Gwyliwch wiwerod coch Niwbwrch Fe gewch gip ar adar Sgrech y coed a'r Croesbig yn y ffilm hon hefyd.
Gwyliwch wiwerod coch Coed Llwydiarth Yn 1998, dangosodd gwaith ymchwil gan Dr Craig Shuttleworth mai ar Fynydd Llwydiarth, yn ne ddwyrain yr ynys, oedd yr unig wiwerod coch cynhenid oedd ar 么l ym M么n. Dim ond 40 ohonyn nhw oedd ar 么l yno ond ar 么l i'r Cyfeillion fynd ati i ddal a difa'r gwiwerod llwyd, dechreuodd y wiwer goch ffynnu yma eto. Yn 2003, cychwynnodd y Cyfeillion ar y broses o ail-gyflwyno gwiwerod coch i goedwig Niwbwrch, gyda chymorth S诺 Bae Colwyn.
"Treuliwyd blwyddyn gyntaf y prosiect yma yn gwylio'r gwiwerod," meddai John Evans.
"Fe wnaethon ni hyn drwy osod camer芒u fideo oedd yn cael eu troi ymlaen efo pelydrau is-goch drwy'r goedwig.
"Roedd hyn yn ein galluogi i ffilmio gwiwerod coch M么n am y tro cyntaf erioed.
"Rydyn ni wedi codi nifer o guddfannau lle byddwn ni'n gallu ffilmio'r gwiwerod yn fyw.
"Bydd y rhan fwyaf o'r ffilmio yn cael ei wneud ar gamera super-16 er mwyn cael yr ansawdd gorau ar gyfer rhaglen ddogfen 'Yn 脭l o'r Dibyn' a fydd yn olrhain hanes achub y gwiwerod coch yn un o'u cadarnleoedd olaf yng Nghymru.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y rhaglen yn cael ei dangos ar deledu ac y bydd yn cael ei dosbarthu fel ffilm addysgiadol i ysgolion."
Mae mwy o wybodaeth am y cynllun i'w gael ar wefan Cyfeillion Gwiwerod Coch M么n (dolen ar y dde) neu darllenwch am y prosiect gan y naturiaethwr ac un o'r gwirfoddolwyr, Bethan Wyn Jones
|