Euros, Blwyddyn 10:
"Fy swydd i yn y sioe yw 'prop man'! Rydw i yn gyfrifol am symud y propiau a gwneud yn si诺r eu bod ar ac oddi ar y llwyfan ar yr amser cywir. Mae Al Tom a minnau yn gyfrifol am y props ac yn dweud wrth yr hogia props be i neud. (squad leaders fel petai!)
Mae'r job yn gofyn am lawer o ymrwymiad a gwaith caled. (Na, seriws 'wan).
Rydw i'n mwynhau bod yn y sioe a chael gymaint o gyfrifoldeb. Mae'r profiad o weithio mewn theatr broffesiynol wedi bod yn andros o hwyl a ch诺l i ddweud y lleiaf."
Melangell, Blwyddyn 11: "Bore dydd Mercher roedd perfformiad Dewin Yr Os gan Ysgol Ardudwy yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Theatr Ardudwy.
"Rydw i wedi cael y fraint o chwarae cymeriad y wrach ddrygionus o'r gorllewin.
"Hyd yn hyn mae gweithio ar y cynhyrchiad wedi bod yn andros o hwyl ond er hynny rydym i gyd wedi gorfod gweithio'n galed, disgyblion ac athrawon ynghyd.
"Rwy'n fawr hyderus yr aiff y perfformiadau yn hwylus ac mae'r holl oriau rydym wedi rhoi mewn i'r sioe wedi bod ei werth o'n sicr.
"Mae'n brofiad bendigedig cael bod yn rhan o sioe a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a gwneud y perfformiad yn bosib."
Aled, Blwyddyn 10:"Symud 'props' ydi fy swydd i yn Dewin Yr Os. Mae'r swydd yn anodd ofnadwy! Na, dim ond jocian!
Y job anodda' ydi symud y t欧 oddi ar y llwyfan achos mae o'n drwm ofnadwy a does ddim llawer o le i'w gadw.
Ond ar y llaw arall rwyf wedi mwynhau'r swydd ac wedi cael profiad gwych o weithio mewn theatr proffesiynol."
Sian, Blwyddyn 11: "Rydw i wedi cael y fraint o chwarae cymeriad y dyn tun yn ein sioe.
"Ar y dechrau roeddwn i'n bryderus iawn i weld a fyddai'r sioe yn llwyddiannus.
"Mae'r daith hyd at heddiw wedi cael uchafbwyntiau ac adegau anodd, ond er hyn, mae'r sioe wedi cyrraedd lle digon taclus ac mae ysbryd pawb yn uchel.
"Mae'r holl gast, yn ogystal 芒'r athrawon wedi bod yn gweithio'n galed iawn.
"Hoffwn ddefnyddio'r amser yma i ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig 芒'r sioe."
Manylion y sioe ar wefan Theatr Ardudwy:
*Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.