I un gr诺p lleol, fodd bynnag, roedd iddo ystyr pwysig. Nhw oedd aelodau o Ffydd y Baha'i yn dathlu eu blwyddyn newydd.
"Er na fasech chi'n credu hynny oherwydd y tywydd," meddai aelod lleol o'r Baha'i, Thomas Rowan, Americanwr o dras Gwyddelig sydd wedi setlo yma ar 么l 40 mlynedd yn byw yn Affrica a dyffryn yr Amazon.
"Mae dydd Mercher (Mawrth 21 yn 2007) yn ddechrau'r gwanwyn. I ni hefyd mae'n Ddydd Calan; dechrau blwyddyn 163 ein crefydd. Dechreuodd yn Persia ac ar 么l dim ond ychydig dros ganrif a hanner lledaenodd i'r mwyafrif o wledydd y byd. Dyma'r grefydd fwyaf ei lledaeniad ar 么l Cristnogaeth."
"Mae'r gwanwyn yn amser rhesymol i ddechrau blwyddyn newydd yn tydi?" meddai Thomas, gan ychwanegu: "yn wir, dyna oedd yr arferiad yn y gwledydd hyn un adeg. Fel mae'r ddaear yn dod yn fyw ar 么l y gaeaf gallwn ninnau ddechrau o'r newydd a chan gynnig ein hunain o'r newydd yn ysbrydol. Dethlir yr achlysur mewn cannoedd o leoedd dros Gymru a Phrydain, gyda'r Baha'i yn ailgysegru i wasanaethu'r gymuned ehangach."
Yn lleol cynhaliwyd parti dathlu'r achlysur yng Nghartref Brian Almond, un o F么n sy'n byw ym Mangor. Ymunodd o 芒'r ffydd wedi dysgu amdani ym Malaysia ym 1966 tra yn y Fyddin.
Ar nos Fercher, Mawrth 21, cafwyd cinio dathlu yn y Beefeater, Parc Menai a mwynhaodd pawb oedd yn bresennol.
|