大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Daith
gan Miriam Glyn o Dremadog.

"Brysia wir Ffion, Be ti'n neud?"

"Dod 'wan Dad!"

"Mi ddywedaist ti hynna hanner awr yn 么l, fyddi di'n methu'r tr锚n."

Roedd Ffion yn anobeithiol am frysio yn y bore. Roedd hi'n ddigon anodd iddi hi i godi i fynd i'r ysgol mewn pryd, heb s么n am hanner awr wedi chwech ar fore Sadwrn pan ddeffrodd ei thad hi. O'r diwedd, ar 么l llowcio tamaid o dost roedd Ffion yn barod, ac yn teithio ar hyd y ffordd i ddal y tr锚n.

"Pam wyt ti'n dreifio mor araf, fydda ni byth yno mewn pryd?"

"Wel nid arna i fydd y bai, y chdi oedd yn gwrthod codi."

Wedi rhuthro o'r car a charlamu i fyny'r grisiau ac ar hyd y platfform, y tr锚n oedd yn hwyr! Cyn hir clywodd sgrech y tr锚n yn arafu wrth gyrraedd yr orsaf, ffarweliodd Ffion a chamu'n gyflym arni cyn i'r tr锚n symud yn araf ar ei thaith.

Cerddodd yn unig ar hyd ar hyd y tr锚n yn chwilio am le i eistedd, aeth heibio hen hogiau gwirion yng nghefn y cerbyd ac aeth yn ei blaen, doedd na 'run sedd wag i'w gweld, ond yna gwelodd hen wraig yn eistedd ar ei phen ei hun - aeth Ffion tuag ati. Fel roedd y tr锚n yn gadael yr orsaf gwelodd ei thad yn codi llaw arni a gwenodd hithau'n 么l arno.

"Esgusodwch fi ydi'r sedd yma'n wag?" gofynnodd Ffion yn nerfus.

"Ydi tad 'stedda di yna mechan i"

"Be 'di dy enw di?"

"Ffion, i lle da chi'n mynd?"

"O, i weld y ferch yn Llundain, ma'i newydd symud yno. Be' wyt ti'n da ar y tr锚n 'ma ar dy ben dy hun?"

"Dwi'n mynd i aros efo Anti Elin, ma hi'n byw yn Llundain hefyd, mae hi am fynd a fi i weld sioe 'Lion King'"

"Braf iawn arnat ti wir"

Roedd hi'n heulog braf y tu allan ac roedd pawb ar y tr锚n yn sgwrsio. Gallai Ffion deimlo'r awel ar ei wyneb yn dod trwy'r ffenest cyn i'r tr锚n saethu drwy dwnel tywyll. Yn sydyn yn ddirybudd dyma'r golau i gyd yn diffodd, twrw brecs tr锚n yn gwichian a phawb a phopeth yn chwirlio nes glanio'n bentwr yn bendramwnagl yng nghornel y cerbyd.

Allai Ffion weld dim, ond gallai glywed pawb yn sgrechian. Roedd y tr锚n wedi stopio yng nghanol y twnel! Crynai Ffion fel jeli, curai ei chalon fel gordd, poenai y byddai hi yn gaeth yn y cerbyd am byth.

Teimlai pob munud fel awr a doedd dim arwydd o help a neb yn gwneud dim ond dal i sgrechian. Roedd hi'n dywyll fel bol buwch. Clywodd Ffion yr hen wraig wrth ei hochr yn crio.

"Be 'da ni'n mynd i wneud?" llefodd hi.

Cofiodd Ffion am ei ff么n symudol yn ei bag, ymlafniodd i'w roi ymlaen a daeth 'na lygedyn bach o oleuo cornel o'r tr锚n. Yna cafodd pawb yr un syniad a daeth golau ar ff么n pawb yn llewyrch i oleuo'r holl dr锚n. Arweiniodd Ffion yr hen wraig allan ac ar hyd y twnel i ddiogelwch golau dydd unwaith eto.

Roedd Ffion yn arwres ac wedi llwyddo i achub y dydd. Ymhen hir a hwyr cyrhaeddodd tr锚n newydd i gludo'r teithwyr i ben eu taith.

Ar 么l cyrraedd ffarweliodd Ffion a'r hen wraig. Cafodd y ddwy benwythnos gwych yn Llundain er gwaetha'r ddamwain yn y twnel tywyll. Penderfynodd Ffion y tro nesaf y byddai hi'n ymweld 芒'i modryb byddai'n teithio mewn car!


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy