, felly dwi'n gwneud pob dim fy hun. Mi wnes i recordio'r albwm mewn stiwdio ffrind, cael cymorth gan gyfeillion eraill i losgi'r CDs a gwneud y gwaith celf i'r clawr fy hun! Mae hefyd bosib lawr-lwytho fy nghaneuon o'r we ac mae cael tudalen ar myspace wedi bod o gymorth mawr - dyna'r ffordd y mae sawl un wedi cysylltu efo fi i drefnu gig.

Ar 么l sefydlu fy hun ychydig mwy yma yng Nghymru dwi yn gobeithio cael lansiad go iawn i'r CD - denu sylw'r cyfryngau a dod o hyd i ddosbarthwr. Mae lawr-lwytho yn gr锚t ond mae'n well gen lot o bobl gael CD ac felly rhaid cael cymorth i'w dosbarthu i'r siopau.

Efallai ddylwn i fynd ar daith o holl siopau recordiau'r wlad, o dop Cymru i'r gwaelod, yn dosbarthu'r CDs fy hun!

Dwi'n gobeithio y byddaf yn llwyddiannus gan fy mod eisiau symud yn 么l i Aberdyfi, ond mi fydd yn rhaid i mi wneud fy ffortiwn yn gyntaf i fforddio t欧 fa'na!

Os ydych chi am fod yn rhan o'r s卯n werin hefyd, fy nghyngor i yw daliwch ati. Fy mhrif reol i yw, os mae rhywun yn gofyn i chi ganu c芒n, gwnewch. Mae'r gigiau dwi wedi gael, a'r bobl dwi wedi cgyfarfod, ar 么l canu wedi bod yn anhygoel, felly peidiwch byth a dweud na am g芒n!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy