大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

G锚m dysteb i arwr p锚l-droed
Cafodd g锚m dysteb i arwr clwb p锚l-droed Bro Cernyw, Euryn Williams, neu Sparki i nifer o'i gydchwaraewyr, ei chynnal yn Llangernyw. Roedd Owain Schiavone yno yn dathlu, ac yn diolch. Lluniau gan Dafydd Chilton.
Chwaraewyr yn creu twnel
Y ddau d卯m yn creu twnel i gymeradwyo'r arwr oddi-ar y maes. next page
1234

"Roedd hi'n ddiwrnod i'r brenin gyda'r haul yn tywynnu ar gae p锚l-droed Llangernyw ar ddydd Sadwrn 3ydd o Fehefin a chynulleidfa deilwng wedi ymgasglu i wylio g锚m b锚l-droed arbennig iawn.

Ond roedd hi'n 'ddiwrnod i'r brenin' mewn ystyr mwy llythrennol hefyd wrth i chwaraewyr Bro Cernyw o'r presennol a'r gorffennol ddod ynghyd i ddathlu ymddeoliad brenin diamheuol p锚l-droed yr ardal.

Prin fod angen i mi ei enwi, ond Euryn Williams yw'r g诺r dan sylw wrth gwrs, neu Euryn T欧'r Ysgol i drigolion Gwytherin a Sparki i nifer o'i ffrindiau. Mae Euryn wedi chwarae i CPD Bro Cernyw er ffurfio'r clwb ym 1990, a dros y 16 tymor wedi llwyddo i rwydo 683 o goliau - ystadegau a fyddai'n si诺r o synnu hyd oed y rheini heb unrhyw ddiddordeb yn y g锚m. Mae'n anodd pwysleisio pa mor bwysig mae Euryn wedi bod yn hanes y clwb a gymaint o ddylanwad mae wedi cael ar yr holl hogia ifanc (a hen!) sydd wedi chwarae i Fro Cernyw dros y blynyddoedd.

Doedd dim syndod felly fod gymaint o gyn-chwaraewyr wedi dod allan o ymddeoliad i chwarae un g锚m arall fel teyrnged i'r prif sgoriwr.

I fod yn onest, roedd llawer o gymeriadau chwedlonol ymysg y rhai oedd yn nh卯m y gorffennol - Dyfrig a Cernyw Howatson, Jac Bryniog, Dwyfor Roberts, a Geraint Nanerth yn eu mysg. Roedd nifer o hogia ffyddlon yn y t卯m presennol hefyd gyda Rhys a Bryn Griffiths, Trystan Williams, Sion Jones a Michael Evans yn chwarae i Fro Cernyw ers blynyddoedd bellach. Gyda Toni Schiavone yn derbyn y dasg o gadw trefn ar y cyfan, roedd yn argoeli i fod yn g锚m a hanner a ni chafodd y gynulleidfa fawr mo'i siomi.

Gydag Euryn yn penderfynu chwarae iddyn nhw, dechreuodd t卯m y gorffennol ar d芒n, ond wedi chwarter awr galed a cholli Dwyfor i anaf roedd yn amlwg eu bod yn blino. Nid oedd yn syndod felly gweld Trystan Williams yn rhoi'r t卯m ifanc ar y blaen, er gwaethaf awgrym o gamsefyll a dadlau chwyrn Aled T欧 Capal!

Yn fuan iawn wedyn sgoriodd t卯m y presennol eu hail g么l trwy Rhys Griffiths. Gyda hyn, penderfynodd y t卯m h欧n ei bod yn bryd manteisio ar y rolling subs a gwneud newidiadau, a rhoddodd hyn hwb iddynt. Daeth eiliad fawr Euryn tua hanner awr mewn i'r g锚m wrth iddo fanteisio ar gyfathrebu gwael yn yr amddiffyn a rhwydo gyda'i hyder nodweddiadol, er i Mic Evans wneud ei orau i gadw'r b锚l allan ar y llinell. Ond, byr iawn oedd yr adfywiad wrth i'r t卯m ifanc orffen yr hanner gyda thrydedd g么l diolch i Rhys 'Des' Davies.

Gwelwyd llawer o newidiadau i'r ddau d卯m ar yr egwyl ac arweiniodd hynny at ail hanner llawer mwy tynn gyda'r chwarae'n llifo o un pen i'r llall. Os rhywbeth, roedd y cyn-chwaraewyr i'w gweld yn cael y gorau o'r chwarae a gorfodwyd y golwr, Charlie Jones, i wneud sawl arbediad da - wedi dweud hynny, efallai fod y modd roedd nifer chwaraewr y t卯m profiadol yn ymddangos i ymestyn wrth i'r g锚m fynd ymlaen yn ffactor!

Roedd hyn i gyd yn rhan o'r hwyl wrth gwrs, ac erbyn y diwedd roedd gan y ddau d卯m 15 dyn yr un ar y cae. Wrth gwrs, roedd rhaid i'r gair olaf fynd i Euryn a daeth cyfle pan ddyfarnwyd cic o'r smotyn yn y funud olaf, ac nid oedd y sgoriwr profiadol yn mynd i wastraffu'r cyfle gan gladdu'r b锚l yng nghornel y rhwyd. Nid oedd yn syndod clywed y chwiban olaf gyda hyn, y t卯m presennol yn fuddugol o 3-2.

Felly dyna ddiweddglo arbennig o addas i g锚m a hanner a fydd yn byw'n hir yng nghof cefnogwyr a chwaraewyr Bro Cernyw, a g锚m sy'n sicr o barhau'n glir yng nghof p锚l-droediwr gorau'r ardal.

Fel un arwydd arall o deyrnged, safodd chwaraewyr y ddau d卯m gyferbyn 芒'i gilydd i greu twnnel gan gymeradwyo'r arwr wrth iddo adael y cae. Doedd dim ar 么l felly ond mynd draw i Dafarn y Bont am lymaid haeddiannol a chyflwyno ambell i anrheg i Euryn am ei wasanaeth.

Heb os roedd y g锚m yn ddigwyddiad addas iawn i dalu teyrnged i'r chwaraewr gorau welodd Bro Cernyw erioed, ac efallai yn fwy na dim yn gyfle i'w gydchwaraewyr ddweud diolch am y pleser o gael chwarae yn yr un t卯m ag ef. Diolch Euryn."

Owain Schiavone

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy