大象传媒


Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Cynhyrchiad

William Jones - Addaswr y sgript

Mae'r syniad o fynd i'r afael 芒 gwaith rhywun arall yn gallu bod yn un digon arswydus i unrhyw un, beth bynnag fo'i grefft. Ond pan fo'r cr毛wr gwreiddiol yn cael ei ystyried yn un o grefftwyr mwyaf mentrus a chywrain byd y theatr yng Nghymru, mae hon yn dasg allai godi braw gwirioneddol. Mae parch at y gwaith a dealltwriaeth o weledigaeth Gwenlyn ei hun yn rhywbeth a fu'n allweddol i'r awdur William Jones, wrth iddo fynd ati i addasu Y Twr ar gyfer cynhyrchiad teledu newydd gan 大象传媒 Cymru, i nodi dengmlwyddiant marwolaeth Gwenlyn Parry.

Ymateb llawer o awduron fyddai ceisio gwneud rhywbeth chwyldroadol, gwahanol, a gwneud eu marc nodweddiadol eu hunain ar y gwaith. Ond nid dyna fwriad William Jones, fu'n olygydd sgriptiau cyfres ddrama 大象传媒 Cymru, Pobol y Cwm, cyfres y bu Gwenlyn ei hun yn ei chynhyrchu yn ystod ei gyfnod gyda 大象传媒 Cymru.

"Does 'na ddim amheuaeth bod y ddrama lwyfan yma o'r 70au yn glasur. Mae'r rhan fwyaf o'r farn mai dyma ddrama orau Gwenlyn," meddai William Jones.

"Mae'n ddrama wych, sy'n procio'r meddwl. Mae'n delio gyda phynciau mawrion ond mae'n ddrama ddifyr, mae 'na rannau doniol ynddi hi a tydi hi fyth yn rhoi pregeth. Dwi'n credu ei bod hi'n theatr ragorol.

"Mi fyddai rhywun yn gallu troi'r deunydd ar ei ben - ei osod mewn cyfnod arall, yn y gofod, cael yr actorion yn noeth... unrhyw beth mewn gwirionedd!
Ond yn sylfaenol, yr hyn sydd gennym ni yma yw clasur. Mae her a grym y ddrama ei hun yn anhygoel a dyma'r hyn dwi am ei gadw. Allwch chi ddim ymyrryd gormod 芒 chlasur.

"Yr hyn sydd yn rhaid i mi ei wneud yw chwynnu, a chyda gwaith Gwenlyn, mae hyn yn dipyn o job! Mae wedi cael ei hysgrifennu mor gelfydd, ac wedi ei chreu mor dynn. Tynnwch chi un fricsen o Act Un ac mi wnaiff Act Tri chwalu'n llwyr... Ond mae hyn yn rhywbeth angenrheidiol ar gyfer teledu."

Mewn drama sydd wedi ei chyfyngu i dri lleoliad o fewn un adeilad, y demtasiwn wrth addasu ar gyfer teledu fyddai ceisio ehangu'r ddrama a gwau golygfeydd newydd. Ond dyma'r un peth y mae William Jones wedi gochel rhagddo.

"Dwi ddim yn mynd i newid y ddrama yn sylfaenol," meddai. "Mae'r ddau gymeriad wedi eu cau i mewn trwy gydol y ddrama ac allwch chi ddim mynd 芒 nhw allan o Y Twr. Mae'r syniad yma o glawstroffobia yn ganolog i'r ddrama.
Mae angen elfennau mwy gweledol ar gyfer teledu, ond dim unrhyw 'ffrils' na 'gimics' - tydi'r ddrama ddim angen hynny. Mae angen cyfarwyddo celfydd ar y ddrama gan fod popeth yn digwydd o fewn y twr."

"Roedd Gwenlyn Parry yn arbrofol yn ei ddydd, ac yn defnyddio technegau cynhyrchu newydd o fewn y theatr. Yn sicr, fe wnaeth wthio ffiniau cynhyrchu o fewn cyfrwng y ffilm a'r llwyfan. Bydd y cynhyrchiad yma'n cyflwyno un o ddram芒u pwysicaf yr iaith i gynulleidfa newydd, gan ddefnyddio gwerthoedd cynhyrchu heddiw."

Mari Jones-Williams

大象传媒
漏 MMI



Y Dramodydd

Y Cynhyrchiad
Yr Actorion
Cynhyrchu a Chyfarwyddo
Lleoliadau a Set
Colur a Gwisgoedd
Y Gerddoriaeth

Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy