Dyw'r hen waith 'ma ddim fel y buodd e!
Cyfrifiaduron, robotiaid, peiriannau ffacs, e-bost, y Rhyngrwyd, teledu digidol... Dros yr 50 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi gweld chwyldro mewn technoleg, yn y ffordd rydyn ni’n byw a’r ffordd rydyn ni’n gweithio.
Mae ffyrdd traddodiadol o weithio yn diflannu. Mae hen swyddi’n marw a rhai newydd yn dod yn eu lle.
Er mwyn llwyddo ym marchnad swyddi gystadleuol yfory, mae gofyn i ti wybod am beth y bydd cyflogwyr yn chwilio. Mae cymwysterau’n bwysig, ond ni fydd cymwysterau’n unig fyth yn warant o swydd. Bydd angen y sgiliau a’r rhinweddau personol iawn i lwyddo yn y gwaith ac i wneud yn dda yn dy fywyd.
Sut mae gwaith yn newid?
Llai o swyddi â lefel isel o sgiliau, yn enwedig ym maes gweithgynhyrchu.
Mwy o swyddi mewn diwydiannau ‘gwasanaethu cwsmeriaid’, fel canolfannau galwadau.
Mwy o fenywod yn y gweithlu.
Mwy o bobl yn gallu gweithio o gartref yn sgîl technoleg swyddfa newydd fel cyfrifiaduron ac e-bost.
Ffyrdd mwy hyblyg o weithio, ond llai o sicrwydd – contractau am gyfnodau penodol, swyddi dros dro a rhan-amser a hunan-gyflogaeth.
Mwy o newid swyddi – bydd llai o bobl yn aros yn yr un swydd yn union drwy gydol eu hoes waith.
Beth mae pobl yn ei wneud?
Sicrhau fod ganddynt sgiliau trosglwyddadwy
Sgiliau ‘cyffredinol’ ac ‘allweddol’ yw’r rhain, fel cyfathrebu a gwaith tîm, ac mae eu hangen ym mhob swydd bron.
Dod yn weithwyr ‘gwybodaeth’
Pobl sydd â sgiliau uchel a chymhelliad uchel, sy’n gallu cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel heb lawer iawn o oruchwyliaeth.
Dysgu gydol eich oes
Diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau drwy gydol eu hoes waith.
Beth mae cyflogwyr yn ei wneud?
‘Torri i lawr’
Cyflogi llai o bobl neu beidio ag ail-lenwi swyddi gwag.
‘D²¹»å³ó²¹±ð²Ô³Ü’
Gostwng nifer y goruchwylwyr neu reolwyr, yn enwedig y rheolwyr ‘canol’.
'Llwytho swyddi’
Cynyddu lefel y cyfrifoldeb o fewn swyddi a disgwyl mwy gan bobl.
‘Defnyddio ffynonellau allanol’
Gostwng nifer y staff parhaol ‘craidd’ a chynyddu nifer y bobl ar gytundebau dros dro neu fyrdymor.
Beth ddylwn i ei wneud?
Gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynglyn â beth i’w astudio a hyfforddi ar ei gyfer, a sut a ble i wneud hynny.
Ennill cymwysterau – mae swyddi isel eu sgiliau yn diflannu.
Gwybod pa sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a datblygu’r sgiliau hynny.
Ennill profiad gwaith perthnasol.
Bod yn hyblyg ynglyn â dewis swyddi ac yn barod i ymaddasu i ffyrdd newydd o weithio.
Cynllunio a rheoli eich gyrfa – peidiwch â gadael hynny i siawns.
Gwella eich cymwysterau a’ch sgiliau drwy gydol eich oes waith.
Ìý
|