John Evans a'r Indiaid Mandan
topY dyn wnaeth fynd ar daith fentrus i'r Amerig i ddod o hyd i 'ddisgynyddion Madog', yr Indiaid Mandan...
Disgynyddion Madog?
Magwyd John Evans yn Waunfawr ger Caernarfon. Wedi'i annog gan Iolo Morgannwg, aeth ar daith i America i chwilio am yr 'Indiaid Cymraeg' a oedd, yn 么l y gred, yn ddisgynyddion i'r tywysog Madog ab Owain o Wynedd.
Yn 么l y chwedl, hwyliodd Madog i America yn y ddeuddegfed ganrif ac ymsefydlu yno. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, roedd yn cael ei gysylltu 芒 llwyth y Mandaniaid a chredid bod elfennau o'u hiaith yn debyg i'r Gymraeg.
Indiaid Llygatlas
Cyrhaeddodd John Evans Baltimore fis Hydref 1792 cyn bwrw ymlaen ar droed tua'r gorllewin i chwilio am 'lwyth coll' yr Indiaid llygatlas. Pan gyrhaeddodd St Louis, cafodd ei garcharu gan y Llywodraethwr Sbaenaidd cyn cael ei ryddhau, a mynd ati i gynorthwyo'r Albanwr James MacKay i sefydlu amddiffynfeydd ar hyd afon y Missouri ac agor ffordd tuag at y M么r Tawel.
Erbyn 1796, ar 么l gorfod dianc rhag yr Indiaid Sioux, llwyddodd John Evans i gyrraedd y Mandaniaid yng ngogledd Dakota.
Diwedd trist
Rhonciodd y llong, a rhyw wancus egni'n ei sugno a'i lyncu. Trystiodd y tonnau trosti, bwlch ni ddangosai lle bu...
Madog gan T. Gwynn Jones
Bu'n byw efo nhw dros y gaeaf a chafodd ddylanwad mawr arnynt. Ond daeth i'r casgliad yn ddiweddarach nad oedd cysylltiad rhwng y Mandaniaid a'r Cymry. Er hynny, gwnaeth gyfraniad pwysig i hanes America drwy fod y dyn gwyn cyntaf i fapio hynt yr afon Missouri y tu hwnt i'r pwynt lle mae'r Mississippi yn ymuno 芒 hi. Roedd wedi cyflawni'r gamp o deithio 1,800 milltir i fyny'r afon. Daeth y map i ddwylo Thomas Jefferson a throsglwyddodd Jefferson ef i Lewis a Clark fu'n fforio'r ardal ychydig yn ddiweddarach.
Bu farw John Evans yn ddi-waith yn New Orleans yn 1799 yn ddim ond 29 mlwydd oed.