Astudio rhan-amser
Nid bod yn fyfyriwr amser llawn yw鈥檙 unig ffordd
i ddysgu. Os wyt ti鈥檔 gweithio, yn ddi-waith, bod gen ti ymrwymiadau teuluol neu nad wyt ti鈥檔 gallu teithio,
mae鈥檔 dal yn bosib i ti astudio ac ennill cymwysterau.
Rhaid cael llawer iawn o hunan-ddisgyblaeth i astudio鈥檔
rhan-amser ac astudio gartref, ond os wyt ti鈥檔 ddigon penderfynol, mae鈥檔 bosib!
Dosbarthiadau rhan-amser yn ystod y dydd neu
fin nos
Mae canolfannau addysg gymuned lleol, colegau a
phrifysgolion yn cynnal pob math o gyrsiau rhan-amser sy鈥檔 arwain at gymwysterau yn ystod y dydd, fin
nos ac ar benwythnosau.
Os wyt ti dan 18 oed fel arfer ni fydd rhaid i ti
dalu unrhyw ff茂oedd am gyrsiau. Os wyt ti dros 18 ond yn hawlio budd-daliadau gwladol neu ar bensiwn efallai
i cei di dy esgusodi rhag talu ff茂oedd neu y cei di dalu cyfradd is.
Os wyt ti鈥檔 ddi-waith ac yn hawlio budd-d芒l efallai
y cei di astudio鈥檔 rhan-amser yn ystod y dydd hyd at nifer penodol o oriau鈥檙 dydd heb i hynny effeithio
ar dy fudd-d芒l, o dan raglen y Fargen Newydd. Hola yn dy Ganolfan Waith neu Swyddfa Fudd-daliadau.
Astudio gartref
Gelli astudio gartref neu yn y gwaith drwy gyrsiau
dysgu agored neu gyrsiau dysgu o bell gan ddefnyddio deunyddiau a chefnogaeth gan:
- Gyrsiau drwy ohebiaeth
- Colegau a phrifysgolion lleol
- Y Brifysgol Agored
- Coleg Agored y Celfyddydau
- Llyfrau, fideos a CDau dysgu-dy-hun
- Rhaglenni teledu a radio fel y sianel ddigidol newydd 大象传媒 Knowledge
- Gwasanaethau ar-lein fel 大象传媒鈥檚 Learning Zone
Mae rhai o鈥檙 rhain yn cynnwys cefnogaeth bersonol
gan diwtoriaid ar y ff么n neu drwy鈥檙 e-bost a seminarau neu gyrsiau byr o bryd i鈥檞 gilydd.
Talu am dy gwrs
TIP
TANBAID!
|
Gall
llinell wybodaeth rad ac am ddim y llywodraeth Learndirect
ar 0800 100 900 roi manylion am gyrsiau dysgu
rhan-amser a chyrsiau dysgu o bell a allai fod yn addas
i ti. Maen nhw hefyd yn rhoi cyngor ynglyn 芒 chymwysterau
a chyllid.
|
听
|