大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Welingtons - dydi pob 'ffermwr ifanc' ddim yn ffermwr! Beth sydd mewn enw?
Beth mae'r enw 'Ffermwyr Ifanc' yn ei olygu i chi? Mae Mari Glynne Davies yn poeni am ddelwedd y mudiad.

Rwy'n aelod o glwb ffermwyr ifanc Dyffryn Nantlle ers dros dair blynedd bellach. Tydw i ddim yn ffarmwr (chewch chi mohonof yn agos at unrhyw fuwch, heb s么n am darw), a thrwy'n ffrindiau y dois i wybod am y clwb.

Mae'r clwb yn cyfarfod yn wythnosol, ac yn wir, wedi tyfu'n aruthrol yn ystod yr amser dw i 'di bod yn aelod. Ond, os oes un peth yn fy mhoeni am y ffermwyr ifanc, y ddelwedd 'ffarmwr' ydyw (e.e. tractor!).

Does dim rhaid bod yn ffarmwr i fod yn aelod o'r clwb, dyma un peth sydd yn camarwain pobl. Oes rhaid newid yr enw? Dim yn fy marn i. Mae'r enw yn dweud mai clwb ydyw, dyna'r peth pwysicaf. Yn ogystal 芒 hyn, mae'n wir mai ffermwyr ydi llawer o'r aelodau, ac mae llawer o'r gweithgareddau yn cynnwys ffermio (barnu, cneifio, a.y.y.b.)

Does dim gorfodaeth i gystadlu. Beth yw'r enwau eraill sydd ar gael, beth bynnag, heb iddynt fod yn rhy debyg i'r clwb ieuenctid lleol? Pam newid rhywbeth sy'n gweithio? Tydi'r deugain (a mwy) o aelodau sydd yn cyfarfod yn Nyffryn Nantlle ddim i weld yn poeni. Mae digon o gyfleon yn y clybiau i gael hwyl, ac i gystadlu mewn ardal, a thrwy Gymru. Mae eisteddfodau, siarad cyhoeddus, y rali, y Sioe Frenhinol, cwis, bowlio deg, ffug eisteddfod, a llawer mwy i edrych ymlaen amdanynt yn ystod y flwyddyn!

Peidiwch 芒 barnu'r ffermwyr ifanc wrth eu henw, fel na ddylech farnu llyfr o'i glawr, neu berson wrth ei wyneb. Mae llawer o hwyl i'w gael. Beth sydd mewn enw beth bynnag?



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy