"Recordiwyd y CD hon yn ystod gig a gynhaliwyd yn Neuadd Ogwen, Bethesda, ar Fawrth 24ain, 2006 ar gyfer casglu arian i dalu am daith i Batagonia.
Rydym yn cychwyn y CD hon gyda pherfformiad gwefreiddiol gan Wyrligigs. Y g芒n gyntaf yw Amodau Byw, mae'r intro'n ardderchog gan hoelio sylw y gwrandawr yn syth ac mae'r riff bwerus yn atal eich clustiau rhag meiddio peidio 芒 gwrando'n astud.
Gyda'r g芒n hon mae Wyrligigs yn arddangos yn glir eu cydymdeimlad a'u parch tuag at Punk. Yn ogystal cawn ein hatgoffa o Nirvana, ac yn enwedig felly canu Kurt Cobain yn ystod cytgan pwerus a llawn angerdd y g芒n hon. Nesaf Dallt Bost, sy'n cychwyn gyda b芒s cywrain a llawn cynnwrf, a chawn gyfle hefyd i glywed llais Ben y basydd, llais melodig sy'n cyferbynnu'n effeithiol gyda llais rough and ready Tom. Yn dilyn hyn mae nifer o ganeuon; Gad Fi Lonydd, Bwled , Symud Ymlaen, Gwrth Gymdeithasol, sy'n gwneud i chi fod eisiau dawnsio'r pogo o amgylch eich ystafell wely fel dyn gwallgof. Yn Gad Fi Lonydd cawn ddarlun o sut brofiad yw bod yn eich arddegau, a gallwch glywed y teenage angst yn llais Tom, ond mae'r g芒n hon yn yr un maes a Smells Like Teen Spirit, yn hytrach na chanu gwag bandiau pop cyfoes.
Bwled, c芒n gyda chytgan syml clasurol, gyda'r ddau ganwr yn uno'n effeithiol, gan gyferbynnu gyda'r rhan offerynnol sy'n dangos talent amlwg y band i gyd-weu i greu sain cyffrous. Mae Symud Ymlaen ychydig yn fwy popi na chaneuon eraill yr albwm, mae'n g芒n perffaith ar gyfer diwrnod diog yn haul yr haf. C芒n wrthryfelgar glasurol yw Gwrth Gymdeithasol, sy'n dilyn 么l traed The Ramones a'r Sex Pistols. Rydym yn clywed s诺n yr ifanc yn cwestiynu awdurdod gan gicio'n erbyn y tresi. Gyda Cicio a Brathu cawn stori cariad yn yr arddegau, ond mewn modd aeddfed, llawer mwy aeddfed na bandiau dwywaith eu hoed, yn hytrach na'r caneuon slushy llawn 肠濒颈肠丑茅 a glywir ar y radio'n llawer rhy aml. Un o ffefrynnau gigs byw, Dave y Jynci, sydd nesaf, gyda riff git芒r sy'n adnabyddus ar unwaith, a chytgan gyda throad yn y gynffon gan roi cic i glustiau'r gwrandawr.
Tyrd i Fewn, c芒n tywyllach na'r arfer a ch芒n sy'n llawn myfyrio gan ddangos aeddfedrwydd y bechgyn ifanc hyn. Gorffennir rhan Wyrligigs o'r albwm gan ei sengl sydd newydd ei rhyddhau, Y Rocars Cymraeg. Mae'n g芒n berffaith i'w bloeddio yn eich llofft neu i'r dorf gydganu mewn gig, gan ddangos bod Wyrligigs yn ddi-gwestiwn wedi ennill eu lle ymysg elite y Rocars Cymraeg.
Nesaf gawn ni ran Frizbee o'r CD sy'n cychwyn gyda Pendraw'r Byd, c芒n bop berffaith ar gyfer dawnsio allan yn yr awyr agored yn yr haf ac ni fyddai allan o'i lle yn rhai o wyliau cerddorol mwyaf yr haf. Mae geiriau'r g芒n hon yn cyferbynnu gyda natur pop, happy go lucky y gerddoriaeth, ac rwy'n ofnadwy o hoff o rai o'r geiriau megis 'pobl doeth sy'n dweud bod drwg yn dda'. Yn dilyn hyn mae Adenydd Chwim, c芒n sy'n cychwyn gyda chwarae cywrain ar y git芒r, gan fynd mewn i glasur o g芒n am gariad. Mae cefndir yr hogiau a'u magwraeth yn ardal chwarelyddol Blaenau Ffestiniog yn amlwg o rai o eiriau'r g芒n hon 'mae'r mwrthwl a'r cun, yn ein hollti ni fel y lechen las'. Rydw i'n hoffi'r delweddau hyn oherwydd fy nghefndir innau yn ardal y llechi. Yn ogystal, cawn ran ble does dim offerynnau, dim ond llais Ywain a Jason, gan ddangos emosiwn yn effeithiol. Rydym yn cael gwledd arall gyda Yr Awydd, c芒n gyda rythm funky sy'n eich gorfodi i ddawnsio, ond nid c芒n bop ystrydebol mo hon, mae'n g芒n o gyferbyniad gyda rhannau tawelach sy'n llawn myfyrdod gyda delweddau diddorol, os ychydig yn dywyllach na chaneuon pop eraill 'dannedd yn dy groen' a chytgan bop llawn bywyd.
