大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ystlum mewn ogof Cyfrif Ystlumod
Aeth Huw Jenkins o Blas Dduallt, Maentwrog, gydag aelodau o Gr诺p Ystlumod Gwynedd i gyfri ystlumod tra ffilmiwyd yr achlysur gan John Evans o Roscolyn.
Cliciwch i weld ffilm o'r ystlumod

"Rydyn ni bobl yn cael ein cyfri unwaith y flwyddyn gan swyddfa'r Cyfrifiad ond mae ystlumod yn cael eu cyfri yn llawer mwy aml.

"Ar fore Sul oer yng nghwmni aelodau Gr诺p Ystlumod Gwynedd, ein gwaith ni oedd cyfri'r ystlumod trwyn pedol llai sy'n cysgu dros y gaeaf mewn hen byllau mwyngloddio yn ne Eryri. Mae'r ystlumod yma'n gymharol brin, gyda thua 14,000 yn byw ym Mhrydain - hanner o'r rheiny yng Nghymru. Ydy'r rhifau'n gostwng nhw ydyn nhw'n ffynnu eto? A pham? Beth sy'n gwneud pethau'n well neu'n waeth i'r ystlum cyffredin. Pa effaith mae 10 a aeafau mwyn wedi ei gael arnyn nhw?

"Ond nid cwestiynau inni eu dadansoddi oedd y rhain - ein gwaith ni oedd cyfri mor gywir 芒 phosib. Swnio'n ddigon hawdd?

"Mae ystlumod yn gaeafgysgu o fis Tachwedd tan fis Ebrill ond, yn wahanol i famaliaid eraill maen nhw'n deffro bob hyn a hyn i chwilio am fwyd, yn enwedig os ydy hi'n gyfnod cynnes. Dyna pam mae'n nhw'n cael eu cyfri ddwywaith dros y gaeaf, unwaith ym mis Ionawr ac eto ym mis Chwefror.

Rhydian Morris o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Pauline Barber o'r Cyngor Cefn Gwlad wrth yr agoriad i un o'r ogof芒u. "Mae ystlumod trwyn pedol yn cael eu henw o si芒p eu hwynebau. Mae'r ystlum trwyn pedol "llai", fel y gallwch ddyfalu, yn llai, tua maint eirinen. Eu ffordd nodweddiadol o gysgu dros y gaeaf ydy hongian wyneb i waered mewn hen byllau gyda'u hadenydd wedi eu lapio amdanynt. Mae hyn yn golygu ei bod yn gymharol hawdd dod o hyd iddyn nhw a'u cyfri o'u cymharu ag ystlumod sy'n gwasgu i mewn i holltau neu gilfachau i gysgu.

"Mae'r rhan fwyaf o'r pyllau maen nhw'n eu defnyddio wedi eu creu gan bobl yn tyllu am lechi, copr, mangan卯s neu blwm. Os ydy'r rhan fwyaf o byllau yn hawdd eu canfod yna mae'n debyg y byddan nhw wedi eu cau i ffwrdd gan rwyll (bariau metel) a drws wedi ei gloi arno. Y peth olaf mae'r ystlumod ei eisiau ydy fflyd o ymwelwyr pan maen nhw'n tr茂o cysgu dros y gaeaf. Os ydy'r pwll yn un sy'n anoddach cael hyd iddo ac wedi ei amddiffyn gan ddyfroedd dwfn neu fynedfa gul, yna does dim angen mwy o warchodaeth arnyn nhw.

"Rydyn ni'n cyrraedd y pwll cyntaf. Welingtons ydy'r peth gorau i'w wisgo am eich traed ond mae angen 'w锚dars' pan fydd y d诺r yn ddwfn iawn. Yn 么l rhai o'r lleill, mae angen siwtiau gwlyb weithiau. Mae hetiau caled yn cael eu dosbarthu gyda fflachlamp sy'n clipio ar y top. Ond y darn o offer pwysicaf oll ydy'r 'cliciwr', tebyg i'r teclyn sy'n cael ei ddefnyddio ar awyrennau a threnau i gyfri teithwyr. Mae'r stiwardes yn gwneud iddo edrych mor hawdd wrth iddi gerdded rhwng seddi'r 737 a chyfri 110 o deithwyr yn gywir mewn eiliadau.

