大象传媒

Athletau Cymru a'r Gemau Olympaidd

top
Ras gyfnewid yn Olympau Llundain 1948

John Meurig Edwards, awdur Cymry yn y G锚mau Olympaidd, sy'n mynd ar drywydd hanes athletau yng Nghymru a llwyddiant Cymry yn y gemau Olympaidd dros y blynyddoedd.

Ar hyd y blynyddoedd, mae Cymru wedi cynhyrchu nifer o athletwyr sydd wedi gwneud eu marc ar lwyfan y byd, ac sydd wedi dod 芒 chlod a bri i'w gwlad.

Cyn manylu ar rai ohonynt, mae'n werth nodi ambell garreg filltir nodedig. Ym 1930 Reg Thomas oedd y Cymro cyntaf erioed i ennill medal aur unigol yn un o'r prif gampau.

Gwnaeth hynny yng Ngemau'r Ymerodraeth (Gemau'r Gymanwlad erbyn hyn) yn Hamilton, Ontario.

Ym 1934, Cyril Cupid o Abertawe oedd y Cymro cyntaf i redeg y ras ganllath o dan 10 eiliad, a gwnaeth hynny mewn amser o 9.8 eiliad. Ym 1964, yng Ngemau Olympaidd Tokyo, y neidiwr hir, Lynn Davies, oedd y Cymro cyntaf erioed i ennill medal aur unigol mewn athletau. Yn fuan wedyn, ym 1965, Tony Harris oedd y Cymro cyntaf i redeg milltir o dan bedair munud (3:58:96).

Ym 1980, Michelle Probert oedd y ferch gyntaf o Gymru i ennill medal Olympaidd mewn athletau. Cafodd fedal efydd fel aelod o d卯m Prydain yn y ras 4x400metr yng Ngemau Moscow. Ym 1984, Gareth Brown oedd y Cymro cyntaf i redeg milltir o dan bedair munud ar dir Cymru.

Dyna rai uchafbwyntiau, ond rhaid edrych yn fanylach ar bethau i werthfawrogi'n iawn yr hyn y mae'n athletwyr wedi ei gyflawni.

Colin Jackson - brenin y gwibwyr

I ddechrau gyda'r rasys gwibio, neu'r rasys byrion. Ac mae un enw'n sefyll allan yn glir, sef un , a gafodd ei ddisgrifio fel yr athletwr gorau erioed o Gymru, ac a ystyrir fel un o wibwyr gorau'r byd yn y ras 110 metr dros y clwydi. Mae ganddo record anhygoel, ac un y bydd yn anodd iawn ei churo - pedair medal aur yn olynol ym Mhencampwriaethau Ewrop, dwy fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, dwy fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd, a medal arian yng Ngemau Olympaidd Seoul.

Colin Jackson ar fin rhedeg ras yn 1996
Colin Jackson: athletwr gorau Cymru erioed?

Fel chwaraewr rygbi a enillodd 44 o gapiau dros ei wlad y byddwn yn meddwl am Ken Jones o Flaenafon. Ond bu Ken yn gapten t卯m athletau Prydain hefyd, a llwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol yn y ras 100 metr yng Ngemau Olympaidd Llundain, 1948, ac yn yr un gemau, enillodd fedal arian fel aelod o d卯m 4x100 metr Prydain.

Enw cyfarwydd yn y 1970au oedd un Berwyn Price, a oedd fel Colin, yn gampwr ar y ras 110 metr dros y clwydi. Enillodd fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad ym 1974, cyn mynd gam yn well ym 1978 a chipio'r fedal aur yn Edmonton. Cynrychiolodd Brydain ddwywaith yn y Gemau Olympaidd.

Dau wibiwr dros y clwydi nodedig arall oedd Paul Gray o Gaerdydd a Nigel Walker, a aeth ymlaen i gynrychioli Cymru ar y maes rygbi.