Nesaf Crwydro sy'n g芒n aeddfetach na'r disgwyl gan fand mor ifanc, ac mae cyfuno llais Ywain a llais Jason yn effeithiol iawn gan ychwanegu trwch a gwead i'r g芒n, gan ddangos ymhellach eu talent cerddorol gan ychwanegu ryw je ne sais quoi i'r g芒n. Rydw i'n hoffi clo y g芒n sy'n ddistaw a bregus. Yn dilyn hyn mae Ar 脭l Ffydd, c芒n sy'n cael ei harwain gan rythm y drymiau a'u gyrru ymlaen gan dempo cyflym y git芒r hyderus. Cawn yma, un o berfformiadau lleisiol mwyaf hyderus Ywain, yn arbennig yn y rhan hwnnw ble mae ef yn cario'r g芒n ar ben ei hun heb unrhyw offerynnau yn y cefndir, cawn weld ystod a chryfder ei lais gan arddangos ei angerdd.
Nesaf ar yr albwm mae fy hoff g芒n i, Hirnos: c芒n gyda sain crwn, cyflawn a rythm sy'n eich atal rhag gallu aros yn llonydd. Mae'r rhan pan mae Ywain yn ailganu'r gair Hirnos drosodd a throsodd yn dangos angerdd dwfn sy'n achosi'r gwallt ar gefn fy ngwddf sefyll i fyny'n dalsyth, dim ots sawl gwaith rwyf yn gwrando ar y g芒n.
Mae'r g芒n nesaf, Lennonogiaeth yn dangos heb os nac oni bai y parch anhygoel sydd gan y band hwn i John Lennon. Mae bron iawn fel pe bai ganddynt obsesiwn amdano, mae llawer o eirfa ysbrydol 'd诺r yn codi, cyn i ni foddi, mynd i ddod yn 么l, mynd i atgyfodi'. Er hyn mae'n parhau i fod yn g芒n o safon oherwydd ei bod mor funky gan fod yn ardderchog ar gyfer dawnsio.
Nesaf cawn Newid Gwedd, c芒n sy'n gwbl wahanol i'r un gynharach, gyda geiriau llawer tywyllach sydd wedi eu cyffwrdd gyda thristwch 'hel atgofion i anghofio', a chanu fwy tyner na'r arfer sy'n dangos talent lleisiol Ywain. C芒n mwy cosmopolitan ac egsotig yw'r nesaf, Bienvenue, ac rwyf yn hoffi'r ffaith eu bod wedi arbrofi gan ddefnyddio geiriau yma a thraw o ieithoedd eraill. Mae'r band yn bwrw iddi o nodyn cyntaf y g芒n gan ddangos eu dynamig a'u p诺er, ond yn well na hyn oll rydym yn clywed tanbeidrwydd ym mherfformiad Ywain pan mae'n bloeddio 'Bienvenue'.
Ambell i ffefryn gigs byw oedd nesaf gyda Heyla, clasur o g芒n bop gyda rythm ofnadwy o funky sy'n eich gorfodi i ddawnsio. Mae'r g芒n hon yn ofnadwy o fachog gan aros yn eich meddwl am ddiwrnodiau hyd yn oed ar 么l i chi ei chlywed unwaith yn unig. Yn ogystal mae perfformiad o Da Ni N么l , c芒n am gariad gyda rhai o eiriau mwyaf rhamantus a mwyaf effeithiol Frizbee: 'dwi'n gofyn ydi o werth o, ydw i'n dy garu di', 'rho gorau i dy gega os dwi'n dod adref efo chdi'. Mae'n g芒n sy'n achosi i chi eisiau dawnsio braich ym mraich, yn enwedig pan mae Ywain yn sibrwd 'sut allai i dy adael di, dwi'n meddwl mod i'n dy garu di'. Nesaf cawn Ti (Si Hei Lw), c芒n ramantus arall gyda chytgan syml iawn, ond sy'n ofnadwy o effeithiol oherwydd na allwch chi beidio cydganu a dawnsio. Yn ogystal cawn eiriau sy'n dangos angerdd syrthio mewn cariad 'sugna'r haul, sugna dy wefus'.
I gloi yr albwm mae Dora Gusan, gyda phenillion cymhleth sy'n dweud y stori a chytgan ofnadwy o syml, ail-adrodd Dora Gusan i mi, ond mae angerdd Ywain tra'n canu hyn yn cario'r dydd, mae fel pe bai ar ei liniau yn ymbil am gariad.
Mae hon yn CD ardderchog sy'n rhoi blas i ni o ddau o fandiau mwyaf cyffrous Cymru."
Megan Jones, Tregarth
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.