Hanes Abertawe -parhad
topParhad o hanes dinas Abertawe yn cynnwys ei henwogion, ei chwedlau, ei chestyll a'i datblygiad fel dinas.
Enwogion Abertawe
Yn ogystal ag adeiladau pwysig cysylltir Abertawe 芒 nifer o enwogion sydd wedi eu geni yn y ddinas.
Ymhlith y rhain mae'r actores enwog Catherine Zeta Jones. Mae'r enw Zeta yn tarddu o gysylltiad y teulu 芒 llongau masnachol Henry Bath. Roedd Henry Bath a'i feibion yn berchen ar nifer o longau oedd yn cludo copr o Chile i weithfeydd copr Cwm Tawe Isaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd llongau Bath yn rhai adnabyddus ar lwybrau masnachol m么r yr Iwerydd. Roedd mwyafrif ei longau wedi eu henwi ar 么l llythrennau yn yr wyddor Roegaidd. Y Zeta oedd un o'r llongau pwysicaf am nifer o flynyddoedd.
Dilyn Dylan
Un o 诺yr enwocaf y ddinas wrth gwrs yw'r bardd a'r llenor Dylan Thomas a ystyrir yn un o ysgrifenwyr gorau'r ugeinfed ganrif.
Cafodd ei eni yn Rhes Cwmdonkin yn rhan uchaf y ddinas. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Abertawe lle roedd ei dad yn athro Saesneg. Ar 么l gadael yr ysgol bu'n gweithio fel newyddiadurwr gyda'r South Wales Evening Post. Ni ellir cerdded trwy ganol y ddinas heddiw heb sylwi ar yr holl leoedd sy'n coff谩u'r dyn amryddawn hwn.
Un o'r lleoedd hynny yw sgw芒r Dylan Thomas lle mae cofgolofn efydd o un o wyr enwocaf Abertawe. Mae nifer o ddigwyddiadau diwylliannol yn cael eu cynnal ar y sgw芒r. Un o'r rhain yw Gwyl Flynyddol Dylan Thomas a gynhelir yn ystod yr Hydref.
Ar lannau afon Tawe mae Canolfan Dylan Thomas lle mae arddangosfa yn adrodd hanes ei fywyd a'i waith. Yn ogystal mae theatr yn Abertawe wedi ei henwi ar 么l Dylan Thomas. Saif y theatr ar sgw芒r Dylan Thomas.
Marina Abertawe
Gellir troi o'r sgw芒r tuag at ddwy amgueddfa boblogaidd sef yr Amgueddfa Diwydiant a Morwrol. Gerllaw mae sied fawr lle mae modd gweld cerbyd tram a arferai gludo teithwyr yn y ddinas. Yn y sied mae hanes Rheilffordd y Mwmbwls a adeiladwyd ym 1804.
Un o nodweddion hynotaf y marina yw'r wrthglawdd a'r promen芒d. Adeiladwyd yr wrthglawdd i amddiffyn y tai newydd yma ac mae enwau llongau wedi eu hysgrifennu ar y wal. Dyma enwau llongau a gofrestrwyd yn Abertawe dros gyfnod o gan mlynedd.
Hanes Jac
Rydym ni i gyd wedi clywed trigolion Abertawe'n cael eu galw yn 'Swansea Jacs' ond o ble y daeth yr enw hwn? Mae stori'r Swansea Jac yn gymysgedd o ffaith a chwedl ac yn ymwneud 芒 chi du o'r enw Jac. Roedd y ci yn byw yn ardal dociau Abertawe yn ystod y 1930au a dywedir ei fod wedi achub bywydau tua 27 o bobol o ddyfroedd Afon Tawe.
Gwnaeth Jac ei weithred ddewr gyntaf yn 1931 pan neidiodd i'r dwr i achub bachgen ifanc. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno achubodd nofiwr a aeth i drafferthion a'r tro hwn o flaen tyrfa o bobol. Cyhoeddwyd y stori yn un o'r papurau newydd lleol. Erbyn 1935 roedd Jac wedi achub nifer ac erbyn hyn roedd wedi derbyn yr enw Swansea Jac. Cynyddodd ei boblogrwydd yn sylweddol ac roedd pobol yn tyrru i'r ddinas i dynnu eu llun gyda'r ci rhyfeddol hwn.
Ond ym mis Hydref 1937 bu farw Jac wedi iddo lyncu gwenwyn llygod mawr mewn camgymeriad. Casglodd y cyhoedd arian er mwyn codi cofeb i'r ci dewr hwn a chodwyd carreg goffa iddo ar lan y m么r.
O fewn tafliad carreg i Abertawe mae Penrhyn G诺yr. Dyma ardal hardd sy'n cynnwys bron i ugain milltir o draethau bendigedig. Does rhyfedd felly bod miloedd o ymwelwyr yn tyrru yma bob haf. Mae 21 o draethau ym Mhenrhyn G诺yr.
Yn Abertawe mae'r traeth yn wastad. Yn y Mwmbwls wedyn mae dau draeth ac oddi yma mae'r clogwyni calch yn dod yn nodwedd amlwg o'r tirlun. Y traethau sydd agosaf at Abertawe yw'r rhai mwyaf poblogaidd fel Llangennith, Rotherslade, Langland a Caswell. Ond mae'r golygfeydd gorau ymhellach wedyn lle mae Brandy Cove a Phwll Du. Yma mae hanes o smyglo ac nid yw hynny'n syndod o ystyried lleoliad anial y traethau hyn.
Ysbryd yr Adfail
Wrth gerdded ymhellach i'r gorllewin mae creigiau Pennard ac adfeilion y castell. Nid oes llawer o gofnodion hanesyddol yn ymwneud 芒'r castell hwn ond credir ei fod wedi ei adeiladu yn y 13eg ganrif. Mae nifer o chwedlau yn ymwneud 芒'r castell a dywedir bod nifer o ysbrydion yn crwydro'r lle heddiw. Mae nifer yn credu bod y castell wedi ei felltithio.
Digwyddodd yr anffawd gyntaf yma pan ddychwelodd un o breswylwyr y castell i'w gartref wedi brwydr a chynnal gwledd yn y gerddi. Dywedodd un o'i westeion ei fod wedi gweld golau yn y dyffryn islaw. Rhuthrodd yr arweinydd yno gyda byddin fechan y tu 么l iddo i weld pwy oedd yn tresmasu.
Gwelsant mai tylwyth teg oedd yma. Pan ruthrodd y llu gyda'i cleddyfau i'r llecyn gwylltiodd y tylwyth teg a melltithio'r castell. Dychrynodd y gwyr ac wrth edrych tua'r m么r gwelsant fod storm ar y gorwel. Rhedodd y g诺yr ond cawsant eu lladd gan y tywod a chwyrliai o gwmpas.Dinistriwyd y castell hefyd ac erbyn y diwrnod canlynol dim ond adfeilion oedd yma.
Chwedl Gwrach-y-rhibyn
Chwedl arall yw chwedl Gwrach-y-rhibyn. Dywedir ei bod yn crwydro'r adfeilion a'i bod yn troi unrhyw un sy'n meiddio treulio noson yng nghanol yr adfeilion yn wallgof.
Yr ochr arall i'r creigiau mae cyfres o draethau wedyn yn arwain at Oxwich. Ystyrir y traethau hyn ymysg y gorau ym Mhenrhyn G诺yr. Mae bae Oxwich yn le poblogaidd ymysg ymwelwyr.
Gerllaw'r traeth mae castell Oxwich. T欧 Tuduraidd yw hwn a adeiladwyd gan Syr Rhys Mansel yn y 16eg ganrif. Mae'r ty yn cynnwys rhan o'r hen gastell a adeiladwyd yn y 14eg ganrif. Yn y castell hwnnw y ganwyd Rhys Mansel ac felly roedd am gadw rhan o'r adeilad hwnnw yn ei gartref newydd.
Ymhellach wedyn mae bae Porth Einion sydd eto'n le poblogaidd. Bydd yn rhaid teithio tua'r gogledd wedyn a heibio'r trwyn ym mhenrhyn gwyr i Fae Rhosili lle ceir golygfa anhygoel, yn 么l rhai y gorau ym Mhenrhyn G诺yr. Mae'r arfordir yn llawer mwy gwyllt yma. Roedd Rhosili hefyd yn gartref i Edgar Evans, wnaeth farw gyda Chapten Scott yn yr Antarctig yn 1912.
Cestyll yn angof
Yng ngogledd y bae mae traeth Llangynydd, lle poblogaidd ar gyfer chwaraeon dwr. Yn yr ardal yma mae nifer o gilfachau diddorol na ellir ond mynd iddyn nhw pan yw'r llanw'n isel. Y mwyaf poblogaidd o bosib yw'r Pwll Glas. Tua'r gogledd wedyn mae Bae Brychdwn a thraeth Chwitffordd.
Wedi troi heibio'r trwyn mae traeth Llanrhidian a chastell Weblai. Fel Castell Oxwich nid yw hwn yn gastell mewn gwirionedd ond ty Tuduraidd wedi ei adeiladu ar safle castell cynharach. Adeiladwyd y castell gan deulu de la Bere.
Ymhellach i'r dwyrain wedyn mae Castell Llwchwr. Castell Normanaidd yw hwn ac fe'i adeiladwyd yn nechrau'r 12fed ganrif ar safle caer gynharach. Yn 1151 ymosododd y Cymry ar y castell a'i losgi. Yn fuan meddiannwyd y castell eto gan y Normaniaid a wnaeth welliannau i'w strwythur ac ychwanegu nifer o adeiladau cerrig.
Yn nechrau'r 13eg daeth John Brewys yn berchennog arno ac wedyn Gwilym Brewys. Erbyn cyfnod Edward I doedd y castell ddim yn cael ei ystyried yn un pwysig mwyach a hyd yn oed heddiw ychydig o ymwelwyr ddaw i gastell Llwchwr, dim ond rhuthro heibio ar y ffordd brysur tua dinas Abertawe.