Ruth Ellis
topHanes trasig Ruth Ellis, Cymraes o'r Rhyl ag ennillodd ddrwg enwogrwydd fel y ddynes olaf i'w chrogi ym Mhrydain.
O'r Rhyl i strydoedd Llundain
Ar ddiwedd yr ail ryfel byd, wedi ymron i chwe mlynedd o fodoli o dan gysgod bom ac yn s诺n bwled, dechreuodd y byd ddysgu byw unwaith eto. Daeth dynoliaeth allan o'i chuddfannau tywyll gan smicio'i hamrannau yn y golau anghyfarwydd, a theimlai'r genhedlaeth ifanc mai nhw oedd piau'r byd.
Ymhlith y rhai a gredai fod aur ar strydoedd Llundain roedd merch ifanc o'r Rhyl. Yn anffodus, nid cadwyn o aur a ganfu Ruth Ellis o gwmpas ei gwddf ond dolen rhaff.
Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi'n gyfreithlon yng ngwledydd Prydain, er i filoedd frwydro i geisio arbed ei bywyd, a'i dienyddiad hi fu'n bennaf cyfrifol am ddod 芒'r defnydd o'r gosb eithaf i ben.
Nid bod Ruth yn gofidio. Roedd arni eisiau marw, a chyda chymorth y gyfraith, gwireddwyd ei dymuniad.
Gallasai stori Ruth fod wedi dod o un o ffilmiau Hollywood - yn wir, yn ddiweddarach trowyd hanes ei bywyd yn ffilm ond rhywun arall, nid Ruth, oedd y seren. Chwilio am freuddwyd ond canfod tristwch fu hanes y ferch hon.
Geni yn y Rhyl
Ganwyd Ruth yn rhif 74 West Parade, y Rhyl, ar 9 Hydref 1926 yn un o ddwy ferch i Arthur ac Elisabeta Hornby, ef yn gerddor teithiol a hithau'n ffoadur rhyfel o Ffrainc.
Bedyddiwyd hi yn Ruth Nielsen, gan fabwysiadu enw proffesiynol ei thad, a phan oedd hi'n ferch ifanc proffwydodd y c芒i fywyd byr, ond hapus.
Dim ond rhan gyntaf y broffwydoliaeth honno ddaeth yn wir.
Symudodd y teulu i dde Lloegr wedi i'r tad gael gwaith gyda band ac yna i Lundain lle dechreuodd Ruth weithio mewn tai bwyta cyn symud ymlaen i'r clybiau nos fel gweinyddes a dawnswraig.
Yn 16 oed, ganwyd iddi ferch a gadawodd y tad, milwr o Ganada, hi i godi'r plentyn ar ei phen ei hunan.
Er mwyn cynnal ei phlentyn, trodd at fodelu'n noeth mewn stiwdio ffotograffydd, ond mewn gwirionedd putain oedd hi.
Priododd 芒 deintydd o Southampton, ond buan y canfu fod hwnnw'n alcoholig treisgar, ac yna cafodd Ruth swydd rheolwraig ar y Little Club gan Morris Conley, dyn busnes tra amheus a oedd hefyd yn berchen ar glwb Carroll's.
Cariad tyngedfennol
Un o aelodau'r clwb oedd David Blakely. Yn wir, ef oedd y cwsmer cyntaf i Ruth ei gyfarfod yno. Roedd Blakely yn rasio ceir a syrthiodd Ruth mewn cariad ag ef o'r funud y cerddodd ef i mewn i'r clwb.
Dyma'r union fath o ddyn y byddai Ruth yn ffoli arno, yn hardd yr olwg, yn gymdeithaswr di-ail, yn fwli ac yn gachgi.
Ac yntau'n gyn-ddisgybl o Ysgol Breswyl Amwythig, c芒i ei gynnal gan arian ei dad.
O fewn y flwyddyn roedd Ruth yn feichiog eto a Blakely yn dechrau canlyn merched eraill.
Yn y cyfamser aeth Ruth i fyw gyda dyn arall, Desmond Cussens, g诺r a oedd lawer yn h欧n na hi ac a oedd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad 芒 hi, ond roedd Ruth yn methu byw heb Blakely.
Saethu yn y stryd
Ar nos Wener y Groglith 1955 aeth Ruth i chwilio amdano. Gan nad oedd adref ar y pryd, ymosododd ar ei fan, a oedd wedi'i pharcio y tu allan i'w gartref.
Yna, ar y dydd Sul, a Ruth yn dal i chwilio amdano, gyrrwyd Blakely i dafarn y Magdala i brynu cwrw ar gyfer parti.
Pan gerddodd allan, camodd Ruth tuag ato, tynnodd wn llaw o'i bag a'i saethu ddwywaith.
Yna, 芒 Blakely yn gorwedd ar y stryd, saethodd ef ddwywaith neu deirgwaith eto cyn troi'r gwn arni hi ei hun.
Methodd Ruth 芒'i saethu ei hun, ond ni cheisiodd ddianc.
Cerddodd at ddyn a safai gerllaw a dweud wrtho, 'A wnewch chi alw am blismon?'
'Plismon ydw i,' atebodd y dyn. 'Yna, a wnewch chi, pl卯s, fy arestio i?' gofynnodd Ruth. Cafodd ei dymuniad.
addefodd ar unwaith mai ei bwriad oedd dod o hyd i Blakely a'i saethu.
yr achos llys cydweithiodd yn llawn 芒'r erlyniad, ac er iddi bledio'n ddieuog yn ffurfiol, doedd ganddi ddim gobaith.
Heddiw buasai wedi medru pledio cyfrifoldeb lleiha毛dig, ple a ddaeth yn gyfraith yn 1957 o ganlyniad uniongyrchol i achos Ruth.
Golygai hynny y byddai'r cyhuddiad o lofruddio wedi cael ei leihau i ddynladdiad ar sail creulondeb Blakely tuag ati.
Cafwyd hi yn euog a'i chondemnio i wynebu'r gosb eithaf.
Lladd mewn gwaed oer
Casglwyd deisebau di-rif yn galw am ddiddymu'r gosb, ond i ddim pwrpas. Roedd hi wedi lladd Blakely mewn gwaed oer ac wedi cyfaddef hynny.
Ei hymateb i'r rheiny a geisiodd achub ei bywyd oedd, 'Rwy'n ddiolchgar iawn, ond rwy'n ddigon hapus i farw'.
Yn rhyfedd iawn, ni aethpwyd ar 么l hanes y gwn.
Sut oedd merch mor fach 芒 Ruth wedi medru dygymod 芒 defnyddio dryll trwm .38 Smith Wesson heb i rywun ei hyfforddi? O ble cafodd hi'r gwn?
Credir erbyn hyn mai Desmond Cussens fu'n gyfrifol am ei roi iddi a'i dysgu i'w saethu, ond gwadu hynny a wnaeth ef.
Crogwyd Ruth Ellis gan y crogwrAlbert Pierrepoint ar 13 Gorffennaf 1955. Dengys yr adroddiad post-mortem iddi farw o ddatgymaliad yr asgwrn cefn, a arweiniodd at fwlch o ddwy fodfedd yn yr asgwrn hwnnw. Cafwyd olion brandi yn ei stumog.
Ar fore ei chrogi cyhoeddwyd erthygl gan Cassandra yn y Daily Mirror a ddaeth yn gyffes ffydd i wrthwynebwyr y gosb eithaf ar draws y byd.
'Mae hi'n ddiwrnod da i gywain gwair,' meddai. 'Mae hi'n ddiwrnod da i bysgota. Diwrnod da i orweddian yn yr haul. Ac i'r rheiny ohonoch sy'n teimlo felly - a thrist芒f wrth ddweud fod miliynau ohonoch yn teimlo felly - mae hi'n ddiwrnod da i grogi rhywun.'
Newid hanes
Ruth Ellis oedd y bymthegfed fenyw - a'r olaf - i gael ei chrogi ym Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Yn achlysurol ceisiwyd gan ei merch, oedd yn 3 oed pan fu farw ei mam, glirio'i henw a chaniat谩u iddi bardwn ar 么l marwolaeth. Dadl ei merch a'i chwaer oedd bod Ruth wedi lladd David Blakely yn wyneb cythrudd ac o ganlyniad i'r trais a achosodd hwnnw iddi. Ond bu pob ymgais yn ofer. O dan ddeddfau'r cyfnod roedd hi'n euog.
Bu'r ferch o'r Rhyl yn anffodus yn ei dewis o ddynion erioed, yn arbennig yn ei dewis o David Blakely.
Fel y dywedodd un o'i chofianwyr, 'Bu farw o gariad tuag at ddyn na haeddai'r cariad hwnnw.'
Mae stori drist Ruth wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau, gyda'r ffilm, 'Dance with a Stranger' gyda'r actores, Miranda Richardson yn portreadu Ruth yn llwyddiannus yn 1985, yn ennill gwobr yr Evening Standard am yr actores orau.
Gan Lyn Ebenezer