Mae Christian Malcolm wedi cael gyrfa hir ac anrhydeddus fel gwibiwr dros 100 a 200 metr, ac mae'n dal i gystadlu. Daeth i amlygrwydd ym 1998 pan enillodd deitlau 100 a 200 metr y byd i gystadleuwyr iau. Braf oedd ei weld yn cael medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad, Delhi, 2010.

Cyn gadael y gwibwyr, rhaid peidio ag anghofio am gyfraniad y merched. Yn y 1980au/1990au roedd wynebau Helen Miles, Carmen Smart, Sallyanne Short a Kay Morley (Brown) yn gyfarwydd mewn cystadlaethau ledled y byd. Ym 1990 llwyddodd Kay Morley i ennill y fedal aur yn y ras 100 metr dros y clwydi yng Ngemau'r Gymanwlad yn Auckland.

Y 400 metr a'r 800 metr

Os edrychwn ar y rasys pellter canolig, h.y. 400 metr ac 800 metr, fe welwn fod dau Gymro, sef Cecil Griffiths a John Ainsworth-Davies yn aelodau o d卯m ras gyfnewid 4x400 metr Prydain mor bell yn 么l a Gemau Olympaidd Antwerp, 1920, ac fe enillon nhw fedalau aur. Mewn ras dros yr un pellter, cafodd Nick Whitehead fedal efydd yng Ngemau Olympaidd Rhufain, 1960, fel aelod o d卯m Prydain.

Iwan Thomas gyda thlws Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn 1998
Enillodd Iwan Thomas wobr Personoliaeth
Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn 大象传媒 yn 1998

Ond y ddau Gymro a gysylltwn yn bennaf 芒 rhedeg 400 metr yw Jamie Baulch ac Iwan Thomas, a roddodd gymaint o bleser i ni yn y 1990au.

Fe'u cofiwn yn bennaf efallai fel aelodau o d卯m 4x400 metr Prydain, ac fel aelodau o'r t卯m hwnnw yr enillon nhw eu medalau arian yng Ngemau Olympaidd Atlanta, 1996. T卯m Prydain a enillodd y ras arbennig hon ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Athen, 1997, a chafodd y ddau Gymro fedalau aur.

Ond nid rhedwyr t卯m yn unig oedden nhw, ac ym 1998 enillodd Iwan Thomas deitlau Ewropeaidd a'r Gymanwlad yn y ras 400 metr, a flwyddyn yn ddiweddarach daeth Jamie yn bencampwr byd yn y ras 400 metr dan do yn Japan.

Jamie Baulch yn 1996
Daeth Jamie Baulch yn bencampwr byd yn 1999

Yn y ras 400 metr dros y clwydi, gallwn ymfalch茂o fod dau Gymro yn amlygu eu hunain ar hyn o bryd, sef Dai Greene a Rhys Williams. Daeth y ddau yn 么l o'r Pencampwriaethau Ewropeaidd yn 2010 gyda medalau - Dai gydag un aur a Rhys gydag un arian. Yr un fu'r hanes eto yng Ngemau'r Gymanwlad, Delhi, 2010, gyda Dai yn cipio'r aur a Rhys yr efydd. Does ryfedd fod Dai yn ffefryn i gipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain, 2012.

O ran y merched, un enw sy'n sefyll allan yw un Kirsty McDermott (Wade wedyn), a chafwyd perfformiadau gwych ganddi yn y ras 800 metr. Daeth i amlygrwydd yn bennaf ym 1982, pan enillodd y ras 800 metr yng Ngemau'r Gymanwlad, Brisbane. Hi oedd y Gymraes gyntaf i ennill medal aur unigol mewn athletau yng Ngemau'r Gymanwlad. Bedair blynedd yn ddiweddarach, yng Ngemau'r Gymanwlad, Caeredin, aeth un yn well, a llwyddo i gipio'r medalau aur yn y ras 800 metr a 1500 metr.

