"'Ti'n licio Westlife?' oedd fy ffrind wedi ei ofyn i mi pan ddaru'r rhestr o artistiaid y Faenol gael ei chyhoeddi. Rhaid i mi gyfaddef mod i ddim yn ffan enfawr ond yn licio'r caneuon ro'n i wedi eu clywed ar y radio. Roedd y ffaith fod fy ffrind am ddod i fyny o Gaerdydd i weld y gr诺p efo fi yn fwy o atyniad, wir, na'r hogia eu hunain.
Beth bynnag, ar noson sych (tan reit yn y diwedd) a ddim rhy oer, dyna ni'n landio yn y Faenol o gwmpas 7.30, am fy mod yn disgwyl i'm ffrind gyrraedd o'r de.
Roedd ciw i fyny l么n y Faenol ond chafon ni ddim trafferth ar y briffordd cynt. Mi gafon ni le handi ar ochr dde'r llwyfan, ddim yn bell o'r toiled. Roedd hyn yn golygu inni weld tomen o bobl roeddan ni eu 'nabod (allan o'r 12,000 oedd yno, yn 么l y s么n) ac hefyd yn medru cadw llygad ar y ciw yn aros am y cyfleusterau pan roeddan ni angen eu defnyddio.
Gynta ymlaen oedd Maria Lawson oedd yn y sioe deledu, X Factor. Roedd ganddi lwmp o lais chware teg, ac fe aeth yr amser yn reit handi wrth wrando ar ambell gan a sgwrsio hefo hwn a llall.
Roedd egwyl hir ar 么l yr artist cyntaf tan yr hogia - ydy'r prif artistiaid yn aros tan ei bod hi'n dywyll fel fod eu sioe nhw'n sefyll allan?
Beth bynnag, daeth Westlife ymlaen gyda 'bang' toc ar 么l 9.00. Nes i fentro yn agosach at y llwyfan i dr茂o cael llun o'r hogia o Werddon, ond wrth i mi agos谩u bron iawn i mi gael fy ngwasgu i fewn i'r mwd gan haid o genod ifanc sgrechlyd yn taranu i lawr y caeau tu 么l i mi. Es i n么l i'm s锚t yn reit handi.
Mi ganodd Westlife nifer o'u hits, covers fel Mandy a You Raise Me Up, ond y peth gorau oedd ei bod hi'n sioe go iawn. Roedd pedwar banner ar y llwyfan, a rhwng bob c芒n bron, mi fydda'r pedwar canwr yn newid eu gwisgoedd y tu 么l i'r rhain ac yn ystod y caneuon roedd y pedwar banner yn cael eu defnyddio fel sgr卯ns enfawr yn dangos gwahanol ddelweddau i gyd-fynd 芒'r caneuon - bob dim o ddynion yn dawnsio i g么r gospel.
Fe aeth y sioe fel fflach ac roeddwn yn falch pan ddaru nhw ddod yn 么l am yr encore.
Yr adeg honno ddaru hi ddechrau bwrw am ychydig, ond doedd dim ots. Roedd pawb mewn hwyliau da a neb isio i'r noson orffen.
Ar 么l y g芒n ddiwethaf, y t芒n gwyllt traddodiadol - a chiwio i fynd allan o'r maes parcio.
Nes i fwynhau? Do, mi nes i. Dwn i ddim os 芒 i allan a phrynu cryno ddisg Westlife, ond roedd wedi bod yn noson fythgofiadwy arall yn y Faenol. Pa mor lwcus ydw i i gael artistiaid rhyngwladol yn dod i berfformio mewn cae ond lawr y l么n o lle dwi'n byw? Mae'n debyg fod y ferch sy'n gwneud gwallt Bryn Terfel wedi gofyn iddo fo gael Westlife i'r Faenol. Wel, os ti'n darllen hwn Bryn ...unrhyw siawns fedri di gael Robbie Williams? Dwi YN gwybod ei ganeuon o i gyd."
Wena Owen