Cynhelir ras 2008 ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf, yn dechrau am 2pm o Barc Padarn.Andi Jones, 28 oed o Salford, Sir Gaer, enillodd ras y dynion am yr ail flwyddyn yn olynol yn 2007 a hynny mewn 1 awr a 5 munud. Mary Wilkinson o Skipton enillodd ras y merched. Ewch i ddarllen y stori lawn ar safle .
Mae llwyddiant ysgubol y ras yn ei symlrwydd - rhedeg am y cyntaf o ymyl llyn Padarn i ben mynydd uchaf Cymru a Lloegr ac yn 么l i lawr, sef pellter o 10 milltir union.
Yn 2005 roedd y ras ryngwladol yn dathlu ei deng mlynedd ar hugain: cynhaliwyd y ras gyntaf ar 19 Gorffennaf, 1976 pan roddodd Ken Jones, brodor o Lanberis, y syniad gerbron pwyllgor Carnifal Llanberis mai da o beth fyddai trefnu ras o'r pentref i gopa'r Wyddfa ac yn 么l.
Cystadlodd 86 o redwyr i gyd ac enillydd y ras gyntaf oedd Dave Francis o Fryste a gwblhaodd y cwrs mewn amser o 1 awr 12 munud 05 eiliad.
"Chwilfrydedd oedd cychwyn yr holl beth," eglura Ken. "Fel cerddwr a rhedwr fy hun roeddwn i wedi meddwl droeon tybed beth fyddai'r amser cyflyma' y byddai person yn gallu cyflawni'r gamp. Felly, dyma fynd ati i drefnu ras o ganol pentra Llanberis i ben Yr Wyddfa ac yn 么l fel rhan o weithgareddau'r Carnifal ac fe dyfodd y peth o hynny."
Yn 1980 gwnaed cysylltiad arbennig gyda'r Eidalwyr wrth i Ras yr Wyddfa a phentref Llanberis efeillio gyda ras fynydd y Trofeo Vanoni sy'n cael ei chynnal ym mhentref Morbegno ar odre'r Alpau bob mis Hydref.
"Ers bron i chwarter canrif mae trigolion Llanberis wedi bod yn agor eu drysau ac estyn croeso i redwyr o Morbegno ac erbyn hyn rydan ni i gyd yn dipyn o ffrindia'," ychwanega Ken.
Darlledwyd Ras yr Wyddfa yn fyw am y tro cyntaf ar deledu yn 1987 ar S4C. Yn 么l y trefnwyr, dyma'r tywydd gwaethaf erioed iddynt ei gael ar gyfer y ras. Roedd yna gymaint o niwl a glaw fel nad oedd modd gweld dim byd wedi'r pwynt hanner ffordd.
I ddathlu 30 mlynedd y ras yn 2005, cafodd rhaglen ddogfen ei dangos ar S4C yn olrhain hanes y ras trwy lygaid Ken Jones yn ogystal 芒 rhai o'r rhedwyr, megis Malcolm Williams o Dremadog sydd wedi bod yn rhedeg y ras ers y dechrau.
"Mae Ras yr Wyddfa yn un o ddigwyddiadau mawr y calendr chwaraeon cenedlaethol erbyn hyn a chan ei bod yn dathlu 30 mlynedd roeddem yn awyddus i gofnodi'r garreg filltir bwysig hon a dod 芒 holl fwrlwm y diwrnod yn fyw i gynulleidfa ehangach. Er bod cannoedd o redwyr ar draws deg gwahanol genedl yn rhedeg bob blwyddyn mae hefyd yn ddigwyddiad pwysig iawn yn lleol ac yn fodd o roi Llanberis ar y map a denu twristiaeth i'r pentref sy'n hwb i'r economi lleol."
Roedd darlledu'r ras yn ei hunan yn fynydd o dasg dechnegol gyda hyd at 16 camera wedi eu gosod ar hyd y llwybr yn ogystal 芒 hofrennydd i gymryd siots o'r awyr. Cafodd camera arbennig gyda lens 86:1 (monster lense) hefyd ei osod gryn bellter i ffwrdd er mwyn gallu cofnodi'r manylyn lleiaf a dilyn y rhedwyr bron bob cam o'r cwrs.
Lluniau o'r ras
Lluniau'r Wyddfa
Mae 大象传媒 Radio Cymru gydag Owain Gwilym a Jonsi yn darlledu o'r ras rhwng 12.30pm a 3pm ddydd Sadwrn, 26 Gorffennaf 2008 a dangosir rhaglen Ras yr Wyddfa nos Sul, 27 Gorffennaf 2008 am 7.30pm ar S4C.