"Ym Mryn Celli Ddu, Llanddaniel, mae 'na enghraifft o un o siambrau claddu mwyaf cyffroes ac enwocaf Prydain. Dim ond tua 15 o siambrau claddu o'r fath sydd yn dal i fod, er y credir fod dwywaith cymaint 芒 hynny wedi bodoli.
"Rhyw fath o gell neu ystafell yw'r siambrau o dan dwmpath o bridd, wedi eu dal i fyny gan sustem o gerrig. Mi allwch chi ymweld 芒'r siambr ym Mryn Gelli Ddu - rhaid cerdded i lawr coridor bach tuag at agoriad yn y pen draw lle bydden nhw wedi gosod y cyrff.
"Does dim un steil pendant i'r siambrau claddu ym M么n. Rydan ni mewn ffordd yn rhyw fwngral o ynys achos 'does dim un steil yn perthyn i F么n. Ar yr ochr yma o Gymru mae'r steiliau adeiladu wedi cael eu dwyn o'r Iwerddon, yr Alban, Llydaw a hyd yn oed Sbaen. Mae diffyg un steil pendant yng ngorllewin Cymru yn dangos fod 'na berthynas rhwng yr holl bobloedd oedd yn byw ddwy ochr i F么r Iwerddon.
"Mae Capel Eithin ger Gaerwen hefyd yn safle sydd wedi cael ei chloddio fwy nag unwaith. Mae yna olion mynwentydd Oes Efydd yn ogystal 芒 deunydd ychydig mwy diweddar wedi ei ddarganfod yno.
"Y peth mwyaf cyffroes yw'r wrnau - potiau o gyfnod yr Oes Efydd oedd yn nodweddiadol iawn o systemau claddu'r cyfnod yma. Yn fras, y cyfnod o 2,500 cyn Crist i 1,000 Cyn Crist yw'r Oes Efydd. Mae'r rhai sydd ganddon ni yn Oriel M么n o bedwar neu bump o safleoedd ar yr ynys fel Capel Eithin, Pentraeth a Phenmon.
"Byddai poblogaeth yr Oes Efydd wedi deillio o ffermwyr Oes y Cerrig a'r cyfnod Neolithig.
"Ar 么l yr Oes Cerrig darganfuwyd metel a daeth newid i batrwm bywyd ym mhob ffordd. Arferai pawb fyw yn gymunedol a chyfartal, ond pan ddaethant o hyd i'r metel sgleiniog, daeth hierarchaeth i'r gymuned. Yn lle claddu pobl gyda'i gilydd yn yr hen siambrau, gwelwyd beddi ar gyfer unigolion, i ddangos bod rhai yn bwysicach nac eraill."
|