大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dathlu Ennill Mam
gan Margiad Dobson o Garndolbenmaen.
Cwm Maesglasau - dyna i chi le braf. "Lle goblyn mae fanno?" medde chi, "a be sy' mor arbennig am y lle?"

Wel cwm hyfryd ydi o ar gyrion Dinas Mawddwy, a'r rheswm i Angharad Price sgwennu ei llyfr 'O! Ty'n y Gorchudd'. Hanes teulu Ty'n y Braich a geir yn y llyfr, droad y ganrif ddiwethaf, drwy lygaid y ferch Rebecca. Doedd pethau ddim yn hawdd arnynt gan i dri o'r meibion gael eu geni'n ddall.

Roedd Mam a Taid wedi darllen y llyfr, gan fod Mam awydd adrodd rhannau ohono yn 'Steddfod y Faenol. Felly un pnawn Sul (cyn y Sioe Frenhinol) aeth Taid, Nain, Mam, Martha J锚n fy chwaer a minnau am dro i Ddinas Mawddwy. Cawsom groeso arbennig gan deulu Ty'n y Braich gan fod Taid yn eu hadnabod.

Cawsom weld y t欧, Beibl y teulu a llun o Rebecca.

Cerddasom i bendraw y cwm a gweld y pistyll yn arllwys fel ruban arian, a'r myrddynod llwm yn llawn hanes, fel y gallwn ddychmygu gweld yr hen bobl yn byw yno. Welais i erioed mo Mam mor ddistaw ar y ffordd adref, edrychai yn 么l dros ei hysgwydd ar dop allt Dinas Mawddwy fel petai yn hiraethu am y cwm - od ynte.

Ymhen amser fe ddaeth yn wythnos y Steddfod fawr. Fe aeth Taid a Mam am y 'Steddfod, doedd gen i fawr o awydd a dweud y gwir, gan fy mod i wedi diflasu ar glywed Mam yn ymarfer ei geiriau - dwi'n dal i gofio 'Moelni' hyd heddiw. Ta waeth, fel roedd Alaw fy ffrind, Martha a minnau yn chwarae, fe waeddodd Nain o'r gegin i ddweud fod Mam wedi cael llwyfan, a fod yn rhaid ini fynd ar frys am y Faenol.

Ffwrdd 芒 ni efo Nain, honno wedi cynhyrfu gymaint, fel sylweddolodd ar 么l cyrraedd, fod ei ffedog yn dal amdani. Ew roeddym yn nerfus, a Taid yn smocio rols fel coblyn. Adroddodd Mam a daeth y canlyniad. Roedd Mam wedi ennill Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn. Roedd gwraig Ty'n y Braich ar faes y Steddfod ac wedi clywed y newydd da. Daeth at mam i'w llongyfarch.

Wnawn ni byth anghofio'r diwrnod hwnnw, anghofiwn ni byth o Gwm Maesglasau na Rebecca fach.

Hwre.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy