Cerddwch efo Dei Tomos, Meinir Gwilym, Nia Roberts a Jonsi ynghyd 芒 chynrychiolwyr o Fenter M么n a'r bobl a ymunodd 芒 nhw ar y diwrnod drwy'r sioeau lluniau yma i gael blas o'r llwybrau.
Taith Rhoscolyn gyda Dei Tomos Dechreuodd y gyfres o bedair am 7.30am o Eglwys Gwenfaen ac o amgylch ardal Rhoscolyn.
Taith Hanesyddol Llangoed gyda Nia Roberts Gan ddechrau o faes parcio Llangoed roedd y daith 4 milltir hon yn ymweld 芒 Goleudy Penmon.
Taith fyd-enwog Moelfre gyda Jonsi Roedd y drydedd daith 5 milltir o Wylfan Moelfre yn ymweld 芒 sawl safle hanesyddol.
Taith Arfordirol Amlwch gyda Meinir Gwilym Gan ddechrau am 2pm y pnawn yn Llaneilian, roedd y daith ola'n dilyn yr arfordir creigiog at Borth Amlwch.
Roedd y teithiau i gyd yn cael eu harwain gan dywyswyr hyddysg yn hanes yr ardaloedd a oedd yn arwain y cerddwyr trwy bentrefi a chefn gwlad gan adrodd hanesion cyffrous am longddrylliadau, canibaliaeth, smyglwyr ac ysbrydion a darlledwyd sgyrsiau byw o'r gwahanol deithiau ar amrywiol raglenni 大象传媒 Radio Cymru drwy'r dydd.
I weld manylion y daith yn llawn ewch i'n safle Cerdded ac i anfon eich lluniau aton ni, ebostiwch at: gogleddorllewin@bbc.co.uk
Am fwy o wybodaeth am 糯yl Gerdded Ynys M么n a gynhelir ym mis Mehefin ewch i www.angleseywalkingfestival.com neu ffoniwch 01248 725 737 / 700 neu e-bostio alan@mentermon.com
|