Dylan Jones yw'r dyn dewr sy'n camu mewn i'r cylch gyda'r cawr o Ysbyty Ifan er mwyn darganfod mwy am y personoliaeth tu cefn i'r ymladdwr byd-enwog.
Yn Holi Orig, a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn Llanfair Tal Haearn, cafodd Dylan gyfle i sgwrsio ag Orig Williams wrth iddo ateb ei gwestiynau yn ogystal 芒 chwestiynau'r gynulleidfa. Mae ei ferch, y gantores a'r actores Tara Bethan, bellach mor enwog 芒'i thad ac fe ymunodd hi yn y sgwrs a chanu ambell g芒n hefyd.
"Pan o'dd Tara'n y popty roedd pawb yn holi fi beth oddan i isio - hogyn ta hogan. Ac ro'n i wastad isio hogan. Taswn i 'di cael hogyn basa pawb yn disgwyl iddo fod yn het fatha fi," esbonia Orig gan chwerthin.
Cafodd Tara fagwraeth dra gwahanol wrth iddi hi a'i mam ddilyn ei thad o gylch y byd wrth iddo ymladd yn erbyn rhai o reslwyr gorau'r cyfnod. Roedd hi yn ei gornest cyntaf pan oedd ond yn ddim ond naw wythnos oed ond i Tara, dyma beth oedd bywyd 'normal'.
"Dwi'n cofio cyfarfod 芒'r holl ddynion anferthol ma' fel Giant Haystacks a chael fy ngwarchod gyda nhw yn y dressing room. Doeddwn i ddim yn gweld dim byd yn wahanol yn hyn tan i fi siarad gyda fy ffrindiau ar y iard a sylweddoli nad oedden nhw'n teithio'r byd gyda'r cewri yma," dywed Tara.
Doedd gan Tara fawr o ddiddordeb mewn reslo serch hynny felly doedd dim peryg iddi ddilyn yn 么l troed ei thad.
"Ro'n i'n real hogan fach wrth ym modd gyda barbie dolls ac yn licio ballet. Dwi'n si诺r fod gen i fwy o ddiddordeb yn reslo r诺an nag o'dd bryd hynny."
Mae diddordeb Orig mewn reslo yn fyw ac yn iach o hyd ac ar hyn o bryd mae'n hyfforddi Barry Griffiths o Borthmadog - gobaith newydd Cymru yn y gamp gorfforol. Mae Barry yntau yn westai ar y rhaglen arbennig hon a bydd cyfle i'w glywed yn s么n am y profiad o gael cefnogaeth ac anogaeth un a fu yn un o reslwyr gorau'r byd.
Holi Orig, Dydd Gwener, Gorffennaf 27, 12.15pm, 大象传媒 Radio Cymru Darllenwch fwy am Orig Williams yn ein bywgraffiad yn Oriel yr Enwogion
|