大象传媒

Myrddin

top
Myrddin

Hanes y Dewin chwedlonol, Myrddin, bardd o gig a gwaed o'r 6g sydd yn fyd-enwog hyd heddiw ac yn ran allweddol o fytholeg y Brenin Arthur.

Y Bardd Gwyllt

Heddiw rydym yn adnabod Myrddin fel y dewin hirwallt neu chyfaill y Brenin Arthur; rhyw gefnder i'r Dewin 'Dumbeldore' o straeon Harry Potter neu'n fachgen talentog fel y 'Merlin' a welwn yng nghyfres ddrama boblogaidd y 大象传媒. Ond pwy oedd y Myrddin go iawn? Ac ai Cymro oedd e mewn gwirionedd?

Mae Myrddin yn ymddangos am y tro cyntaf yn y 6g fel hen fardd egsentrig sydd wedi meithrin y gallu i broffwydo'r dyfodol.

Medd barddoniaeth anhysbys o'r cyfnod, bardd oedd Myrddin i Gwenddoleu, Brenin tiroedd Cymreig De'r Alban a Gogledd yr Iwerddon. Ond mae yna chwedloniaeth ei fod ef a'r Brenin Arthur wedi byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a Chaerfyrddin hefyd!

Ym Mrwydr enwog Arfderydd (Cumbria heddiw) yn 573 AD, cafodd Gwenddoleu ei ladd. O ganlyniad i'w alar, fe wnaeth Myrddin ddianc i goedwigoedd yr Alban gan ennill yr enw y 'Bardd Gwyllt'. Daeth yn enwog ar lafar gwlad am ei allu i ddarogan a phroffwydo'r dyfodol.

Dywed y ffynonellau hanesyddol canol-oesol fod pwerau Myrddin wedi tynnu sylw Sant Kentigern (neu Sant Mungo). Roedd y Sant yn gwrando'n aml ar broffwydoliaethau Myrddin a chafodd ysgytwad pan wnaeth y bardd broffwydo ei farwolaeth ei hun fel 'angau trifflig.'

Yn wir, cofnodwyd farwolaeth rhyfedd Myrddin fel a ganlyn -cafodd ei wthio oddi ar greigiau, ei drywanu gan waywffon yn yr afon Tweed gan farw yn y diwedd o foddi.

Uno dwy wlad?

Caerfyrddin
Caerfyrddin

Y gred yw bod Myrddin wedi ei gladdu ger dref Drumelzier ar lannau'r afon Tweed ar y ffin rhwng yr Alban a Lloegr. Fe broffwydodd Thomas 'the Rhymer' os fyddai'r afonydd Powsail a'r Tweed yn cwrdd wrth fedd Myrddin, byddai Lloegr a'r Alban yn cael yr un Brenin yn teyrnasu drostynt.

Credir mai'r Brenin Arthur oedd y 'Brenin' hwn. Mewn cyd-ddigwyddiad diddorol, gorlifodd yr afon Tweed ei glannau gan achosi llifogydd yn nhre Powsail ar y 24 o Fawrth 1603-yr union ddiwrnod cafodd Iago'r VI o'r Alban ei goroni yn Iago'r Iaf o Loegr. Yn rhyfeddach fyth, ar ei enedigaeth cafodd Iago ei alw'n 'Arthur bach' gan fod ganddo hawl dros orseddau'r Alban a Lloegr.

Mae Myrddin fel yr ydym yn ei adnabod heddiw yn ymddangos am y tro cyntaf yn 1138 yn y 'Historia Regum Britanniae gan Sieffrey o Fynwy (Geoffery of Monmouth). Roedd yr awdur o dras Gymreig-Normanaidd wedi newid enw 'Myrddin' i 'Merlin' gan fod ei enw Cymreig yn swnio'n rhy debyg i'r gair Ffrengig am ddom!

Diolch i Sieffrey o Fynwy cysylltir Myrddin heddiw gyda chwedl y Brenin Arthur a thyfodd yn gymeriad hanner meidrol, hanner hudol gyda phwerau arall-naturiol.

O'r cyfnod hwn hyd heddiw, mae Myrddin yn ran annatod o chwedloniaeth Celtaidd pwerus Cymru.

Derwen Myrddin

"Llan-llwch a fu, Caerfyrddin a sudd, Abergwili a saif..."

