Boddi Tryweryn
topYn 1955 penderfynodd aelodau o Gyngor Dinas Lerpwl eu bod am foddi Cwm Tryweryn ger y Bala er mwyn cyflenwi d诺r i'r ddinas. Dyma benderfyniad wnaeth ysgwyd y wlad a gwelir y sgil-effeithiau hyd heddiw.
Mae'r bobol wedi mynd, mae'r blodau ar y llawr, d诺r oer sy'n cysgu yn Nhryweryn...
Meic Stevens
Er gwaethaf protestio ffyrnig yn lleol a thrwy Gymru, dros gyfnod o 10 mlynedd fe wagwyd y cwm, fe adeiladwyd yr argae, fe adawodd y trigolion eu tai ac yna, yn 1965, fe ddaeth y d诺r.
Daeth yr enw Tryweryn wedi hynny yn symbol pwerus yn hanes Cymru. Ond i'r teuluoedd oedd wedi byw ym mhentref Capel Celyn a'r cwm ers cenedlaethau, nid symbol oedd Tryweryn ond cartref. A bron i ddeugain mlynedd wedi boddi cwm Tryweryn, Rhodri Jones, gynt o fferm Craignant, sy'n adrodd hanes diwrnod olaf Ysgol Capel Celyn trwy lygaid plentyn:
"Be dwi'n ei gofio fwyaf am Celyn yw bod fy nhad a mam a 'nheulu yn siarad am y boddi 'ma oedd yn mynd i ddigwydd.
"Roedd 'na s么n adre ar y ffarm beth oedd yn mynd i ddigwydd i'r bobl ar 么l iddyn nhw gael eu hel o'u cartrefi. Ond doedd neb yn gwybod dim byd. Doedd pobl yr ardal ar y pryd ddim yn gallu cymryd beth oedd yn digwydd i fewn oherwydd 'doedden nhw ddim yn deall fod gan lywodraeth Lerpwl y dechnoleg i fedru boddi cwm cyfa' - roedd rhoi argae drosto a'i lenwi efo d诺r yn anhygoel iddyn nhw, ond fe 'da ni'n gwybod heddiw, mi ddaru nhw wneud hynny, ac yn hawdd hefyd.
"Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn dallt yn iawn beth oedd yn digwydd, ond roeddwn i yn dallt fod 'na bryder mawr ynghylch y bobl fyddai'n byw yn y cwm ar 么l i'r gymdeithas i chwalu. Lle 'roedden nhw am fynd i'r capel ac i gyfarfod? Roedd yn amser o drybini mawr i bobl Celyn.
"Fi oedd un o'r plant ola' i gael ei dderbyn i Ysgol Celyn. Wrth fynd i'r ysgol bob dydd, 'dwi'n cofio gweld y cwm yn cael ei ddinistrio gan y peiriannau mawr 'ma. Roedden nhw'n anferth - yn gwneud s诺n mawr a'r ysgol yn crynu wrth iddyn nhw fynd heibio yn cario'r llwythi o bridd yn 么l ac ymlaen.
"Beth sy'n glynu yn fy nghof i fwya' ydy clywed s诺n y 'chainsaws' yn gwneud s诺n drwy'r dydd, a gweld y coed yn cael eu towlyd o bellter, a s诺n y coed wrth iddyn nhw ddisgyn i lawr. Roedd y coed fel petasen nhw'n sgrechian, ac roedd yn dod yn agosach ac yn agosach at yr ysgol.
"Fydde ni'n cerdded adref wedyn, a gweld lyris yn pasio, bois yn siarad Saesneg, a'r tai yn cael eu chwalu - yn dod yn agosach ac yn agosach.
"Rhywbeth arall sy'n sefyll yn fy nghof i ydy mynd i'r ysgol ar y diwrnod ola'. Mi ddywedodd un o'r plant h欧n: "Miss, Miss. Ydy o'n wir bod nhw am chwalu'n hysgol ni?"
"A dyma Mrs Martha Roberts yn dweud: "Yndi blant, mae o'n wir, maen nhw'n mynd i chwalu'r ysgol a chario'r cerrig i wneud yr argae, a heddiw fydd y diwrnod olaf fyddwn ni'n eistedd yma fel ysgol. 'Den ni'n mynd i dynnu lluniau r诺an."
"Roedd yna newyddiadurwyr o gwmpas pan adawon ni'r ysgol. Dyma ni'n mynd allan, a Mrs Roberts yn tacluso yn union fel bydde hi'n ei wneud tase fo'n ddiwrnod cyffredin, a'n bod ni am fynd n么l fory, ond wrth gwrs 'doedden ni ddim am fynd yn 么l fory."
Yn 2005, fe wnaeth Cyngor Lerpwl i drigolion yr ardal ac i Gymru am foddi Trwyeryn.
Mae'n amlwg nad yw'r briw mor ddwfn i rai o drigolion Cymru. Yn 2006 cafodd y slogan enwog "Cofiwch Dryweryn" ei hailbaentio ar wal yn Llanrhystud ger Aberystwyth oherwydd graffiti.
Yn wreiddiol, cafodd y slogan ei sgrifennu yn fuan wedi boddi pentre Cwm Celyn yn y 60gau. Ond cafodd ei newid o 'Cofiwch Dryweryn' i "Angofiwch Dryweryn" (sic) gan y graffitiwr anhysbys. Mae'n bur anodd i lawer, yn arbennig y rhai a gollodd eu cartrefi, i ddilyn y cyngor hwn.
(Cyhoeddwyd cyfweliad Rhodri Jones yn wreiddiol yn 2004 ar safwe 大象传媒 Lleol.)