大象传媒

Ynys B欧r: Llais y brodor

top
Ynys B欧r

Cyflwyniad i Ynys B欧r, oddi ar arfordir Dinbych y Pysgod yn Sir Benfro, lle triga cymuned o fynachod a phobl leol ochr yn ochr.

Hanes yr Ynys

Mynachlog Ynys B欧r
Mynachlog Ynys B欧r

Mae'n debyg y byddai pawb sy'n gwybod am yr ynys fach oddi ar arfordir Dinbych y Pysgod, yn ei hadnabod ar unwaith fel ynys y mynachod.

Mae'n wir fod mynachlog wedi bod ar Ynys B欧r ers y chweched ganrif ac mae'n parhau hyd heddiw; ond a oes mwy i hanes yr ynys fach hon na thraddodiadau ac arferion y mynachod yn unig?

Mae hanes Ynys B欧r yn dal i swyno pobl heddiw ac yn denu ymwelwyr o bob cornel o'r byd. Mae traddodiad bywyd syml o dlodi ac addoliad heddychol sydd gan y mynachod yn dal i fod ar yr ynys. Fel modd o godi digon o incwm i gadw bywyd syml, mae'r gr诺p bach o bymtheg Mynach Sistersaidd yn denu twristiaid yn yr haf gan werthu cynnyrch personol o siocled a pherarogl sydd yn cael eu gwneud ar yr ynys.

Benedict Large
Cafodd Benedict Large ei fagu ar yr ynys

Cymuned Gudd

Gellir ymweld 芒 nifer o adeiladau ac arteffactau hynafol wrth fynd am wibdaith ar un o'r cychod sydd ar gael. Cartref i nifer o fannau hanesyddol sydd yn bwysig o ran crefydd yw'r ynys gan gynnwys Croes yr Ogam o'r 6ed ganrif, capel bach Rhufeinig ac Eglwys o'r 12fed ganrif. Gallwch ddilyn hanes y Fynachlog a'i hymdrech i oroesi trwy gyfnodau o anhawster fel y Diwygiad Protestannaidd o dan Harri VIII.

Fodd bynnag, nid pob ymwelydd sy'n mynd i'r ynys sy'n sylweddoli bod yna gymuned fach o bobl gyffredin yn dal i breswylio mewn pentref bach ar yr ynys, sydd ddim ond yn un neu'n ddwy cilomedr ar draws!

Felly pa fath o gymuned sydd ar yr ynys heblaw am y fynachlog? Siaradais ag un brodor, Benedict Large, sydd bellach yn 22 oed a chafodd ei fagu yno hyd nes yr oedd yn 14 mlwydd oed. Er ei fod wedi byw ar y tir mawr ers wyth mlynedd erbyn hyn, mae e'n dal i ymweld 芒'r lle yn rheolaidd er mwyn gweld ei fam-gu a thad-cu yno, ac mae e wedi sylwi ar wahaniaethau yn y gymuned ers ei ddyddiau ar yr ynys.

Ynys B欧r
Ynys B欧r

Dychwelyd adre

"Pan magwyd fy mrodyr a fi ar Ynys B欧r, roedd nifer o deuluoedd gweddol ifainc yno hefyd. 'Dw i'n cofio chwarae criced ar y cae gydag un o'r mynachod yn cymryd r么l y dyfarnwr."

Roedd ysgol gynradd i'w chael ar yr ynys pan yr oedd Benedict a'i frodyr yn blant, gydag un athro yn byw mewn bwthyn gerllaw.

"Roedd deg ohonom ni yn yr ysgol ar y pryd," meddai, "pan wela' i'r ysgol nawr mae'n edrych mor fach ond dwi'n cofio meddwl roedd yn weddol fawr! Yr un peth gyda'r eglwys a phopeth arall i ddweud y gwir- mae'n beth rhyfedd i ail ymweld 芒'r llefydd hyn trwy lygaid twrist."

Ynys Plentyndod

Mae rhywbeth swynol am y syniad o fod yn blentyn yn tyfu ar ynys fel Ynys B欧r. Ychydig iawn o geir sydd yno, mae llawer o fannau bach diddorol i guddio a gwneud dens ac wrth gwrs llawer o bobl newydd i gwrdd 芒 nhw bob dydd yn ystod yr haf. Mae preswylwyr yr ynys yn croesawu ymwelwyr ac maen nhw'n falch iawn o etifeddiaeth y lle.

Kirsty Jones

Cyhoeddwyd yr erthygl yma ar wefan 大象传媒 Lleol yn wreiddiol.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.