Beth mae cyflogwyr ei eisiau?
SGILIAU
Mae llawer o gyflogwyr yn credu fod sgiliau (y pethau y medri di eu gwneud) a rhinweddau personol (sut fath o berson wyt ti) cyn bwysiced, os nad yn bwysicach, na chymwysterau papur.
Cyffredinol
(Sgiliau trosglwyddadwy, cyffredinol sydd eu hangen ym mhob swydd bron)
- Cyfathrebu
- Sgiliau rhif
- TG
- Gwaith tîm
- Datrys problemau
- Rheoli dy ddysgu dy hun
- Gofal am gwsmeriaid
- Rheoli amser
- Hyblygrwydd
- Cynllunio a threfnu
- Cymhelliad a brwdfrydedd
- Gweld gwaith a gweithio ‘ar dy liwt dy hun’
Penodol-i-swydd
(Sgiliau arbennig sydd eu hangen ar gyfer swyddi unigol)
- Meddyg, plymer, peiriannydd, pen-cogydd, cyfreithiwr, gweithiwr trin gwallt, athro/athrawes, dyluniwr
– mae angen sgiliau arbennig ar bob un ohonynt ar gyfer eu swydd neu eu proffesiwn eu hunain.
CYMWYSTERAU
Mae cymwysterau’n dweud wrth gyflogwyr fod gen ti’r wybodaeth a’r sgiliau y maen nhw eu heisiau, ynghyd â’r egni a’r penderfyniad i gadw ati a llwyddo.
Academaidd cyffredinol
- TGAU
- Lefel A/AS
- Graddau (fel Saesneg, cymdeithaseg neu wyddoniaeth bur)
Galwedigaethol cyffredinol
- CGCCau a AVCEau
- BTEC
- HNDs a HNCs
- Graddau (fel technoleg, y gyfraith ac astudiaethau busnes)
Galwedigaethol neu penodol-i-swydd
- CGCau
- Graddau (fel nyrsio neu ddysgu)
- Cymwysterau proffesiynol (fel arholiadau Cymdeithas y Gyfraith neu Gyfrifeg Siartredig)
PROFIAD
Canfu arolwg diweddar o raddedigion fod profiad gwaith yn un o’r ffactorau allweddol o ran llwyddo i gael swydd.
- Cyfleoedd profiad gwaith
- Rhaglenni profiad gwaith ysgolion a cholegau
- Swyddi rhan-amser a thros y gwyliau
- Cynlluniau seiliedig-ar-waith fel Prentisiaethau Modern a Rhaglenni Hyfforddi Cenedlaethol.
- Cyrsiau galwedigaethol a rhyng-gyrsiau sy’n cynnig lleoliadau gwaith
- Gwaith gwirfoddol
- Prosiectau Blwyddyn Allan
- Cynlluniau sy’n cynnig profiad cyn mynd i brifysgol, fel ‘Blwyddyn mewn Diwydiant’.
TIP
TANBAID!
|
Gwna’n siwr dy fod ti’n gwybod pa sgiliau, cymwysterau a phrofiad sydd eu hangen arnat ar gyfer gwahanol swyddi a gyrfaoedd drwy edrych yn yr A-Z o Swyddi.
|
Beth mae cyflogwyr Cymru ei eisiau?
Defnyddia dy sgiliau dwyieithog
|