大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

'Hillbilly punk' yn Ll欧n
Cowbois Rhos Botwnnog / Bob, T欧 Newydd, Sarn, 4/6/2006
"Ar 么l peint sydyn roedd Twm Colt, Edgar Sgarled a Dei Morlo wedi cyrraedd ar eu ceffylau dychmygol o Fotwnnog ..." Cafodd Angharad Williams noson o 'roc caled a hillbilly punk' yn Sarn:

Cowbois Rhos Botwnnog
Cowbois Rhos Botwnnog next page
1234

"Mae T欧 Newydd Sarn wedi cael enw fel un o lefydd gorau gogledd orllewin Cymru i weld bandiau byw. Dydi'r dafarn sydd ynghanol Pen Ll欧n ddim yn edrych yn wahanol i unrhyw dafarn arall yng nghefn gwlad Cymru, ond y tu mewn ceir noson o gerddoriaeth Gymraeg ar ei gorau.

Wedi gyrru ar hyd y lonydd troellog tu hwnt i Bwllheli roedd gweld T欧 Newydd yn olwg cysurlon. Roedd criw o ddynion wedi ymgynnull wrth y drws a chefais w锚n fawr gan un oedd yn edrych yn chwil a dweud y lleiaf! Y tu mewn roedd y lle yn llawn pobl yn dathlu ac yn groesawus iawn i'r ddau ddiethryn. Er i'r noson ddechrau ychydig yn hwyr roedd pawb yn ddigon hapus yn sgwrsio a mwynhau'r parti pen-blwydd oedd yn digwydd yno.

Mewn chwinc roedd aelod o'r staff yn bloeddio fod y band cyntaf am ddechrau. Diflanodd pawb, gan gynnwys finnau, i mewn i'r ystafell gefn i s诺n offerynau BOB. Mae'r band ifanc yma yn dechrau cael ei ystyried fel un o'r bandiau gorau sydd wedi dod ar y s卯n yn ddiweddar drwy eu cerddoriaeth roc caled sydd yn ffinio ar punk. Uchafbwynt eu perfformaid oedd y sengl gafaelgar a hwyliog 'Defaid' - roeddwn i'n dal i ganu'r gytgan wrth yrru am adref! Er nad oedd ymateb y dorf yn arbennig, doedd hynny ddim yn lleihau egni'r band. Wedi dweud hynny hoffwn i fod wedi gweld mymryn mwy o rocio ar y llwyfan gan rai o'r aelodau.

I'r rheini ohonon ni oedd wedi eistedd yng nghongl bellaf yr ystafell, roedd seibiant bach rhwng y ddau fand yn braf. Ar ol peint sydyn roedd Twm Colt, Edgar Sgarled a Dei Morlo wedi cyrraedd ar eu ceffylau dychmygol o Fotwnnog ac yn barod ar y lwyfan. Mae hillbilly punk Cowbois Rhos Botwnnog wedi cael llwyth o sylw yn ddiweddar, yn enwedig am eu perfformiadau byw; ac nid oedd y noson yma'n siom. O'r dechrau roedd pobl yn dawnsio i gerddoriaeth nodweddiadol Cowbois Rhos Botwnnog. Mae'n anodd peidio eistedd yn eich unfan pan fo caneuon fel 'Y Moch' a 'Cadfridog Cariad' yn chwarae. Drwy'r ystafell roedd pobl o bob oedran yn nodio eu pennau i bob curiad y drwm ac roedd y rhan fwyaf o'r dorf yn canu'r geiriau i ffefrynnau fel 'Musus Glaw'. Roedd hi'n noson llawn hwyl, diod, dawnsio a cherddoriaeth at ddant pawb.

Mae'n anhygoel meddwl fod y band yma wedi gwneud eu perfformiad cyntaf ychydig dros flwyddyn yn 么l oherwydd safon uchel eu perfformaid. Mae'n glir fod y band yma yn dechrau ar daith wefreiddiol ym myd roc a phop Cymru ac mae ganddynt ddigon o gefnogwyr i'w dilyn ar eu taith i'r brig."
Angharad Williams

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy