Dydd Sadwrn
"Mehefin 17eg, prynhawn braf o haf a'r haul yn gwenu ar gaeau D么l Dafydd, Bethesda. Llond cae o bobl yn gorwedd yn yr haul yn disgwyl yn eiddgar i wledd Pesda Roc gychwyn.
Daeth Red Nature i'r llwyfan gyda phwysau'r enwau mawrion oedd i ddilyn ar eu hysgwyddau, ond nid oedd unrhyw arwydd o hyn ar berfformiad llawn hyder y band ifanc hwn. Nesaf ar y llwyfan roedd Rickoshay band sydd eisoes wedi blasu llwyddiant drwy gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2, a chafwyd perfformiad llawn egni oedd yn ail-fyw y cyffro, gan ennill mwy o ddilynwyr i'r band addawol hwn. Band ifanc mewn blynyddoedd, ond eang mewn profiad yw Wyrligigs, gyda pherfformiad ar Bandit a'u caneuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru a Radio 1 eisoes. Cafwyd perfformiad egn茂ol a ddaeth a'r dorf ar ei thraed i gydganu a chyd-ddawnsio 芒'r band llawn bwrlwm.
Y band NAR oedd yn cael cyfle i ddisgleirio nesaf, a roedd prif leisydd y band yn amlwg yn mwynhau'n arw, gan ddawnsio o amgylch y llwyfan fel dyn gwyllt. Band lleol, Winabego, oedd nesaf ar y llwyfan. Cafwyd perfformiad proffesiynol disglair gyda chaneuon delfrydol ar gyfer diwrnod diog yn yr haul ganddyn nhw.
Roedd y maes yn llenwi, y dorf yn y blaen yn twchu ac ymlaen ddaeth Genod Droog. Roedd y dorf yn amlwg wedi bod yn edrych ymlaen i'r perfformiad hwn, gyda'r lle yn dod yn fyw unwaith y daeth y band i'r llwyfan. Roedd y dorf i'w chlywed yn bloeddio gyda'r band a daeth aelodau o'r band i ganol y maes i ddawnsio gyda'r dorf gan ychwanegu at yr ymdeimlad o barti llawn hwyl oedd eisoes yn bodoli, yn enwedig wedi i brif leisydd Genod Droog daflu bal诺n anferth i ganol y dorf.
Sibrydion oedd ar y llwyfan nesaf, a'r cynnwrf wedi bod yn cynyddu yn ystod y dydd, a phawb methu 芒 disgwyl i'w gweld yn perfformio. Cafwyd hwyl wrth i'r band daflu cas诺s a chrysau T i'r dorf, a phawb yn ymladd am y gorau am yr anrhegion annisgwyl. Roedd y dorf yn cydganu a dawnsio i nifer o ganeuon y band gan gynnwys V.V.V. a Dafad Ddu, a chafwyd perfformiad anhygoel o'r g芒n dawelach a mwy rhamantus na'r arfer, Disgyn Amdanat Ti. Yn ogystal, cafodd y dorf berfformiad gwefreiddiol o g芒n newydd y band Madame Guillotine, a phwnc y g芒n, y fflagiau Seisnig di-ri ar geir yng Nghymru, yn amlwg wedi taro'r hoelen ar ei phen, yn 么l yr ymateb a gafwyd gan y dorf.
Cafwyd perfformiad gogoneddus gan Mim Twm Llai nesaf oedd yn arddangos ei ddawn ddi-gwestiwn i ddweud stori a'i grefft pan yn ymdrin 芒 geiriau. Roedd ei ganeuon melodig yn cyd-fynd yn berffaith 芒'r tywydd braf a'r ymdeimlad o brynhawn diog yn yr haul. Roedd y disgwyl yn frwd i'r perfformiwr nesaf, neb llai na Geraint Jarman. Daeth Geraint Jarman i'r llwyfan, dechreuodd y dawnsio, a phawb yn codi i'w traed fel ton anferth yn llyncu'r cae. Cafwyd perfformiadau gwefreiddiol o'r clasuron: Gwesty Cymru, Sgip ar D芒n a Rhywbeth Bach yn Poeni Pawb, gyda'r cae yn ysgwyd a chrynu i rythm y reggae. Roedd y dorf wrth ei bodd, a'r band i'w weld yn mwynhau bron cyn gymaint 芒'r dorf. Roedd y dorf wedi ei swyno, gan fethu tynnu ei llygaid o'r llwyfan ac oddi ar y dewin disglair yn dawnsio a chanu.
Hogiau lleol, Maffia Mr Huws. Pesda'n ffrwydro'n un cawl o ganu a neidio gwyllt. Dechrau'r set gyda ch芒n leol, i bobl leol 'L么n Osgoi Drwy'r Coed', a'r dorf yn bloeddio'r geiriau, hyd yn oed y rhai hynny a gafodd eu geni ymhell ar 么l i'r g芒n gael ei rhyddhau. Roedd rhieni a phlant yn cydganu a chyd-ddawnsio, ac oed ac awdurdod wedi eu hanghofio ynghanol bwrlwm y mwynhau. Roedd y dorf yn wyllt, a'r band yn mwynhau bod yn 么l adref a chael yr ymateb syfrdanol sydd ddim ond yn bosibl ei gael gan eich pobl eich hun, yn eich milltir sgw芒r. Daeth y noson i derfyn gyda phawb yn bloeddio Hen Wlad Fy Nhadau nerth esgyrn eu pennau.
Dydd Sul
Mehefin 18fed. Y tywydd wedi troi, a glaw yn disgyn ym Methesda (dyna i ni syndod!). Ond nid oedd y glaw yn ddigon i ddifetha Pesda Roc, wedi'r cwbl mae gwisgo cot law yng nghanol yr haf yn ailnatur i bobl y pentref glawog hwn. Yn ystod y prynhawn cafwyd perfformiadau gan nifer o gorau'r ardal gan gynnwys perfformiad gwefreiddiol a llawer mwy disgybledig na ddisgwyliwyd gan berfformwyr mor ifanc gan ddisgyblion ysgolion cynradd y fro. Yn ogystal, cafwyd perfformiadau proffesiynol disglair gan G么r Meibion y Penrhyn, Hogia'r Bonc, Cororion a'r Boncathod. Roedd y cymylau'n gwgu dros y cae pan ddaeth Nathan Williams i'r llwyfan, gan godi gw锚n ar wyneb y dorf er y tywydd bondigrybwyll. Cafwyd perfformiad gwych gan yr artist ifanc, gan ganu caneuon am gariad a gollwyd a dyddiau melys yn yr haf, roedd hyn yn ddigon i gael pawb yn dawnsio fraich ym mraich, gan weld haul yr haf yn hytrach na'r glaw di-stop. Bu'n rhaid i Galasia, band diweddaraf Martin Beattie (gynt o Celt) dynnu allan oherwydd anaf. Felly daeth hogyn lleol arall, Iwcs, i berfformio gan achub y dydd. Roedd Iwcs yn amlwg yn mwynhau perfformio o flaen torf leol, a chafodd y dorf ei gwobrwyo gyda llond llaw o ganeuon newydd. Ond er ei fod wedi tyfu i fyny, nid yw Iwcs wedi colli ei allu i ddiddanu a chael hwyl, a chafodd y dorf y fraint o glywed rhai o glasuron Iwcs a Doyle yn fyw.
Frizbee, band ifanc, bywiog a llwyddiannus oedd nesaf i gymryd yr awenau. Maent eisoes wedi blasu ffrwyth eu llafur, wedi iddynt deithio i bob cwr o Gymru a chael trafferth cael amser i gael eu gwynt atynt. Cafodd y dorf wledd o g芒n gan gynnwys danteithion oddi ar dair CD: Hirnos, Lennonogiaeth a'r albwm ddiweddaraf, Pendraw'r Byd sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Dechreuodd Frizbee y set gyda Pendraw'r Byd ac Adenydd Chwim, caneuon perffaith ar gyfer cael y dorf yn dawnsio. Roedd y dorf yn g么r gan ganu pob gair o bob c芒n gyda'r prif leisydd carismatig a'r merched i gyd yn heidio tuag at y llwyfan i gael golwg ar y triawd golygus, gan sgrechian yn ddi-baid rhwng y caneuon. Roedd prif leisydd y band yn neidio a sgipio o amgylch y llwyfan gan ddefnyddio ei git芒r fel arf i swyno'r dorf, a'i fwng o wallt cyrls yn wyllt.
Daeth rhamant i Pesda Roc pan berfformiwyd 'Dan Ni'n N么l', ffefryn perfformiadau byw Frizbee, ac roedd hynny'n amlwg o'r angerdd yng nghanu'r prif leisydd a chanu'r dorf. Daeth y set i ben yn llawer rhy gynnar gyda Dora Gusan. O'r diwedd daeth seren y noson, Bryn F么n, i'r llwyfan, a'r dorf yn bloeddio a sgrechian, cyn iddo agor ei geg hyd yn oed. Cafwyd perfformiad gwefreiddiol a llawn bywyd, fel rydym wedi dod i ddisgwyl gan Bryn F么n, a phawb, pob un person yn y cae, yn cydganu geiriau pob c芒n. Cafodd y dorf ei sbwylio gydag un perfformiad cofiadwy ar 么l y llall; Abacus, Yn yr Ardd ac Yn y Dechreuad. Uchafbwynt y noson oedd Ceidwad y Goleudy, gan ddod a thawelwch syfrdanol i Pesda Roc am y tro cyntaf trwy gydol y penwythnos. Cafwyd hwyl mawr yn ystod Rebal Weekend, gyda'r dorf yn morio canu. Mynnodd y dorf yn daer am 'encore', ac roedd Bryn F么n yn fwy na hapus i gael teimlo gwefr perfformio unwaith yn rhagor. Cafwyd perfformiadau ardderchog o Un Funud Fach a Chelsea Hotel i gloi'r noson, cyn i bawb, Bryn F么n, y band a'r dorf uno i ganu'r anthem, nes ysgwyd pentref Pesda i'w sylfaeni.
Penwythnos gwerth chweil, a Pesda wedi profi ei bod dal yn gallu rocio."
Megan Jones, Tregarth
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.