Proffwydo boddi Caerfyrddin

Ond mae traddodiad Myrddin wedi ei wreiddio'n ddwfn yng Nghaerfyrddin hefyd. Yn 么l traddodiad ganwyd Myrddin yn y dref yn niwedd y bumed ganrif. Hyd yn ddiweddar roedd 'Derwen Myrddin' i'w gweld yn Heol Y Prior, ar ochr y brif ffordd sy'n arwain drwy'r dref. Mae'n debyg fod y dderwen wedi sefyll yn y fan honno ers 1659.

Yn 么l proffwydoliaeth Myrddin byddai tref Caerfyrddin yn boddi pe byddai'r dderwen hon yn syrthio: "Llan-llwch a fu, Caerfyrddin a sudd, Abergwili a saif". Dyma pam y cafodd y goeden ei hatgyfnerthu 芒 choncrid a darnau o ddur ar 么l iddi wywo yn y 19eg ganrif.

Ond yn ystod y 1970au symudwyd i goeden er mwyn gwella'r ffordd a heddiw mae darn o'r dderwen i'w gweld yn Neuadd Ddinesig San Pedr. Yn rhyfedd iawn cafwyd y llifogydd gwaethaf ers cyn cof yng Nghaerfyrddin ym 1987, ychydig flynyddoedd wedi i'r dderwen gael ei symud o'i safle gwreiddiol.

Llun gan Rossetti o Camelot
Llun gan Rossetti o Camelot

Dylanwad y Ffrancod

Yna cafwyd dylanwad Ffrengig ar y stori gyda thri bardd canol-oesol o'r 12g, Wace, Robert de Boron a Chr茅tien de Troye, yn ychwanegu at yr Historia gydag elfennau hanfodol i'r chwedl.

Ymhelaethodd de Boron at bwerau hud Myrddin; creodd Wace Fwrdd Crwn enwog y Brenin Arthur; tra bod de Troye wedi creu y rhamant byd-enwog rhwng Gwenhwyfar a Lancelot a chastell ysblennydd Camelot.

Roedd y dadansoddiadau Ffrengig yn adlewyrchu diddordebau y gynulleidfa canol-oesol gyda phaganiaeth Celtaidd yn cael ei ddisodli gan sifalri, cariad a marchogion dewr ar gwest crefyddol.

Canfrifoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth llenorion y dydd addasu'r chwedlau ymhellach -y mwyaf enwog oedd Le Morte d'Arthur gan Syr Thomas Malory yn y 15g ganrif.

I'r diwrnod hwn, mae Le Morte d'Arthur yn cael ei ystyried yn stori semenol o Chwedl Arthur. Yn fersiwn Malory, roedd Myrddin yn garcharor mewn mwy nag un ffordd. Dywedodd Malory bod Myrddin wedi colli ei fywyd oherwydd melltith gan Nimue wnaeth ei gladdu mewn carreg.

Mae apel parhaol y chwedlau a thalent eu hysgrifennwyr wedi creu myth hynod o gref i Myrddin. Daeth y dewin yn eiconig; yn greadur hudol hynafol mewn clogyn hir gyda gwallt gwyn gwyllt a barf. Ef oedd archdeip y 'dewin' mewn diwylliant fel yr ydym yn ei adnabod heddiw. Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad fod Gandalf y dewin yn straeon Tolkien a Dumbledore yn straeon Harry Potter yn debyg iawn i Myrddin.

Myrddin heddiw

Merlin (大象传媒)
'Merlin' (大象传媒)

Yn y 19g cafwyd adfywiad yn niddordeb y cyhoedd am y Chwedlau Arthuraidd gyda beirdd fel Tennyson yn creu gweithiau cyfarwydd wedi eu seilio ar y straeon. Cafwyd darluniau enwog gan artistiaid fel Rossetti a William Waterhouse a gyfranodd at enwogrwydd trigolion Camelot.

Yn ystod y 20g cafwyd torreth o ffilmiau a gweithiau o ffuglen am y chwedlau ac mae'r gyfres 'Merlin' ar y 大象传媒 yn hynod o boblogaidd. Mae'r 'Myrddin' yma yn dra wahanol i'r ffigwr eiconig -yn fachgen ifanc heb farf na gwallt gwyn mewn golwg!

Sut gallwn esbonio apel bythwyrdd Myrddin a'r Chwedlau Arthuraidd? Mae cyfuniad o hud a lledrith, sifalri, cyffro brwydr ac arwraeth bob amser yn rysait poblogaidd. Yn sicr, bydd stori Myrddin yn dal i gyffroi am ganfrifoedd mwy i ddod.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.