Wyneb arall cyfarwydd yn ystod degawd ola'r ganrif oedd Hayley Tullett, ac uchafbwynt ei gyrfa hi oedd cipio'r fedal efydd yn y ras 1500 metr ym Mhencampwriaethau'r Byd, 2003.

Rasys hir

O edrych ar y rasys hirach, daw enwau sawl Cymro i'r amlwg. Mor bell yn 么l 芒 Gemau Olympaidd Llundain, 1948, roedd g诺r o Dorfaen, Thomas Richards, yn ennill medal arian yn y ras Marathon, ar 么l ras galed a hynod gyffrous.

Yn y 1950au athletwr amlycaf Cymru oedd John Disley, yn enedigol o Gorris. Roedd e'n cystadlu yn y ras ffos a pherth dros 3000 metr, ac fe sefydlodd bum record Brydeinig yn y ras honno, yn ogystal 芒 phedair record am y ras ddwy filltir. Yng Ngemau Olympaidd Helsinki, 1952, llwyddodd i fod y Prydeiniwr cyntaf erioed i redeg y ras ffos a pherth 3000 metr o dan naw munud. Medal efydd gafodd e yn y ras derfynol yn y gemau hynny. Roedd John yn rhedwr mynydd rhagorol hefyd.

Stadiwm a chartref darlledu Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd 1958
Daeth Gemau'r Gymanwlad i lannau'r Taf
yng Nghaerdydd yn 1958

Yn y 1980au, Steve Jones oedd yn cyflawni gwyrthiau. Ym 1984, ym Marathon Chicago, gosododd record byd newydd o 2 awr 8 munud 5 eiliad, ac enillodd y ras honno eto ym 1985 mewn amser o 2 awr 7 munud 13 eiliad - sy'n dal i fod yn record Brydeinig. Ym 1986 enillodd Steve bencampwriaeth traws gwlad Cymru am y nawfed tro. Tipyn o redwr!

Daeth Gemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad i Gaerdydd ym 1958, ac un o'r uchafbwyntiau oedd y ras 6 milltir, lle bu brwydr ddygn rhwng y Cymro, John Merriman, a Dave Power o Awstralia. Enillodd Merriman gryn glod drwy gipio'r fedal arian.

Fel cerddwr y daeth Steve Barry i amlygrwydd a'i bennaf camp oedd ennill y ras gerdded 30 cilomedr yng Ngemau'r Gymanwlad, Brisbane, 1982.

'Lynn the Leap'

Os llwyddon ni i gynhyrchu nifer dda o redwyr dros bob pellter, ychydig o lwyddiant a ddaeth i ran ein neidwyr, a dim ond un mewn gwirionedd a ellir ei ystyried fel neidiwr o safon byd. Hwnnw, wrth gwrs, yw , y bachgen o Nantymoel, a wnaeth enw iddo'i hun yn bennaf drwy ennill y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo, 1964. Wrth wneud hynny, llwyddodd i drechu dau o fawrion y gamp, sef Ralph Boston o'r Unol Daleithiau, ac Igor Ter-Ovanesyan o'r Undeb Sofietaidd.

Lynn Davies yn cystadlu yn y naid hir
Cipiodd Lynn Davies fedal aur yn Tokyo 1964 a
bu'n rheolwr t卯m Prydain Fawr wedi hynny

Bedair blynedd yn ddiweddarach, roedd y Gemau Olympaidd yn Ninas Mecsico, ac edrychai Lynn ymlaen yn eiddgar at y gystadleuaeth, a mawr oedd ein gobeithion. Ond ciliodd ein breuddwydion yn gynnar yn y gystadleuaeth, pan chwalwyd record y byd yn deilchion gan Bob Beamon o'r Unol Daleithiau, a neidiodd 8.90 metr. Cyn hynny, 8.35 metr oedd record y byd, ac mae gwahaniaeth o 55 centimetr yn anferth mewn naid hir.

Cystadleuodd Lynn eto yng Ngemau Olympaidd Munich, 1972, ond heb lwyddiant, a bu'n rheolwr t卯m Prydain Fawr yng ngemau Moscow a Los Angeles.

