Daw'r lluniau hyn yn fyw o'r nyth drwy wegamera'r RSPB ac mae'n bosib bod ganddyn nhw broblemau gyda darlledu llun o bryd i'w gilydd. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y (Saesneg yn unig).
Cafodd y nyth arbennig yma ei godi gan yr RSPB ar gyfer p芒r prin o weilch y pysgod a ddychwelodd i Gymru yn 2004. Aled Jones, un o'r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn gofalu am y nyth, sy'n esbonio mwy: "Pandion haliaetus yw'r enw Lladin am Walch y Pysgod, sef Osprey yn Saesneg. Mae hyd eu corff yn 55-58cm (1'10" - 2'00") a hyd yr adenydd, o flaen i flaen ac wedi eu hymestyn yn 145- 170 cm (4'7"- 5'7 "). "Roeddent wedi bod yn hedfan tros ogledd Cymru yn rheolaidd, ar y daith 'n么l a blaen rhwng y mannau gaeafu yn Affrica a'r safleoedd nythu yn yr Alban, ers rhai blynyddoedd. Ac, o bryd i'w gilydd, roedd ambell un yn oedi i orffwys ger Llyn Trawsfynydd, neu yn aberoedd y Mawddach, y Dwyryd a'r Glaslyn am ddiwrnod neu ddau. "Yna, yn 2004, daeth y newyddion mawr - p芒r o weilch y pysgod yn nythu yn nyffryn yr Afon Glaslyn! Cafodd dau gyw eu deor ond lladdwyd y ddau pan chwalodd y nyth yn nhywydd garw ddiwedd Mehefin. "Yn 2005, a nyth newydd, cryfach o lawer, wedi ei ddarparu ar eu cyfer, dychwelodd yr oedolion. Cafodd tri 诺y eu dodwy, a deorodd dau gyw unwaith eto." Deorodd dau gyw eto yn 2006 ac mae'r gweilch yn 么l yn magu yn y nyth yn 2007. Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan RSPB neu ewch draw i'w canolfan ym Mhorthmadog, rhif ff么n: (01248) 363800.
|