Cliciwch yma i weld rhai lluniau o arddangosfa'r canmlwyddiantPrif dudalen yr Eisteddfod
Y nod oedd trefnu eisteddfod fyddai'n dod 芒 holl gymunedau'r ynys at ei gilydd, gan symud i wahanol dref neu bentref bob blwyddyn, ac a fyddai'n 'drwyadl Gymreig' o ran cymeriad.
Ac felly y cynhaliwyd eisteddfod gyntaf y gymdeithas yng Nghaergybi yn 1907 gan ddechrau ar draddodiad mwy neu lai ddi-dor dros y blynyddoedd.
Rhoddodd y Rhyfel Byd Cyntaf stop ar yr 诺yl oedd i fod i'w chynnal yn Rhosneigr yn 1915. Ond cafodd yr 诺yl adfywiad yn Llannerch-y-medd yn 1920 lle sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys M么n am y tro cyntaf.
Parhaodd yr eisteddfod drwy'r Ail Ryfel Byd ond penderfynodd y Gymdeithas drefnu chwech eisteddfod undydd yn Neuadd y Dref Llangefni rhwng 1940 i 1945 a chytunodd pawb oedd yn gysylltiedig 芒'r eisteddfodau gynnig eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim er mwyn ysgafnhau'r baich ariannol.
Dathlodd yr eisteddfod ei jiwbil卯 yn 1957 a chyhoeddodd W.H. Rogers, dirprwy brifathro Ysgol y Sir, Caergybi, lyfryn o'r enw Hanes Sefydlu Eisteddfod a Gadeiriol M么n. Ynddo, mae'n dweud:
"Nid oes Sir arall, hyd y gwyddom, a chanddi Eisteddfod a Chymdeithas a ddaliodd yn fyw a llewyrchus gyhyd. Beth sy'n cyfrif am ei llwyddiant? Nodwedd ddaearyddol yr ynys i raddau hwyrach; y mae hi'n gryno ac yn hawdd i'w thramwyo. Ond pwysicach o lawer na hynny yw ysbryd ffeind a haelionus ei thrigolion a'r gwerth a r么nt ar ddiwylliant (nid yr uchelael) mewn cerddoriaeth, ll锚n a chelfyddyd."
Dros y blynyddoedd, bu rhai eisteddfodau yn fwy llwyddiannus nac eraill ond yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974 rhoddwyd yr Eisteddfod ar dir ariannol cadarnach pan gafodd nawdd gan Gyngor Bwrdeistref Ynys M么n, ar yr amod ei bod yn eisteddfod symudol sy'n cael ei gwahodd i wahanol ardaloedd o'r ynys.
Mae patrwm yr Eisteddfod erbyn hyn yn ymdebygu i drefn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Gorsedd y Beirdd, seremon茂au cadeirio a choroni, g诺yl ddrama a g诺yl offerynnol ac arddangosfa gelf a chrefft ynghlwm 芒 hi.
Wrth baratoi at Eisteddfod y canmlwyddiant ym Modffordd 2007, dywedodd y Cynghorydd Derlwyn Hughes, deilydd portffolio dros yr Iaith Gymraeg y Cyngor: "Mae Eisteddfod M么n yn rhan hanfodol o ddiwylliant, treftadaeth a'r Iaith Gymraeg ar yr Ynys."
"Mae cenedlaethau o Gymry ifanc o'n cymdeithasau wedi cymryd rhan yn yr wyl a mwynhau'n fawr dros y blynyddoedd.
"Mae'r canmlwyddiant yn achlysur hanesyddol y dylid ei ddathlu, a roedd y Pwyllgor Gwaith yn falch o allu cefnogi'r paratoadau yma," meddai.
Roedd cyngerdd ym mhafiliwn Sioe M么n fis Mai 2006 yn rhan o ddathliadau'r canmlwyddiant. Yn cymryd rhan roedd rhai o dalentau cerddorol amlycaf yr ynys: Sara Mai a'r Moniars, Elin Fflur a'r Band, Mojo, Rafters, Meinir Gwilym, 4 yn y Bar, Broc M么r, M么n Heli ac Unsain.
Gyda diolch i arddangosfa Hanes yr Eisteddfod yn Ystod y Ganrif yn Oriel M么n am ran helaeth o'r hanes yma.