大象传媒

Hanes Suddo'r Hindlea

top
Hindlea

Fis Hydref 1959 gwelwyd un o ddigwyddiadau mwyaf dramatig yn hanes morwrol Cymru. Roedd yn gan mlynedd yn union i'r dydd ers cafwyd damwain enbyd arall yn yr un man.

Yr hanesydd lleol Robin Evans sy'n olrhain hanes suddo llong yr Hindlea mewn storm a'r perygl mawr a wynebai griw bad achub Moelfre pan aeth y llong i drafferthion:

Ddydd Gwener y 23ain o Hydref roedd yr Hindlea ymhlith nifer o longau a oedd yn cysgodi ym mae Moelfre, ar arfordir dwyreiniol M么n. Stemar 506 tunnell yn perthyn i Gaerdydd oedd yr Hindlea, yn hwylio o Fanceinion i Gasnewydd. Ar y dydd Gwener symudodd y llong i lecyn cysgodol dros gyfnod y storm.

Yn anffodus i'r Hindlea, ar y 27ain o Hydref newidiodd cyfeiriad y gwynt yn ddi-rybudd. Yn hytrach na gwynt o'r de-orllewin yn awr roedd y gwynt o'r gogledd. Nid mewn man cysgodol oedd yr Hindlea a gweddill y llongau a oedd yn y bae erbyn hyn ond yn wynebu perygl mawr yn wyneb y storm. Darganfu'r Hindlea ei hun mewn trafferthion a rhaid oedd galw'r bad achub.

Dic Evans, Capten yr Hindlea

Y criw y diwrnod hwnnw oedd y Llywiwr, Dic Evans; Evan Owens, y peirianydd; Murley Francis, (a oedd i olynu Dic Evans fel Llywiwr mewn blynyddoedd i ddod); Hugh Owen (a oedd wedi ennill medal am ddewrder yn achos achub yr Excel yn 1927) a Hugh Jones (nad oedd erioed wedi bod mewn bad achub cyn y diwrnod hwnnw!).

Bad achub Moelfre ar y pryd oedd yr Edward and Mary Robinson, cwch dros dro a oedd wedi bod yn y pentref ers ychydig wythnosau'n unig. Fe'i lansiwyd am ddeng munud i hanner dydd gyda'r Hindlea mewn trafferthion mawr mewn gwynt o 80-90 milltir yr awr.

Erbyn i'r bad achub gyrraedd yr Hindlea, roedd y llong eisoes wedi ei gyrru'n agosach at y creigiau. Roedd y sefyllfa'n beryglus iawn i griw'r llong a'r bad achub.

Wrth i'r bad symud at ochr y llong fe'i thaflwyd ar ei hochr ac aeth ei mast o dan y d诺r - ond llwyddwyd i'w sefydlogi. Wedyn aeth y bad yn agosach at y llong, gyda'r tonnau yn ei chodi yn uwch na'r llong ac yna yn ei gollwng yn is na hi, bob yn ail. Ond bob tro y cododd y bad at lefel dec yr Hindlea byddai un aelod o'r criw yn neidio i ddiogelwch y bad achub. Fel hyn y llwyddwyd i achub y criw o wyth - un o'r gorchestion mwyaf yn hanes badau achub Ynysoedd Prydain.

Yr hyn sy'n codi arswyd ar y rhai ofergoelus yn ein plith yw union gan mlynedd cyn stori'r Hindlea, collwyd llong arall yn yr union run safle. Roedd llong y Royal Charter yn dychwelyd o lofa aur yn Melbourne, Awstralia gyda 452 o deithwyr ac aur gwerth 拢320,000 arni. Hwyliodd y llong i storm waethaf y ganrif a chollodd bawb eu bywydau. Ac hyd heddiw, credir fod yr aur yn dal i orffwys o dan y don.

Anrhydeddwyd criw yr Hindela fel a ganlyn am eu dewrder:

Y Llywiwr Dic Evans: Medal Aur yr RNLI

Evan Owens (y peiriannydd): Medal Arian

Murley Francis a Hugh Jones: Medal Efydd

Hugh Owen: clasp i'r Medal Efydd a dderbyniodd wedi achub yr Excel yn 1927.

Cofeb i Dic Evans

Ar lanw isel mae'n bosibl gweld gweddillion rhan o'r Hindlea. Mae un o angorion y llong ger y traeth yn Moelfre fel cofeb i'r digwyddiad.

Yn 2004 cafodd cerflun o Dic Evans ei dadorchuddio fel cofeb i'r g诺r arbennig hwn, oedd yn symbol o ddewrder criwiau badau achub ym mhobman. Mae gan Griw Achub Moelfre hanes arwrol o achub bywydau gyda dros 600 o fywydau wedi eu hachub yn y 150 o flynyddoedd a fu.

Mae Partneriaeth Moelfre hefyd wedi cyhoeddi llyfr, Arwyr Moelfre, sy'n olrhain hanes achub yr Hindlea. Ym mis Ebrill 2005, dadorchuddiwyd llechen las ar y clogwyn lle suddodd yr Hindlea i goff谩u dewrder y criw arbennig hwn.

Cyhoeddwyd gyfraniad Robin Evans yn wreiddiol yn 2004 ar 大象传媒 Lleol


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.