"Dydi straffaglu drwy dd诺r yng ngolau lamp a cheisio peidio 芒 baglu dros gerrig mawr a tharo eich pen ar y to ddim mor hawdd. Dydi hi ddim ots gan Gr诺p Ystlumod Gwynedd os ydych chi'n taro eich pen cyn belled 芒'ch bod chi ddim yn gwasgu un o'r ystlumod wrth wneud.

"Pan fydd pobl yn mynd ar awyren, maen nhw'n tueddu i eistedd wedi eu gwasgaru'n gyfartal drwy'r caban, ac mi fyddan nhw wedi eu lleoli mewn llinellau symetrig ar bellter cyfartal oddi wrth ei gilydd. Mae pwll chwarel arferol tua 50 i 100 llath o hyd. Fel dechreuwr, rydych chi'n straenio eich llygaid dros bob modfedd o'r ogof ond unwaith rydych chi wedi gwneud hynny ychydig o weithiau, mi ddewch i weld na fyddai unrhyw ystlum gwerth ei halen eisiau cysgu mor agos i'r fynedfa neu uwch ben d诺r mor ddwfn. Felly, rhaid cadw eich ymdrechion tan nes ymlaen.

"Yr allwedd ydy mynd ati mewn ffordd drefnus - goleuo'r twnel efo'ch fflachlamp o'r dde i'r top i'r chwith ac yna yn 么l drosodd a throsodd. Mae'n swnio'n hawdd ond mae'n syndod fel mae'r llygaid yn dechrau chwarae triciau arnoch chi. Ydw i wedi cyfri'r ystlum yna yn barod? Coeliwch neu beidio, ond maen nhw i gyd yn edrych yr un fath, wel imi o leiaf. Rydych chi'n dod i ran lle mae un arall o'r criw wedi clicio'n wyllt o leiaf ddeg gwaith ychydig eiliadau yn 么l, ond fedrwch chi weld mwy na dau?

"Dydw i ddim yn si诺r pam, ond mae rhai ystlumod yn hoffi dod o hyd i le bach tawel iddyn nhw eu hunain ac eraill yn hoffi cysgu mewn criwiau o 10 neu fwy.

"Ym mhen y twnel, rydych chi'n troi rownd ac yn mynd n么l y ffordd y daethoch chi i mewn mor dawel 芒 phosib. O'r cyfeiriad arall, mae pethau'n edrych ychydig yn wahanol ... wnes i gyfri hwnna ar y ffordd i fewn?

"Yn 么l yn yr awyr agored, mae pawb yn cymharu ei sg么r. Weithiau, sg么r bach sydd mewn rhai pyllau ond mewn eraill mae na dros gant wedi eu cyfri. Gall achosi embaras os ydych chi wedi cyfri llawer llai na'r arweinydd, ond llai o embaras na phetaech chi wedi cyfri llawer mwy mae'n debyg!

"Os hoffech chi wybod mwy am ystlumod yn eich ardal chi, cysylltwch 芒'ch gr诺p ystlumod lleol drwy'r Ymddiriedolaeth dros Gadwraeth Ystlumod - . Gallwch gysylltu 芒 Gr诺p Ystlumod Gwynedd ar (o fis Mawrth 2006 ymlaen).

"Yn olaf, cofiwch fod ystlumod wedi eu gwarchod gan y gyfraith ac mae'n rhaid cael trwydded i gyfrif ystlumod sy'n gaeafgysgu."

Huw Jenkins



Addysg
Hanes
Lleol i Mi


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy