Pibau Cymreig
topMae'r Alban yn enwog am ei phibau - ond beth am Gymru?
Gyda'r Alban yr ydyn ni'n tueddu i gysylltu'r pibau. Ond yng nghymoedd y de mae 'na ymdrech ar y gweill i atgyfnerthu traddodiad y pibau Cymreig.
Mae'n debyg fod 'na son am bibau yng Nghymru mor bell yn 么l 芒'r 12fed Ganrif yng Nghyfreithiau Hywel Dda. Mae yna ddau fath o bibau Cymreig. Mae gan un math y frwynen ddwbl, fel sydd gan yr obo heddiw, a'r llall y frwynen sengl, fel sydd gan y clarin茅t.
Mae pibau adnabyddus yr Alban yn perthyn i deulu'r ddwy frwynen, a'r pibgorn Cymreig yn perthyn i deulu'r un frwynen, er y byddai'r ddau fath o bibau yn cael eu chwarae yn y ddwy wlad a hefyd, ledled y byd.
Teulu'r un frwynen yw'r hynaf. Pan ddaeth milwyr yn 么l o'r Crws芒d, daethant 芒 thechnoleg newydd o Arabia yn 么l gyda nhw, gan ddefnyddio'r ddwy frwynen i greu mwy o s诺n.
Nid oedd mor hawdd i addasu'r rhai gydag un brwynen fel y pibgorn Cymreig, ac felly mae'r offeryn wedi aros yn fwy hynafol ei sain. Erbyn heddiw, mae gennym ni'r pibau corn a'r pibau cwd - sef pib gorn mewn cwdyn, sy'n creu s诺n gwahanol.
Bu farw'r pibau cwd allan yng Nghymru tua 1860 ond parhaodd y pibau corn tan y 1920au. Felly roedd bwlch o ryw ddwy genhedlaeth cyn i rywun ail-ymafael yn y pibau corn. A dyna pam wnes i gychwyn. Es i at yr unig foi yng Nghymru oedd yn eu chwarae nhw ar y pryd a dechrau dysgu ganddo.
Un o brif nodweddion y pibau yw'r byrdwn. Mae'n bosib gwneud s诺n byrdwn ar unrhyw offeryn, ond y ffaith ei fod yn aros ar yr un nodyn yw nodwedd arbennig y Mae nhw'n perthyn i oes lle'r melodi, nid yr harmoni, oedd yn bwysig.
Erbyn heddiw mae'r Pibau Cymreig yn mwynhau adfywiad gyda pherfformwyr o Gymru yn arddangos eu doniau mewn Gwyliau rhyngwladol megis Lorient yn Llydaw a chyngerddau gan gerddorion Clera (Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru) ledled y wlad.
Ceri Rhys Matthews
Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar 大象传媒 Lleol.