Menywod a'r Rhyfel Byd Cyntaf
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Archif yn dangos cyfraniad menywod i'r ymdrech y Rhyfel Byd Cyntaf.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes, Cymdeithaseg
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain diwydiannol, Cymru a Phrydain fodern, Byd yr ugeinfed ganrif,
Allweddeiriau : Y newid yn r么l a statws menywod yng Nghymru a Lloegr o 1900 hyd heddiw, Newid a gwrthdaro yng Nghymru tua 1900-1919, Cymru Ewrop a'r Byd, Rhyfel Byd Cyntaf, Pleidlais i fenywod, Ymdrech ryfel, Hanes fenywod
Nodiadau : CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai o unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: : Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919. Y newid yn r么l a statws menywod yng Nghymru a Lloegr o 1900 hyd heddiw.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr, tua 1880-1980. Newid a Gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1919.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio'r math o waith yr oedd menywod yn ei wneud yn y rhyfel. Gwerthuso'r gwahanol fathau o ffynonellau tystiolaeth sy'n cael eu cyflwyno. Ystyried pa mor arwyddocaol oedd profiad menywod yn ystod y rhyfel i'r ffaith iddynt gael y bleidlais yn fuan wedyn. Dewis a dethol gwybodaeth o'r clip i gefnogi ymholiad i effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar sefyllfa menywod.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Datblygu sgiliau llafaredd drwy gynnal trafodaeth gr诺p. Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol er mwyn asesu dilysrwydd cynnwys y clip. Datblygu sgiliau ysgrifennu a ffurfio barn drwy lunio llythyr at y llywodraeth yn dadlau y dylai menywod gael mwy o hawliau o ganlyniad i'w cyfraniad at yr 'ymdrech ryfel' ar y ffrynt gartref.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall beth oedd cyfraniad menywod at yr ymdrech ryfel. 2) Deall pam roedd menywod yn barod iweithio yn y rhyfel. 3) Ystyried pa gwestiynau eraill i'w gofyn er mwyn creu darlun llawn.
Mwy
Cysylltiadau'r 大象传媒
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.