Ym 1994 llwyddodd Neil Winter i ennill y fedal aur yng nghystadleuaeth y naid polyn yng Ngemau'r Gymanwlad yn Victoria, Canada.

O ran y merched, yng Ngemau'r Gymanwlad yn Auckland, 1974, llwyddodd Ruth Martin-Jones i ennill y fedal efydd yng nghystadleuaeth y naid hir, ac ym Melbourne, 2006, enillodd Julie Crane fedal arian yng nghystadleuaeth y naid uchel.

Os edrychwn ar y cystadlaethau taflu, fe welwn mai prin iawn yw'r llwyddiannau mewn prif bencampwriaethau. Ond mae un neu ddau enw na allwn eu diystyrru, a'r pennaf ohonynt yw Shaun Pickering, a fu'n was ffyddlon iawn i athletau yng Nghymru. Fe fu wrthi'n gyson drwy'r 1980au a'r 90au, ac ym 1984 fe osododd record Gymreig newydd am daflu'r morthwyl, sef pellter o 68.64 metr - record sy'n dal i sefyll hyd heddiw.

Roedd e'n dal wrthi ym 1998 pan enillodd e deitl Cymru am daflu'r pwysau - y pedwerydd tro ar bymtheg iddo fe ennill y teitl hwn!

Merch a roddodd wasanaeth hirfaith i athletau oedd Venissa Head, ac ym 1988 enillodd ei 25ain teitl Cymreig drwy ennill y pwysau a'r ddisgen, a hynny am y degfed flwyddyn yn olynol! Gall Shaun a Venissa ymfalch茂o yn eu cyfraniad i athletau Cymru.

'Record anhygoel' Tanni Grey

Gwelodd y blynyddoedd diwethaf hyn dwf aruthrol ym mhoblogrwydd athletau i bobl gydag anableddau, ac yn dilyn Gemau Olympaidd Llundain, byddwn yn edrych ymlaen yn fawr at y Gemau Paralympaidd.

Ac wrth ystyried paralympwyr o Gymru, mae gennym ni ein brenhines, sef , sy'n cael ei chydnabod fel un o'r paralympwyr gorau erioed.

Tanni Grey-Thompson ar set cyflwyno Olympau 2008Mae
Tanni Grey-Thompson wedi dilyn gyrfa
deledu lwyddiannus fel cyflwynydd hefyd.

Ac mae ei record yn anhygoel - 16 o fedalau Olympaidd, yn cynnwys 11 aur, 4 arian ac 1 efydd, ac ennill Marathon Llundain chwe gwaith. Yn ystod ei gyrfa bu'n cystadlu mewn rasys dros bob pellter bron, o'r 100 metr i'r Marathon.

Yn Athen, 2004, roedd hi'n cystadlu yn ei phumed Gemau Paralympaidd, ac er bod y baich o baratoi a magu teulu yn un trwm, llwyddodd i ddod oddi yno gyda medalau aur am y rasys 100 metr a 400 metr.

Ar hyn o bryd un o'n gobeithion mawr yng nghystadlaethau athletau Gemau Paralympaidd Llundain yw Nathan Stephens, sy'n gallu taflu'r waywffon, y ddisgen a'r pwysau. Yn 2011 torrodd record y byd am daflu'r waywffon, a hefyd llwyddodd i ennill y fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd. Daeth yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd Beijing, 2008, am daflu'r waywffon, ac mae'n benderfynol o geisio gwella ar hynny yng Ngemau Llundain.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Cerdded

Beth am daith o gwmpas trefi Conwy neu Fachynlleth, gan ymweld 芒 llefydd hanesyddol?

Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Enwogion Cymru

Dylan Thomas

Dylan Thomas

Dyma ddiwrnod geni Dylan Thomas - bardd Cymreig enwoca'r byd.

Radio Cymru'n cofio digwyddiadau mawr y degawdau ar foreau Sadwrn.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.