大象传媒

Cenedl Newydd

top
Rhodri Morgan

Tymor cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ni fu'r tymor cyntaf heb ei helbulon. Cyn sefydlu'r Cynulliad, ymddiswyddodd Ron Davies o arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru. Achoswyd peth chwerwedd, yn arbennig yn Abertawe, gan y penderfyniad i leoli'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Roedd ethol Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd yn medru sawru o orymyrraeth gan y Blaid Lafur yn Llundain. Ymddiswyddodd ym mis Chwefror 2000, pan lwyddodd Rhodri Morgan yn ei drydydd cais i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Rhoddodd y gorau i'r teitl Prif Ysgrifennydd, a mabwysiadodd y teitl Prif Weinidog.

Ffigwr canolog yn hanes cynnar y Cynulliad oedd y llywydd (y 'llefarydd'), Dafydd Elis Thomas, yntau'n frwd i osod ffiniau rhwng r么l y Cynulliad a r么l Llywodraeth y Cynulliad. Ym mis Hydref 2000, ffurfiwyd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol, trefn a barodd hyd 2003, pan gynhaliwyd ail etholiad y Cynulliad.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2003-9

Yn 2003, etholwyd 30 dyn a 30 menyw i'r Cynulliad, gan beri iddo fod y corff cyntaf o'i fath yn y byd i gynnwys yn union yr un nifer o ddynion ag o fenywod. Roedd cabinet Rhodri Morgan hefyd yn ddigynsail, gan fod ynddo fwyafrif o fenywod. Yn 2004, cyhoeddwyd Adroddiad Richard, hwnnw am i'r Cynulliad gael pwerau deddfu, proses yr oedd y comisiynwyr yn credu y medrid ei gwblhau erbyn 2011 pe gymeradwyid y newid trwy refferendwm. Yn etholiad 2007, gostyngodd nifer yr aelodau Llafur o 30 i 26, gan esgor ar y syniad y medrai'r gwrthbleidiau greu clymblaid 'enfys' o dan arweiniad Plaid Cymru, hithau wedi ennill 15 sedd o gymharu 芒'r 12 i'r Ceidwadwyr a'r 6 i'r Democratiaid Rhyddfrydol. (Aelod annibynnol a etholwyd ym Mlaenau Gwent.) Ni lwyddwyd i sicrhau cefnogaeth ddigonol i'r syniad hwnnw, a'r canlyniad, annisgwyl braidd, oedd clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Cymru yn 2009

Er i'r Cynulliad gyflwyno rhai polis茂au poblogaidd, yn arbennig yngl欧n 芒 thaliadau presgripsiwn, profion mewn ysgolion a ffioedd addysg uwch, o'r braidd bod ei weithgareddau yn brif bwnc trafod Cymry 2009. Pwysicach o lawer oedd pynciau yn ymwneud 芒'r economi (yn arbennig yn sgil yr argyfwng ariannol a ddechreuodd yn haf 2008), 芒 chyflogaeth, 芒'r sefyllfa ryngwladol ac 芒 materion amgylcheddol. Dyma bynciau a oedd yn gyffredin i grynswth Prydain. Fodd bynnag, roedd gan y Cymry bynciau o ddiddordeb penodol iddynt hwy, yn arbennig yr angen i greu ymwybyddiaeth o uned genedlaethol hyfyw a'r ffaith eu bod, o safbwynt incwm, yn llithro y tu 么l i weddill trigolion y Deyrnas Unedig. Felly, y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mwy na digon i'w wneud; diddorol odiaeth, yn y blynyddoedd sydd i ddod, fydd gweld i ba raddau y mae'r Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad yn dygymod 芒'r her sy'n eu hwynebu.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.