"Roeddwn i yn yr Aifft efo'r RAF o 1940 i 1945 - yng Nghairo ran fwyaf, yn HQ RAF Middle East. "Ar y dechrau, mi fyddwn i'n gadael Cairo bob yn ail ddiwrnod i fynd i Tubruk yn El Alamein. Roeddwn i'n weithiwr weirles ar yr awyrennau am ychydig o fisoedd - yn gyrru rhagolygon y tywydd a mynd 芒 sypleis allan i El Alamein.
"Yna mi aethon ni i fyw mewn gwersyll ynghanol Cairo, y Gaziro Club, cyn cael hostel yng nghanol y ddinas i fyw.
"Gan fod cannoedd o Brydeinwyr yno roedd 'na gapeli yno hefyd, ac mi wnaeth y Cymry gymryd un ohonynt drosodd fel Capel Cymraeg Cairo. Roedd un o'r prif Gapleiniaid yn y Dwyrain Canol yn dod o Lannerchymedd ac mi fydden ni'n cyfarfod yn y Capel Cymraeg bob nos Sul, yna mynd ymlaen i fwyty Eidalaidd a chanu caneuon Cymraeg drwy'r nos!
"Roedd eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Capel Cymraeg bob blwyddyn. Doeddwn i ddim yn un i gymryd rhan mewn eisteddfodau fel arfer ond mi wnes i fwynhau gwylio pawb yn cystadlu. Un peth sy'n aros yn y cof ydy'r 'steddfod gyntaf - yn y YMCA dwi'n meddwl. Daeth bachgen ifanc i fyny i ganu, a'r neuadd yn llawn o soldiwrs y fyddin a'r awyrlu ar leave o'r anialwch. A dyna'r hogyn yma, John Evans o Frynsiencyn, yn canu 'Cartref' - roedd na ddagrau yn ll'gadau pawb.
"Dwi'n cofio'r 大象传媒 yn darlledu o'r Aifft ar Ddydd Gw欧l Dewi Sant yn 1941 hefyd. Mi wnaethon nhw ofyn i ni, giang o fois Cymraeg ddweud gair ac mi nes i glywed fod pawb adref yn Amlwch yn gwrando.
"Cof arall ydy bod ar diwti un noson a gyrru neges morse code o Cairo i Algiers. Ar 么l gorffen mi ofynnais i'r boi mewn morse code o ble roedd yn dod - "Wales" gyrrodd yn 么l. "Where in Wales?" gofynnais. "Anglesey," meddai, "Amlwch." Roeddwn yn ei 'nabod o'n iawn ac felly roedden ni'n gallu siarad Cymraeg ar yr awyr heb boeni bod neb yn gwrando arnon ni.
"Yn ystod y rhyfel, mi gefais i pneumonia. Ges i fy anfon i'r General Army Hospital a mendio yn dda. Ond roeddwn yn gwybod ar 么l i mi wella y buaswn yn cael fy ngyrru i wersyll convalescence y fyddin, a doeddwn i ddim eisiau mynd yno.
"Felly mi ddywedais hynny wrth y Caplan, ac mi ofynnodd o lle ro'n i'n dod - Amlwch meddwn i. Roedd o'n dod o Lannerchymedd - Madog Jones oedd o!
"Paid 芒 phoeni," meddai pan eglurais fy mhroblem - a'r bore wedyn daeth dau orderly o'r RAF mewn ambiwlans a mynd 芒 fi i Balesteina i wella. Mi wnes i weithio ar Kibbutz Iddewig am ddau fis, yn trin planhigion a choed ac yn y blaen. Roedd yn agoriad llygad bod yn Tel Aviv - roedd yn ddistaw iawn yno ar 么l Cairo.
"Fel dynion sengl, doedden ni ddim yn cael dod adref o gwbl, ches i ddim dod hyd yn oed i angladd fy mrawd, oedd yn gapten llong.
"Ar 么l y rhyfel mi es i adref i Amlwch a chreu busnes yn gwerthu setiau weirles, ac wedyn setiau teledu. Yna mi werthais y busnes a mynd i weithio fel postfeistr ym Mhorth Amlwch.
"'Doeddwn i heb fod n么l i'r Aifft nes i mi glywed am gynllun y Loteri i helpu pobl fel fi i fynd n么l i ymweld 芒'r lle. Mi es i yno efo fy mab, fy merch a fy mab-yng-nghyfraith.
"Roedden ni'n aros yn Luksor ond mi es i a fy merch i fyny i Gairo am y diwrnod. Roedden nhw wedi fy rhybuddio na fyddwn yn adnabod llawer ar y ddinas a 'toeddwn i ddim chwaith. Mae'r lle wedi ehangu gymaint - mae dros 70 miliwn o bobl yn byw yno r诺an, yr ail ddinas fwyaf yn y byd. Ond mi wnes i weld lle roeddwn wedi campio yn y Gaziro Club, ac mi es i a fy merch i weld y pyramidiau, y Sphinx ac Amgueddfa'r Aifft.
"Dwi'n 87 erbyn hyn ac yn edrych ymlaen at fynd am cruise bach ar long y Van Gogh o Falmouth draw i Cadiz, Aporto a Tangiers - mae giang ohonom yn mynd."
Ffotograffau Elias Jones o'r cyfnod.