大象传媒

Suddo'r Bleiddiaid Llwydion

top
Llong-U yr Almaenwyr

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu brwydro ffyrnig rhwng y Cynghreiriaid a llongau tanfor U marwol yr Almaenwyr. Suddodd tair ohonynt oddi ar Ynys M么n.

Yma mae John Griffiths, yn wreiddiol o Gaergybi, yn s么n am bresenoldeb tywyll llongau tanfor y 'Bleiddiaid Llwydion' oddi ar arfordir gogledd orllewin Cymru:

"Tua diwedd yr Ail Ryfel Byd, fe drodd Prydain a'i chynghreiriaid eu sylw at un o ofnau mawr Churchill sef yr U-boats U Almaenig. Erbyn diwedd Brwydr yr Iwerydd, roedd y cynghreiriaid wedi deall tactegau'r Bleiddiaid Llwydion (y Grey Wolves) ac roedd buddugoliaeth o fewn eu gafael.

"Roedd porthladd Lerpwl yn darged amlwg i'r Almaenwyr. Er gwaethaf presenoldeb y Llynges a'r ffaith fod Caergybi yn ganolfan i griw bychan o'r Llynges gan gynnwys rhai o Lynges yr Iseldiroedd, roedd yr Almaenwyr yn ystyried yr ardal yn un gwerth cadw golwg arni hi.

Neges Olaf

Llong U yr Almaenwyr
Llong U yr Almaenwyr

"Yn ystod Ionawr 1945, gwelwyd U-1051 dan arweiniad Oberleutnant Heinrich von Holleben gan gr诺p o bedair llong sef HMS Aylmer, Calder, Bentinck a Manners ac fe'i suddwyd 53.3Gogledd, 05.23Gorllewin ganddynt ac fe gollodd y criw i gyd eu bywydau. Gyrfa fer fu gan y llong danfor math VIIC a dwy yn unig o longau'r gelyn a suddodd, cyfanswm o 425 tunell.

"Collwyd llong U arall sef yr U-246 dan Kapitanleutnant Ernst Raabe yn M么r Iwerddon a hynny 53.40Gogledd, 04.53Gorllewin - er nad oes neb yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd. Mae tranc math VIIC arall hefyd yn ddirgelwch a hanes y 48 oedd ar ei bwrdd. Fe glywyd ei neges olaf ar 5 Ebrill sef dyddiad ei suddo ond diflannodd hithau heb eglurhad. Does neb erioed wedi hawlio cyfrifoldeb. Cofnodwyd ei bod wedi ei 'cholli wrth ei gwaith' gan yr Almaenwyr gan y tybiwyd iddi suddo ym M么r Iwerddon ond ers hynny fe'i darganfuwyd rhwng Ynysoedd M么n a Manaw a hynny ddim yn bell or U-1051.

Colli llong

Heddiw, mae criw'r llongau a gollwyd yn dal ar 'batrol tragwyddol' ymhlith y 27,491 o Ubootfahrers eraill yn eu heirch haearn ar waelod y m么r.

"Ond efallai mai colli'r llong fwy, y VIIC/41, yw'r digwyddiad mwyaf diddorol. Dan gapteiniaeth Kapitanleutnant Hans-Joachim Gutteck roedd hi eisoes wedi suddo un llong 7,000 o dunelli. Roedd hi hefyd wedi ymosod ar ddwy long fasnach rhwng Ynys M么n ac Ynys Manaw wrth gadw golwg ar yr ardal - ac roedd hynny cystal 芒 gwahodd y Llynges i chwilio amdani hi. Ar Ebrill 12 1945 dynan union ddigwyddodd. Daeth yr Almaenwyr ar draws dwy long o wythfed gr诺p Gwarchod y Llynges -HMS Loch Glendhu a Loch More.

"Ymosododd y ddwy yn eu tro ar U-1024 gan ei gorfodi i ddod i'r wyneb ac roedd y criw yn barod i geisio dianc. Wrth iddi hi ymddangos ymosododd gynnaur Llynges arni'n ddidostur hyd nes y sylweddolwyd nad ceisio ymosod oedd yr Almaenwyr ond dianc. Bu farw Gutteck wrth i'r llong danfor ddod i'r wyneb a hynny yn dilyn ymosodiad gan y Llynges yn 么l yr Almaenwyr ond yn 么l adroddiadau'r Llynges fe laddodd ei hun.

Diwedd Rhyfel

"Pan ddaeth y saethu i ben, aeth criw o HMS Loch More ar fwrdd y llong U er mwyn tynnu hynny o offer gwerthfawr ag oedd bosib oddi arni gan gynnwys ei pheiriant enigma a'r codau. Fe geisiodd y Llynges dynnu'r bad yn 么l i Lerpwl. Ond roedd y difrod i'r U-1024 yn llawer iawn mwy na'r disgwyl ac ar 13 Ebrill fe suddodd 53.39G 05.03Gorllewin. O'r criw, roedd naw eisoes wedi marw ac fe garcharwyd y gweddill.

"Yn ddiddorol ddigon, roedd y llongau tanfor a gollwyd yng Ngogledd Orllewin M么n o'r un Flotille ym Mergen ac yn achos yr U-1024, hon oedd yr olaf i'w cholli. Prin fis ar 么l y suddo fe ddaeth y rhyfel yn Ewrop i ben."

Cyhoeddwyd gyfraniad John Griffiths yn wreiddiol ar wefan 大象传媒 Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.