大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys M么n

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llyn Cerrig Bach Llyn Cerrig Bach
Beth oedd yn llechu yn nyfnderoedd Llyn Cerrig Bach tybed? Dyma Alun Gruffydd o Oriel M么n i edrych ar y safle hanesyddol hollbwysig yma yng ngogledd orllewin yr ynys.
"Cafodd y safle archaeolegol yma ei ddarganfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd gweithwyr yn adeiladu gwersyll a maes awyr yno ond y broblem oedd bod cymaint o dywod. Felly fe wnaethon nhw dr茂o codi mawn o'r pyllau d诺r cyfagos i'w roi dros y tywod i'w stopio rhag chwythu i mewn i injan yr awyrennau. Wrth wneud hynny y daethant ar draws casgliad o tua 150 darnau er nad oedd yn amlwg yn syth beth oedd eu harwyddoc芒d.

"Daeth Syr Cyril Fox i fyny o'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a datgan mai casgliad o wrthrychau o ddiwedd Oes yr Haearn oeddent, yn cynrychioli rhyw fath o offrwm crefyddol o gyfnod tua 2000 o flyndydoedd yn 么l. Roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn credu'n gryf yn nuwiau'r byd naturiol, ac felly yn lluchio pethau i mewn i'r d诺r fel offrwm iddynt.

Creiriau'r Llyn "Mae rhan helaeth o'r casgliad yma yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ond mae gennym ni gysylltiadau da efo nhw ac mae peth o'r casgliad yn dod i fyny i Oriel M么n ar adegau i bobl leol gael bwrw golwg arnyn nhw. Mae ganddon ni hefyd gasgliad o bethau na aeth i lawr i Gaerdydd yn y pedwardegau o gwbl ac sydd yma'n barhaol.

"Mae gennym ni yma ddarn o waywffon, darn o fetel a fuasai wedi bod yn rhan o system olwyn cerbyd rhyfel (chariot), a genfa neu haearn ffrwyn (bit) ceffyl.

"Nid oedd y Celtiaid yn taflu pethau bob dydd i mewn i'r d诺r - doedd metal ddim mor gyffredin 芒 hynny ac felly mae'r ffaith eu bod yn fodlon colli'r gwrthrychau yma am byth yn arwydd o bwysigrwydd eu crefydd iddynt. Roeddent yn gwneud eu gorau i blesio'r duwiau.

"Roedd hyn wedi digwydd dros gyfnod o amser achos roedd creiriau yn y llyn sy'n ymddangos yn eithaf cynnar yn Oes yr Haearn, a rhai eraill o gyfnod ychydig mwy diweddar.

"Mae'n edrych yn debyg hefyd fod rhyw fath o blatfform wedi ymestyn allan i'r llyn, ac efallai ei fod yn rhan o'r traddodiad crefyddol i gerdded mewn prosesiwn allan dros y llyn, sy'n rhoi rhyw urddas i'r achlysur, ond allwn ni fyth fod y si诺r wrth gwrs."

Mwy am safle Llyn Cerrig Bach



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy