Mae enwau Ll欧n yn cyfrannu at gymeriad yr ardal - maent i gyd yn enwau Cymraeg, ac yn aml mae ganddynt gysylltiadau hanesyddol.
Mae llawer yn enwau cyffredin a chyfarwydd y mae hi'n hawdd iawn eu dehongli - Glan yr Afon, t欧 wrth afon; Abersoch, genau'r afon Soch; Llaniestyn fel bron pob 'llan' arall wedi ei chysegru i sant.
Ond mae i wlad Ll欧n fel ymhobman arall enwau anghyfarwydd sy'n anodd i'w dehongli yn aml gan eu bod wedi eu camsillafu gyda threiglad blynyddoedd a chais yn unig ar fy rhan i'w dadansoddi yw'r erthygl hon.
Cymerwn Mynytho i ddechrau. Yn 么l rhai mae'r enw hwn yn golygu M芒n Nythod a cheir yn yr ardal annedd-dai bychan a fu unwaith yn fythynnod unnos yn britho degau o erwau o dir comin.
Heb unrhyw amheuaeth bu dylanwad hen deulu bendefigaidd Nanhoron ar enw'r bythynnod ar 么l iddynt eu hawlio amser cau y tiroedd comin: ystyriwn Alma, afon yn y Crimea lle y collwyd un o wehelyth Edwards Nanhoron ar faes y g芒d ym 1854; cawn Aliwel, pentref yn yr India, lle bu brwydro ym 1846.
Gwelwn hefyd New York, California, Carmel, China a'r Aifft, enwau heb amheuaeth 芒 chysylltiadau 芒 morwyr yr ardal.
Tybiaf fod yr enw Cornwal ar d欧'n gysylltiedig 芒'r gwaith plwm a fu yn Llanengan gan i liaws ymfudo o Gernyw i weithio ynddo.
Willings neu Wellington Terrace - dyma res o dai nad yw mwyach. Adeiladwyd y rhesdai yn wreiddiol gan fyddigion Nanhoron i gartrefu milwyr. Dengys hyn mor deyrngar oeddynt i'r frenhiniaeth. Enwyd y rhesdai er clod i Ddug Wellington ar 么l iddo drechu Napoleon yn Waterloo ym 1815.
Yn yr un ardal cawn fwthyn o'r enw Sodom.
Ychydig bellter o Mynytho saif pentref Llanbedrog. Bu yno ar un cyfnod fwthyn o'r enw Cockrwth, ond Cae Crwth ydyw'r enw cywir arno mae'n debyg.
Yno hefyd cawn Pickstryd, yn 么l yr hyn a ddywed y diweddar Myrddin Fardd, Pig Street yw'r enw cywir. Ar lethrau mynydd y Rhiw cawn Gimla neu i fod yn gywir Cimile. Ystyr 'cimi' oedd tir comin.
Pentref tawel bychan ydyw Rhydyclafdy sydd nepell o Bwllheli. Dywedir y bu yma ysbyty ar gyfer gwahanglwyfion yn yr oesoedd a aeth heibio. Os gwir yw hyn mae'r enw Rhyd-y-Clafdy'n gwneud synnwyr.
Yma hefyd saif Tyddyn Singrig. Ystyr 'Sin' yn 么l geiriadur Spurrell yw elusen felly tybiaf mai Tyddyn Elusen y Grug sydd yma gan fod eglwys hynafol Llanfihangel Bachellaeth bron ar drothwy'r drws.
Yn Uwchmynydd sydd ar derfyn eithaf Ll欧n saif fferm y Cwrt, enw sy'n deillio o'r Saesneg Court. Yma y cynhelid llys barn yn yr oes a aeth heibio. Hwn oedd y Court of Bardsey Lordship gydag Abad Enlli yn teyrnasu. Wrth ymyl saif Secar neu Exchequer oedd hefyd yn gysylltiedig ar llys.
Yma hefyd ceir Bryn y Crogbren lle y dienyddid lladron defaid. Yng nghyffiniau'r uchod cawn fferm Llawenan a Ffrydiau Caswenan.
Yr olaf yn 么l y s么n yw'r enw cywir am y Swnt peryglus sydd yn rhedeg rhwng Ynys Enlli a'r tir mawr. Mae hanes i'r llestr Gwenan Gorn oedd yn eiddo i Madog ab Owain Gwynedd gael ei dryllio yma. Stori arall yw mai Gwenan oedd enw llong y Brenin Arthur ac iddi fynd yn ddrylliau yma.
Yn yr ardal yma ceir Stelig Bach a Stelig Fawr, talfyriad o Ystol Helyg medd rhai.
Os y teithiwn i gyfeiriad y gogledd cyrhaeddwn Tudweiliog.
Yn 么l chwedl daeth yr enw pan groesodd marchog o'r Iwerddon ar ei geffyl o'r enw Gweiliog. Oherwydd blinder gwrthododd y march symud modfedd ar 么l cyrraedd traeth Tywyn sydd islaw'r pentref. Rhoddodd ei droed yn gadarn ar graig a elwir hyd heddiw yn Garreg yr Ebol gan bod 么l troed y march yn dal i fod ar y garreg. Yn 么l y s么n ceisiodd y marchog gymell ei farch gan weiddi "Tyrd Gweiliog!"
Yn Nhudweiliog hefyd saif hen blasdy Cefn-Amwlch. Oherwydd bod mynydd bychan gyda bwlch ar ei gopa y tu cefn i'r plasdy yr enw cywir i'r lle yn 么l y gwybodusion yw Cefn-ar-Fwlch.
Ychydig bellter o Gefn-Amwlch saif plasdy arall o'r enw Brynodol neu Bryn-ar-Ddol a fferm a elwir yn Pwllgwd. Pwll coed medd rhai yw'r enw cywir ond yn 么l hen ddogfennau Pyllau Cydach sydd yn gywir. Daw y Cydach o Cyd. Tir cyd neu dir comin yw ystyr hyn gyda'r terfyniad -ach sy'n golygu gerllaw. Felly cawn yr ystyr Pyllau Tir Cyd gerllaw.
Traeth arall yn yr ardal yw Porthysglaig ond Porth yr Haig ddylai hwn fod mae'n debyg gan y bu ar un cyfnod ddiwydiant pysgota penwaig yno - haig o benwaig.
Nepell o Gefnamwlch mae cyffordd a elwir Beudy Bigin. Bu yno unwaith feudy a dywed mai'r enw gwreiddiol oedd Beudy Bing. Ystyr Bing yn Saesneg yw 'alley in a cowhouse'.
Ym Morfa Nefyn ar draeth Porthdinllaen saif craig sydd ond yn weladwy pan fydd y mor ar drai. Gelwir y graig hon yn Maen Bridin er mai Brudyn sy'n gywir ac sy'n golygu maen y Seryddwyr.
Yma ar wyneb llyfn y maen y byddai'r derwyddon yn amcanu amseroedd y trai a'r llanw a dyddiau y flwyddyn.
Mae'r enw Dinllaen neu Dinlleyn ynddo'i hunan yn nodi Din - Dinas neu amddiffynfa a lleyn yn wreiddiol o Leinster yn yr Iwerddon.
Dywedir bod olion o hen amddiffynfa yn weladwy ar y clogwyn uwchben y Berth.
Brenhines Ll欧n ydyw Carn Fadrun, y dywedir mae hen enw Cymraeg a'r cadno yw Madrun felly cawn Garn y Cadno.
Mwy am Beth sy mewn enw?