大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Syrffiwr Syrffio
Dydy syrffio erioed wedi bod mor boblogaidd - anghofiwch Awstralia neu Galiffornia, mae gan ogledd orllewin Cymru arfodir penigamp i reidio'r tonau. Dyma Matt Fox o Abersoch i'n rhoi ni ar ben ffordd.
Sut ddaru chi gychwyn?
Nes i ddechrau mynd i syrffio lawr ym Mhorth Neigwl, fel rhywbeth i'w wneud gyda fy ffrindiau. Pan wnes i gychwyn, doedd 'na ddim lot o siopau syrffio rownd fan hyn, dim ond West Coast Surf, Abersoch, lle dwi'n rheolwr ar hyn o bryd.

Pam oedd syrffio yn apelio atoch chi?
Roedd yn rhywbeth i'w wneud efo fy ffrindiau a chael hwyl. Mi wnaeth pawb ddechrau syrffio yr un pryd, felly roedd yn sialens i weld pwy oedd y gorau!

Mae pethau wedi newid lot ers i mi gychwyn tua 1995. Yr adeg honno, roedden ni'n gwrando ar ragolygon y tywydd a dyfalu cyfeiriad y gwynt ond r诺an mae'n bosib edrych ar y we a chael yr holl wybodaeth am faint y tonnau ar y penwythnos i ddod.

Pa offer/dillad sydd ei angen arnoch chi?
Mi gychwynnais i hwylio pan oeddwn yn ifanc ond mae hynny'n gallu bod yn chwaraeon eithaf drud. Ond efo syrffio, 'da chi 'mond angen bwrdd, wetsuit a lifft i lawr i'r traeth!

Gallwch brynu popeth yn newydd sbon am 拢400 ond mae'n hawdd cael gafael ar bethau'n ail-law am hanner y pris.

Lle yw eich hoff le i fynd syrffio?
Lawr ym Mhorth Neigwl. Pan mae'r haul allan eniwe! Mae'n lot gwell o ddiwedd yr haf ymlaen, hyd at y Pasg. Dyna'r amser gorau pan, mae'r stormydd ym m么r yr Iwerydd yn gyrru'r tonnau i fyny i Ben Ll欧n. Mae'r m么r yn ddistawach yn yr haf, ond yn gynhesach, felly 'da ni'n dal i fynd yna i chwarae o gwmpas.

Beth yw eich profiad mwyaf cofiadwy?
Dwi wedi syrffio yn Ffrainc, Iwerddon, draw i Scarborough ac fel arfer yn mynd lawr i Gernyw bob blwyddyn. 'Da ni jest yn cael laff, cael lot fawr o hwyl.

Lle mae'r llefydd gorau yn yr ardal yma i fynd i syrffio?
'Da ni'n mynd i Borth Oer os yw'r gwyntoedd yn well na Phorth Neigwl. Weithiau 'da ni'n mynd draw i Sir F么n neu i lawr i Aberystwyth hefyd.

Beth yw eich cyngor i'r rhai sydd am ddechrau syrffio?
Cael gwersi yn gyntaf er mwyn dysgu'r pethau sylfaenol. Mae'n bwysig sicrhau fod yr ysgol i safon y British Surfing Association.

Mae yna wahanol fathau o ffitrwydd pan mae'n dod i syrffio. Mi allwch chi fynd i'r gampfa bob dydd ond wrth syrffio, da chi'n defnyddio cyhyrau gwahanol. Felly'r peth gorau i'w wneud i gadw'n ffit i syrffio, yw syrffio!

Os ydych am drio ...:

Mae'n brysur iawn yma yn yr haf gyda phobl yn dod lawr o Lerpwl a Manceinion i syrffio yma - mae Sir F么n yn stopio Bae Lerpwl rhag cael lot o donnau o'r Iwerydd.

Mae 'na lot o bobl leol yn syrffio, ond dim llawer o blant. 'Da ni wedi tr茂o helpu ysgolion yn yr ardal i annog plant i fwynhau syrffio ond dydy'r ymateb ddim wedi bod yn gr锚t. Mae'n lot mwy poblogaidd yn ne Cymru, ond mi wnawn ni barhau i dr茂o. Mae croeso i blant dros wyth sy'n gallu nofio o leiaf 50 medr ddod am wersi.



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy