Bwyd, siopa a dianc o'r glaw - mwy am fwynhau'r sioe...
Beth ydych yn ei wneud i baratoi at y sioe?
George Thomas o Gaerwen - bridiwr defaid Wiltshire horns:
Mae'n cymryd dros flwyddyn i ffeindio'r maharen orau i fridio defaid da. Yn agosach i'r amser, rhaid dofi dipyn ar y defaid gorau a'u cadw'n lan, gan nad oes gan frid y Wiltshire wl芒n o gwbwl yn yr haf. Mae gan y brid yma hefyd gyrn mawr, ond nid oes rhaid gwneud lot gyda nhw os da chi'n bridio nhw'n iawn.
Bydd yna llai o gystadleuaeth eleni gan na fydd y Saeson yn dod oherwydd clefyd Blue Tongue. Nid yw wedi cyrraedd fan hyn eto, ond mae perig y daw.
Gareth Jones o Gaerwen - tyfwr llysiau:
Dwi'n tyfu'r llysiau i mewn yn y poly tunnel yn lle allan yn yr ardd eleni. Byse prynu t欧 gwydr maint yna'n costio miloedd, felly mae'r twneli yn ffordd rhad i dyfu pethau o dan do. Maen nhw hefyd yn hwylus gan eich bod yn gallu plannu ym mhridd yr ardd, yn lle gorfod cario'r pridd i mewn i'r t欧 gwydr - arbed mwy o gost a thrafferth..
Mae gennym ni ddefaid, felly dwi'n creu gwrtaith fy hun trwy roi'r baw defaid mewn sach, sy'n gweithio tebyg i fag te, ac yna rhoi'r cwbl mewn bun o dd诺r.. Mae'n wych.
Nerys Haf o Roscolyn:
Mae fy merch yn reidio merlen a fy meibion yn dangos gwartheg, felly mae'n cymryd lot o waith i'r teulu i gyd cael pethau'n barod. Rhaid golchi'r anifeiliaid, gwneud yn si诺r bod eu cotia'n lan, bod mwng y ferlen wedi ei blethu a bod y gwartheg wedi eu siafio yn y lle iawn. A sicrhau ein bod efo digon o siamp诺, hairspray, j锚l a glitter i'w ddefnyddio ar y gwartheg - cyfrinach fach ar sut maen nhw'n edrych mor dda!
Rhaid hefyd sicrhau fod dillad y plant yn barod - bydd y bechgyn yn gwisgo cotiau gwyn wrth ddangos y gwartheg ac mae'n rhaid i Alaw edrych yn smart ar ei merlen hefyd.
Eleanor Hughes o Llan Beulon - Merched y Wawr Ynys M么n:
Mi fydd Merched y Wawr M么n yn cynnal arddangosfa pob blwyddyn yn ein pabell ar y maes.
Eleni, mae o'n arddangosfa o luniau o F么n, ddoe a heddiw. Mae'r babell yn lle i gymdeithasu ac i ddod am baned a bisged, felly dewch!
Beth ydych yn ei wneud gyda'ch cynnyrch ar 么l y sioe?
George Thomas: Da ni'n gwerthu'r 诺yn maharen i fridwyr eraill ledled Prydain. Nid ydym yn gwerthu'r defaid i'w cig - mae lot yn synnu ein bod yn cadw defaid, ond ddim yn bwyta cig oen!
Gareth Jones:
Yn Sioe M么n 2007, mi wnes i ennill y gystadleuaeth am y llysieuyn mwyaf gyda fy marro enfawr. Nid oeddwn yn si诺r beth i wneud efo fo wedyn, felly dwi wedi trio gwneud diod feddwol allan ohono!
Dwi wedi sleisio un pen i ffwrdd, i greu rhyw fath o gaead, yna tynnu'r hadau allan a'i bacio gyda siwgr brown. Yna mi wnes i roi'r marro mewn p芒r o deits, sef creu rhyw fath o ridyll - mi wnaiff y siwgr fwyta drwy'r cnawd, yn difetha wal allanol y marro, gan adael y diod feddwol ar 么l sydd i fod i flasu ychydig fel rum. Dwi heb fentro ei yfed eto!
Unrhyw lwyddiannau neu drafferthion yn y gorffennol?
George Thomas: Da ni wedi cael lot o wobrau ar hyd y blynyddoedd gyda'r Wiltshires yn adran defaid y wlad, sy'n wahanol i adran defaid y mynydd wrth gwrs.
Gareth Jones: Mi wnes i ddod yn ail yn y gystadleuaeth tomato blwyddyn ddiwethaf, ymhlith tyfwyr mwy profiadol. Ond mae'n cymryd lot o waith i gyflwyno'r tomatos gorau - rhaid cael llawer o blanhigion er mwyn gallu pigo llond llaw o rhai perffaith. Yn ffodus, mae gen i ddigon o ffrindiau i gymryd y gweddillion!
Bwyd, siopa a dianc o'r glaw - mwy am fwynhau'r sioe...